Hunanasesiad: Rhestr Llythyron a Ffurflenni
Mae'r rhestr ganlynol yn dangos y ffurflen Hunanasesiad gyffredin a llythyron a ffurflenni eraill. Mae'r rheiny sydd wedi'u tanlinellu ar gael i'w gweld neu eu dadlwytho. Maen nhw ar ffurf PDF. I edrych ar ddogfen PDF mae'n rhaid i chi gael Adobe Acrobat Reader wedi'i osod ar eich cyfrifiadur.
Am fanylion ynglyn â Ffurflenni Treth, Nodiadau a Thudalennau Cymorth, edrychwch ar dudalen Nodiadau a Thudalennau Cymorth Ffurflenni Treth.
Hunanasesiad
| Cyhoeddiad | Disgrifiad | Maint y Ffeil |
|---|---|---|
| Cadw cofnodion ar gyfer Hunanasesiad Mae'r daflen hon wedi cael ei chynhyrchu i'ch atgoffa am gyfrifoldeb cadw cofnodion ac mae'n esbonio'n fyr pwy ddylai gadw cofnodion a pham. (Ffeil PDF). Ionawr 2002. |
60K | |
| RITA500 |
Llythyr a anfonir yn awtomatig yn gofyn i chi dalu swm sy'n ddyledus. | |
| RITA508 |
Llythyr a anfonir yn awtomatig yn gofyn i chi ddychwelyd ffurflen dreth. | |
| RTC1 |
Llythyr a anfonir gan Uned Glercio Canolfan Cyswllt Ffôn yr adran Gasgliadau, os nad yw rhif ffôn ar gael, yn gofyn i drethdalwr gysylltu â ni. | |
| Datganiad o Gyfrif Datganiad o'ch cyfrif treth yw hwn. |
||
| Cyfrifiad Treth Byddwn yn anfon Cyfrifiad Treth atoch os ydych wedi gofyn i ni gyfrifo eich treth drosoch, gan ddefnyddio eich ffigurau. Os ydych wedi cyfrifo eich treth eich hun, byddwn yn anfon Cyfrifiad Treth diwygiedig atoch i ddangos unrhyw gywiriadau rydym wedi'u gwneud. |
||
| SA303 | Cais i ostwng taliadau ar gyfrifon (Ffeil PDF). | 40K |
| SA304 | Taliad a ddychwelwyd | |
| SA308 | Newid Swyddfa Dreth Hysbysiad yn dilyn swmp-drosglwyddiad. |
|
| SA309A | Nodyn atgoffa ffurflen Dreth a thaliad Fe'i hanfonir at unigolion ac ymddiriedolwyr ym mis Rhagfyr er mwyn eu hatgoffa i
Mae'r nodyn atgoffa hwn yn cynnwys slip talu a chyfarwyddiadau ynglyn
â sut i dalu. (Ffeil PDF). |
60K |
| SA309B | Nodyn Atgoffa ar gyfer ffurflen dreth Partneriaeth Fe'i hanfonir i bartneriaethau ym mis Rhagfyr i'w hatgoffa i anfon Ffurflen Dreth Partneriaeth erbyn 31 Ionawr os nad ydynt wedi gwneud hyn eisoes. Codir cosb o £100 ar bob partner os na dderbynnir y ffurflen erbyn 1 Chwefror. (Ffeil PDF). |
28K |
| SA309C | Nodyn atgoffa taliad mis Ionawr Fe'i hanfonir at unigolion ac ymddiriedolaethau ym mis Rhagfyr os yw Ffurflen Dreth wedi cael ei derbyn ond nid yw wedi cael ei phrosesu. Mae'n eich atgoffa i dalu unrhyw dreth sy'n daladwy erbyn 31 Ionawr mewn pryd er mwyn osgoi llog a gordaliadau. Mae slip talu a chyfarwyddiadau ynglyn â sut i dalu wedi'u cynnwys. (Ffeil PDF). |
|
| SA310 | Cydnabyddiaeth o ffurflen a dderbyniwyd yn ddirwystr | 51K |
| SA316 | Hysbysiad i gwblhau Ffurflen Dreth Caiff y ffurflen hon ei hanfon at drethdalwyr sy'n annhebygol o ddefnyddio'r Ffurflen Dreth bapur safonol. Er enghraifft, trethdalwyr sy'n dychwelyd eu ffurflen trwy ddull electronig gan ddefnyddio'r gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad, neu trethdalwyr lle mae eu hymgynghorwyr treth yn anfon y ffurflen trwy ddull electronig. |
|
| SA323 | Pennu'r dreth sy'n daladwy Mae hwn yn nodi ein hamcangyfrif o'r dreth sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn. Caiff ei hanfon atoch os yw'ch Ffurflen Dreth yn hwyr ac rydych yn meddwl eich bod heb dalu digon o dreth mewn pryd. |
|
| SA324 | Gordal ar gyfer talu treth yn hwyr Byddwn yn anfon y ffurflen hon atoch ym mis Mawrth os ydych wedi dychwelyd eich Ffurflen Dreth ond nid ydym wedi derbyn eich treth yn llwyr erbyn 28 Chwefror. Mae'n codi gordal o 5% o swm y dreth sy'n daladwy. Os yw treth yn daladwy o hyd chwe mis ar ôl y dyddiad cau, codir gordal ychwanegol o 5%. |
