Dyddiadau Allweddol
Cw. Beth yw'r dyddiadau pwysig dan Hunanasesiad? A. Y dyddiadau pwysig i drethdalwyr yw: Dyddiadau ar gyfer y Ffurflen Dreth
6ed Ebrill - Y flwyddyn dreth 30 Medi - Dyddiad cau ar gyfer anfon eich ffurflen dreth
31 Ionawr a 31 Gorffennaf - Talu'r dreth sy'n daladwy Fel arfer bydd taliadau ar gyfrif, sy'n gyfwerth â hanner y dreth incwm sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn flaenorol, yn daladwy ar ddau ddyddiad fel rheol
Dyddiadau ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion
Mae'n rhaid i gyflogwyr roi'r wybodaeth y mae ei hangen ar eu cyflogeion
er mwyn cwblhau eu
Am fwy o wybodaeth ar sut mae Hunanasesiad yn effeithio ar gyflogwyr, yn ogystal â rhai awgrymiadau defnyddiol, edrychwch ar yr adran Cyflogwyr ar dudalen Mynegai HA. Cw. Alla i gael estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen? A. Na allwch. 31 Ionawr yw'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth. Codir cosb awtomatig o £100 os nad ydym wedi derbyn eich ffurflen erbyn 1 Chwefror. Os yw'r Ffurflen Dreth heb gael ei derbyn chwe mis yn ddiweddarach, bydd rhaid i chi dalu £100 arall. Gallwch apelio yn erbyn hwn, ond bydd rhaid i chi ddangos bod achos da gennych dros golli'r dyddiad cau. Os ydych am i ni gyfrifo eich bil treth, dylech anfon eich ffurflen atom erbyn 30 Medi. Os ydym yn derbyn eich ffurflen ar ôl y dyddiad hwnnw, mae'n bosib na fyddwn yn gallu rhoi gwybod i chi mewn pryd beth sy'n rhaid i chi dalu er mwyn i chi ei dalu erbyn 31 Ionawr. Os yw'ch taliad yn hwyr efallai y codir llog arnoch ac o bosib gordaliad. Am fwy o wybodaeth ynglyn â chosbau gweler Llyfryn SA/BK6 - Hunanasesiad - Cosbau ar gyfer ffurflenni treth hwyr. Am fwy o wybodaeth ynglyn â gordaliadau, gweler Llyfryn SA/BK7 - Hunanasesiad - Gordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr. Gallwch edrych ar y rhain o'r safle hwn neu gallwch eu cael o'ch swyddfa Cyllid y Wlad leol. Cw. Os ydw i'n colli'r dyddiad ar gyfer cyfrifiad Cyllid y Wlad, fyddwch chi'n fodlon wneud hyn i mi? A. Byddwn. Byddwn yn hapus i gyfrifo eich treth i chi ond, os ydym yn derbyn eich ffurflen ar ôl 30 Medi, ni allwn warantu y gallwn roi gwybod i chi beth sy'n daladwy mewn pryd i chi dalu erbyn 31 Ionawr. Byddai hyn yn golygu bod rhaid i chi amcangyfrif faint i'w dalu. Os nad ydych yn talu digon, bydd rhaid i chi dalu llog ac o bosib gordaliad. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn y sefyllfa hon yn cael nodyn atgoffa ym mis Ionawr. Bydd hyn yn un o'r canlynol:
Mae'r Llyfryn SA/BK7 Hunanasesiad - Gordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr, yn rhoi gwybodaeth bellach ynglyn â'r gordaliadau sy'n daladwy os ydych yn talu treth yn hwyr. Gallwch edrych arno ar y safle hwn neu gael copi o'ch swyddfa Cyllid y Wlad leol. |
|||||
| Hafan | ||||
