Taliadau a Datganiadau o Gyfrif
A. Nac oes, yn bendant. Mae Hunanasesiad yn ffordd fwy clir ac effeithiol o wneud yn siwr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth ar yr adeg iawn. Nid yw'n dreth newydd ac nid yw'n effeithio ar swm y dreth y mae angen i chi dalu. Cw. Os bydd arnaf dreth i chi, a allwch chi ei chasglu trwy fy rhif côd? A. Gallwn, os ydych am i ni wneud hynny ac mae'r cyfanswm yn llai na £2000. Ond er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i chi anfon eich ffurflen atom erbyn 30 Medi. Byddwn yn anfon Datganiad o Gyfrif atoch yn cadarnhau bod hyn wedi cael ei wneud neu, os na allwn gasglu'r swm trwy eich côd am ryw reswm, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Cw. Pam ydych chi'n anfon Datganiad o Gyfrif ar gyfer symiau bach iawn? A. Mae Datganiad o Gyfrif (SA300) yn cael ei hanfon pan fydd rhaid talu swm penodol cyn bo hir. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael gwybod beth yw eu rhwymedigaeth o leiaf unwaith. Pe na fyddai Datganiad o Gyfrif o'r fath yn cael ei hanfon, yna ni fyddai unigolyn sydd â swm bach o dreth i'w dalu, ac sy'n dewis cyfrifo ei dreth ei hun (ac felly heb dderbyn Cyfrifiad Treth (SA302)), yn derbyn unrhyw gadarnhad o'r swm i'w dalu nes bod taliadau pellach (neu log) yn daladwy. A. Gallwch. Gallwch dalu'n electronig trwy wasanaeth Rhyngrwyd neu wasanaeth bancio dros y ffôn eich banc. Rydym hefyd yn derbyn taliadau trwy Gerdyn Debyd dros y ffôn neu'r Rhyngrwyd. Yn gyffredinol mae taliadau electronig yn fwy effeithlon a diogel na thaliadau trwy'r post. Cw. Beth sy'n digwydd os yw fy nhaliad yn hwyr? A. Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich taliad olaf i ni yw 31 Ionawr
ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Dangosir y dyddiad hwn ar eich Datganiad
o Gyfrif neu unrhyw nodyn atgoffa a dderbyniwch. Yn ogystal â llog, mae'n rhaid i chi dalu gordal o 5% ar unrhyw dreth sydd heb ei thalu ar ôl 28 Chwefror. Codir gordal pellach o 5% ar unrhyw symiau sydd heb eu talu ar ôl 31 Gorffennaf. Gallwch apelio yn erbyn hyn, ond bydd rhaid i chi ddangos bod achos da gennych dros golli'r dyddiad cau. Mae'r Llyfryn SA/BK7 - Hunanasesiad - Gordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr, yn darparu gwybodaeth bellach am ordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr. Gallwch edrych ar hwn o'r safle hwn neu gallwch gael copi ohono o'ch swyddfa Cyllid y Wlad leol. |
|
| Hafan | ||||