|
| SA326 | Cosb ar gyfer Ffurflen Dreth hwyr Byddwn yn anfon y ffurflen hon atoch ym mis Chwefror os nad ydych wedi anfon eich Ffurflen Dreth mewn pryd. Mae'n codi cosb o £100. Os nad ydych wedi anfon eich ffurflen chwe mis yn ddiweddarach, codir cosb bellach o £100. Os yw partneriaeth yn methu ag anfon ei ffurflen mewn pryd codir y cosbau ar bob un o'r partneriaid. |
|
| SA327 | Gwybodaeth am gyfrifon cleientiaid Fe'i cyhoeddir dwywaith y flwyddyn ym mis Rhagfyr a mis Mehefin. (Ffeil PDF). |
47K |
| SA328 | Hysbysiad Cosb Penodedig Awtomatig Sefydlog Cosb ar gyfer anfon ffurflen partneriaeth yn hwyr. |
|
| SA330 | Hysbysiad a anfonir at asiant ynglyn â statws derbyn ffurflen cleient, a gyhoeddir bob blwyddyn ym mis Chwefror. Ffurflen wedi'i dychwelyd a'i derbyn. Ffurflen wedi'i dychwelyd ond heb ei derbyn. Ffurflen heb ei dychwelyd. | |
| SA352 | "Peidiwch â cholli'r dyddiad cau 31 Ionawr" Taflen cosbau a gordaliadau. (Ffeil PDF). |
112K |
| SA353 | Taflen atodol - 'Eich gordal ar gyfer talu treth yn
hwyr' Mae'n esbonio'r gordal sy'n daladwy os nad ydych yn talu treth mewn pryd. |
|
| SA354 | Taflen atodol - 'Cyfrifiad Treth' | 30K |
| SA355 | Taflen atodol - 'Eich cosb ar gyfer eich ffurflen dreth
hwyr' Mae'n esbonio'r cosbau penodedig awtomatig os nad ydych yn dychwelyd ffurflen, heblaw partneriaethau. |
|
| SA356 | Taflen atodol - 'Eich cosb am anfon ffurflen dreth yn
hwyr' Mae'n esbonio'r cosbau penodedig awtomatig os nad ydych yn dychwelyd ffurflen partneriaeth. |
|
| SA357C | Sut i Dalu Gwybodaeth ar sut i dalu swm Hunanasesiad sy'n daladwy i Gyllid y Wlad. Ar gyfer pob taliad a anfonir at Swyddfa Cyfrifon Cumbernauld. (Ffeil PDF). |
42K |
| Sut i Dalu Gwybodaeth ar sut i dalu swm Hunanasesiad sy'n daladwy i Gyllid y Wlad. Ar gyfer pob taliad a anfonir at Swyddfa Cyfrifon Shipley. (Ffeil PDF). |
42K | |
| SA524 |
Asesiad Cyllid y Wlad | |
| SA525 |
Cydnabyddiaeth o apêl heb ohiriad | |
| SA526 | Cydnabyddiaeth o apêl a chais cysylltiedig am ohiriad a ystyrir yn briodol | |
| SA549 | Hysbysiad o newid yng nghyfrifoldeb Swyddfa Dreth (trosglwyddiad cofnod sengl) |
| Cyhoeddiad | Disgrifiad | Maint y Ffeil |
|---|---|---|
| Cyhoeddiad |
Disgrifiad | Maint y Ffeil |
| P2 |
Hysbysiad côd TWE Caiff ei hanfon ym mis Ionawr neu Chwefror a bydd yn cynnwys manylion am unrhyw dreth rydych wedi gofyn i ni gasglu trwy TWE. |
|
| P45 |
Manylion TWE cyflogai sy'n gadael Mae'ch cyflogwr yn rhoi'r ffurflen hon i chi pan fyddwch yn gadael swydd. |
|
| Ffurflen taliadau treuliau a buddiannau Os cawsoch dreuliau neu fuddiannau gan eich cyflogwr, fel arfer byddant yn rhoi copi i chi (erbyn 6 Gorffennaf) o'r manylion y maen nhw'n eu rhoi i Gyllid y Wlad ar ffurflen P11D. (Ffeil PDF). |
55K | |
| Tystysgrif TWE o'r cyflog a'r dreth a ddidynnwyd Os ydych yn gweithio ar 5 Ebrill, mae'ch cyflogwr yn rhoi'r dystysgrif hon i chi (erbyn 31 Mai). Mae'n dangos cyfanswm y cyflog at ddibenion Treth Incwm ar gyfer eich swydd bresennol a faint o dreth ac Yswiriant Gwladol a dalwyd. (Ffeil PDF). |
29K |
| Cyhoeddiad | Disgrifiad | Maint y Ffeil |
|---|---|---|
| 64-8 | Caniatâd i anfon copïau o ffurflenni a rhybuddion at asiant (Ffeil PDF). | 38K |
| CIS25 | Taleb talu treth y Diwydiant Adeiladu Mae'r contractwr yn cadw ac yn cwblhau'r ffurflen hon pan fydd yn talu isgontractiwr sydd â cherdyn cofrestru. |
| Hafan | ||||
