Hunanasesiad: Dyddiadau Allweddol

Cliciwch ar y dyddiad er mwyn cael gweld “Beth sy’n digwydd/Pam mae’r dyddiad hwn yn bwysig”.

Cynnwys

Dyddiadau Allweddol ar gyfer Cwblhau a Dychwelyd eich Ffurflen Dreth

Dyddiadau Allweddol Beth sy’n Digwydd / Pam mae’r Dyddiad hwn yn Bwysig?
6 Ebrill 2005 Dyma ddechrau blwyddyn dreth newydd.

Anfonir Ffurflen Dreth 2004-05 neu Rybudd i Gwblhau Ffurflen Dreth (SA316) at bawb sy’n derbyn ffurflen dreth bob blwyddyn.

31 Gorffennaf 2005 Codir ail gosb awtomatig o £100 arnoch os dylech fod wedi dychwelyd eich Ffurflen Dreth 2003-04 erbyn 31 Ionawr 2005, ond nid yw wedi cael ei dychwelyd.
30 Medi 2005

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur ar gyfer 2004-05, rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad hwn os ydych am i ni:

  • gyfrifo eich treth
  • roi gwybod i chi faint i’w dalu erbyn 31 Ionawr 2006
  • gasglu treth trwy eich cod treth, os yw’n bosib, os oes arnoch chi llai na £2,000.

(Os ydym yn derbyn eich Ffurflen Dreth ar bapur ar ôl 30 Medi, ac yn ei phrosesu erbyn 30 Rhagfyr, byddwn yn dal i gyfrifo eich treth, a byddwn yn dal i geisio casglu treth trwy eich cod treth, ond ni allwn warantu y byddwn yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu erbyn 31 Ionawr 2006.)

Cofiwch: Os ydych yn anfon eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd, bydd yr holl Ffurflenni a Meddalwedd Ar-lein yn cyfrifo eich rhwymedigaeth treth drosoch.

29 Rhagfyr 2005

Os ydy’ch asiant yn anfon eich Ffurflen Dreth trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyflwyno Electronig (ELS), rhaid iddynt ei dychwelyd erbyn y dyddiad hwn os ydych am i ni:

  • gasglu treth trwy eich cod treth, os yw’n bosib, os oes arnoch chi llai na £2,000.

30 Rhagfyr 2005 Os ydych yn anfon eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd, rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad hwn os ydych am i ni:
  • gasglu treth trwy eich cod treth, os yw’n bosib, os oes arnoch chi llai na £2,000.
31 Ionawr 2006 Os cawsoch Ffurflen Dreth erbyn 31 Hydref 2005 dyma’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich Ffurflen Dreth 2004-2005 wedi’i chwblhau.
1 Chwefror 2006 Os cawsoch Ffurflen Dreth erbyn 31 Hydref 2005 byddwch yn wynebu cosb o £100 os na fyddwn wedi derbyn eich ffurflen erbyn y dyddiad hwn.
6 Ebrill 2006 Dyma ddechrau blwyddyn dreth newydd.

Anfonir Ffurflen Dreth neu Rybudd i Gwblhau Ffurflen Dreth (SA316) at bawb sy’n derbyn ffurflen dreth bob blwyddyn.

Dyddiadau Allweddol ar gyfer Taliadau

Dyddiadau Allweddol Beth sy’n Digwydd?
31 Gorffennaf 2005

Efallai y bydd rhaid i rai pobl wneud ‘taliadau ar gyfrif’. Fel rheol bydd pob taliad yn gyfwerth ag un hanner o fil treth y flwyddyn flaenorol (ar ôl tynnu treth a ddidynnir wrth y ffynhonnell a chredydau treth ar ddifidendau). Mae’r taliadau yn daladwy ar 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth a 31 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth.

Os oes angen i chi wneud ail daliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth yn diweddu 5 Ebrill 2005, dylid ei dalu erbyn y dyddiad hwn.

Codir ail ordal awtomatig o 5% arnoch os oedd rhaid i chi dalu treth erbyn 31 Ionawr 2005, ac nid ydyw wedi cael ei thalu’n llawn erbyn 31 Gorffennaf 2005.

30 Medi 2005 Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth ar bapur ar gyfer 2004-05, rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad hwn os ydych am i ni gasglu treth trwy eich cod treth, os yw’n bosib, os oes arnoch chi llai na £2,000.
30 Rhagfyr 2005 Os ydych yn anfon eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2004-05 dros y Rhyngrwyd, rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad hwn os ydych am i ni gasglu treth trwy eich cod treth, os yw'n bosib, os oes arnoch chi llai na £2,000.
31 Ionawr 2006

Os cawsoch Ffurflen Dreth erbyn 31 Hydref 2005 dyma’r dyddiad cau ar gyfer talu unrhyw dreth sy’n weddill.

Codir llog os na fyddwn wedi derbyn eich taliad erbyn y dyddiad hwn.

Efallai y bydd rhaid i rai pobl wneud ‘taliadau ar gyfrif’. Fel rheol bydd pob taliad cyfwerth ag un hanner o fil treth y flwyddyn flaenorol (ar ôl tynnu treth a ddidynnir wrth y ffynhonnell a chredydau treth ar ddifidendau). Mae’r taliadau yn daladwy ar 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth a 31 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth.

Os oes angen i chi wneud taliad cyntaf ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth yn diweddu 5 Ebrill 2006, dylid ei dalu erbyn y dyddiad hwn.

28 Chwefror 2006 Codir gordal awtomatig o 5% arnoch os oedd rhaid i chi dalu treth ar gyfer 2004-05, ac nid ydyw wedi cael ei thalu’n llawn erbyn 28 Chwefror 2006.