Erbyn hyn, gallwch gwblhau a chyflwyno eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn gyfredol ar-lein. Mae Hunanasesiad Ar-lein yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n hawdd i’w defnyddio, yn ddiogel ac yn gywir. Wrth gyflwyno eich Ffurflen Dreth ar-lein, cyfrifir eich treth yn awtomatig, ac anfonir cydnabyddiaeth uniongyrchol atoch. Yn ogystal, os oes arian yn ddyledus i chi, cewch ad-daliad cyflymach o’i gymharu â’r gwasanaeth ar bapur.
Fel arall, mae'r Ffurflenni Treth a'r Nodiadau ar gael i'w gweld neu i'w dadlwytho.
Mae'r ffurflenni hyn i gyd ar ffurf (PDF). Er mwyn cadw dogfen ar eich disg galed:
Awgrym: Er mwyn cael hyd i ddogfen arbennig, dewiswch Golygu yna Darganfod ar ddewislen y porwr.
Dewiswch y Ffurflen Dreth briodol.