Pa gofnodion ddylwn i eu cadw?
Cw. Sut ydw i'n gwybod pa gofnodion y dylwn i eu cadw? A. Bydd yn haws i chi reoli eich materion treth os ydych yn eu diweddaru'n gyson. Os ydych ar ei hôl hi, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu llog, gordaliadau a chosbau. Mae'n rhaid i bawb dan y gyfraith gadw cofnodion o'u hincwm a'u henillion cyfalaf am o leiaf 22 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maen nhw'n cyfeirio ati, er mwyn iddynt allu llenwi ffurflen dreth yn llawn ac yn gywir os ydynt yn derbyn un. Rhaid i bobl sydd â busnesau - fel yr hunangyflogedig a phartneriaid a'r rheiny sy'n gosod eiddo - gadw eu cofnodion am o leiaf pum mlynedd a deg mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maen nhw'n cyfeirio ati.
A. Mae mwy o wybodaeth ar gadw cofnodion ar gael yn: SA/BK3 - Hunanasesiad.
Canllaw ar gadw cofnodion i'r hunangyflogedig. |
|
| Hafan | ||||