Hunanasesiad: Cwestiynau a Ofynnir yn Aml  
  Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ddychwelyd y ffurflen? Cw. Beth fydd yn digwydd / Beth alla i ddisgwyl ar ôl i mi anfon y ffurflen?

A. Fel rheol, byddwch yn gwybod bod Cyllid y Wlad wedi prosesu eich ffurflen dim ond pan gewch eich Datganiad o gyfrif, sy'n dangos y dreth sy'n daladwy yn seiliedig ar y ffigurau rydych wedi'u datgan. Yr unig amser y byddwn yn cysylltu â chi ar ôl derbyn eich ffurflen yw pan fu raid i ni gywiro cofnod ar y ffurflen, neu pan fyddwn wedi cyfrifo'r dreth drosoch. Yn yr achosion hyn, byddwn yn anfon Cyfrifiad Cyllid y Wlad (ffurflen SA 302) atoch.


Cw. Faint o amser sydd gan Gyllid y Wlad i ddechrau ymchwiliad?

A. Gallwn ddechrau ymchwiliad yn y cyfnod yn dechrau o'r dyddiad y mae'ch ffurflen yn cael ei derbyn ac yn diweddu deuddeg mis ar ôl y dyddiad cau penodedig (31 Ionawr) ar gyfer y flwyddyn honno. Mae hyn yn golygu os ydych yn anfon eich ffurflen dreth 2000-01 ar 1 Awst 2001, bydd gennym hyd at 30 Ionawr 2003 i ddechrau ymchwiliad.

Nid yw'r dyddiad pan ddychwelwch eich ffurflen yn cael unrhyw effaith ar ddechrau ymchwiliad i'ch ffurflen. Os ydych yn dychwelyd eich ffurflen yn hwyr, bydd gennym rhwng 12 a 15 mis o'r dyddiad y derbyniwn y ffurflen i ddechrau ymchwiliad.


Cw. Sut byddaf i'n gwybod os ydych yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'm ffurflen?

A. Os byddwn yn dechrau ymchwiliad i'ch ffurflen byddwn yn dweud wrthych trwy lythyr. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at eich ymgynghorydd treth os oes un gennych. Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn pen 12 mis o'r dyddiad cau blynyddol (31 Ionawr). Felly ar gyfer y ffurflen 2000-01 byddem yn ysgrifennu atoch erbyn 31 Ionawr 2003.

Os nad fyddwn yn ysgrifennu atoch erbyn hynny bydd eich ffurflen ar gyfer y flwyddyn honno yn derfynnol. (Gallem gynnal ymchwiliad iddi yn ddiweddarach os byddwn yn canfod nad ydych wedi dweud y cyfan wrthym ni).

Pan fydd yr ymchwiliad ar ben, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda'n casgliadau.

Ni fyddwn yn ysgrifennu atoch os na fyddwn yn cynnal ymchwiliad i'ch ffurflen.

Cw. Ydy fy ffurflen yn fwy tebygol o fod yn destun ymchwiliad os ydw i'n cyfrifo fy hun? / yn dychwelyd y ffurflen yn gynnar?

A. Nac ydy. Bydd y rhan fwyaf o ymchwiliadau yn cael eu cynnal ar y sail bod perygl y gallai rhywbeth fod o'i le. Bydd lleiafrif o achosion yn cael eu dewis ar hap hefyd i'w hymchwilio. Ni fydd dyddiad cyflwyno ffurflen, neu a ydych yn cyfrifo eich hun ai peidio, yn cael unrhyw effaith ar gynnal ymchwiliad i'ch ffurflen ai peidio.


Cw. A fydd ymchwiliadau'n digwydd ar hap?

A. Byddant. Byddwn yn cynnal ymchwiliadau i ffurflenni ac yn dewis achosion ar hap i'w hadolygu ar gyfer ymchwiliad posib. Ni fydd rhai o'r ffurflenni a ddewisir yn y ffordd hon yn cael eu hymchwilio oherwydd gallwn wirio'r cofnodion yn y ffurflen trwy ddefnyddio'r wybodaeth sydd gennym eisoes.

Trwy beidio â gwirio ffurflenni, gallai'r rheiny sydd am dwyllo feddwl nad oes modd iddynt gael eu dal. Yn ein barn ni, bydd ymchwiliadau ar hap yn help i ddarganfod y bobl hynny sy'n ceisio osgoi talu treth yn fwriadol.

Credwn hefyd mai trwy gynnal ymchwiliadau ar hap, y mae modd darganfod unrhyw broblemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gwblhau eu ffurflenni. Bydd hyn yn ein helpu i wneud y ffurflen yn gliriach.

Cw. Fyddwch chi'n gwirio fy manylion gyda'm cyflogwr / banc / cymdeithas adeiladu?

A. Byddwn. Byddwn yn cymharu gwybodaeth ar y ffurflen gyda'r wybodaeth a gawn o ffynonellau eraill fel cyflogwyr, banciau a chymdeithasau adeiladu. Os daw unrhyw anghysondebau i'r amlwg, mae'n bosib y byddwn am gynnal ymchwiliad i'ch ffurflen.
Ond chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cofnodi'r wybodaeth iawn ar eich ffurflen.


Cw. Beth sy'n digwydd os ydw i'n sylweddoli fy mod i wedi gwneud camgymeriad ar ôl anfon y ffurflen?

A. Mae blwyddyn gennych o'r dyddiad cau blynyddol (31 Ionawr) i wneud unrhyw newidiadau. Gallwch gysylltu â ni os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch.

   
Hafan
   Brig  |  Dewislen