Hunanasesiad: Cwestiynau a Ofynnir yn Aml  
 

Cyffredinol 


Cw. Beth yw Hunanasesiad?

A. Dan Hunanasesiad mae'n fwy clir beth sy'n rhaid i chi ei wneud i gael eich treth yn iawn y tro cyntaf, pryd mae'n rhaid i chi wneud hyn, a beth sy'n digwydd os nad ydych yn cwrdd â'r dyddiadau cau.

Mae'n gymwys i bawb sy'n derbyn ffurflen dreth. Ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn ffurflen dreth ac maen nhw'n talu trwy TWE neu drefniadau didynnu wrth y ffynhonnell eraill.

Cyhoeddwyd y ffurflen dreth Hunanasesiad gyntaf yn Ebrill 1997.

Mae'r ffurflen dreth Hunanasesiad yn cynnwys ffurflen graidd sylfaenol ynghyd â thudalennau atodol ar wahân - bydd y rhai a gewch chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o incwm a dderbyniwch.

Un o'r newidiadau mwyaf yw y bydd eich bil treth wedi'i seilio ar y ffigurau rydych yn eu nodi yn eich ffurflen dreth heb i ni eu gwirio'n fanwl gyntaf a chytuno arnynt. Byddwn yn eu gwirio yn ddiweddarach, o fewn blwyddyn o'r dyddiad cau terfynol ar gyfer dychwelyd y ffurflen atom (31 Ionawr).

Bydd angen i chi lenwi eich ffurflen gan roi manylion llawn am yr holl incwm trethadwy ac enillion a dderbynioch yn ystod y flwyddyn, a hawlio unrhyw lwfansau hefyd. Mae hyn yn golygu mai chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth, hyd yn oed os nad ydych yn cyfrifo'r dreth eich hun.

Byddwn yn cyfrifo eich bil treth i chi (yn wir, byddai'n well gennym wneud hyn) ond gallwch chi gyfrifo'r dreth eich hun os dymunwch.

Byddwn yn anfon cyfriflen atoch yn dangos faint sy'n daladwy a beth rydych wedi'i dalu.
Bydd un bil treth ac un set o ddyddiadau talu.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynglyn -â'ch materion treth gallwch gysylltu â'ch swyddfa Cyllid y Wlad leol (dangosir y rhif ffôn ar flaen eich ffurflen dreth). Y tu allan i oriau swyddfa mae cyfleuster Llinell Gymorth hefyd a gallwch ei ffonio ar 0845 9000 444 (Saesneg yn unig) i gael cyngor cyffredinol. (Os ydych yn ffonio o dramor y rhif ffôn yw: 44 451 555445).

Cw. Beth sydd wedi gwella dan Hunanasesiad?

A. Mae Hunanasesiad yn darparu:

  • ffurflen hawdd i'w dilyn wedi'i theilwra i'ch amgylchiadau chi sy'n ymdrin â'ch holl ffynonellau incwm ac enillion, a'ch gostyngiadau, didyniadau a lwfansau ar gyfer un flwyddyn.
  • adran ar wahân lle y gallwch gyfrifo eich treth eich hun, os dymunwch. Os nad ydych am wneud hyn, byddwn yn ei wneud drosoch
  • un set o ddyddiadau talu ar gyfer treth nad yw'n cael ei thalu wrth y ffynhonnell
  • un man cyswllt ar gyfer eich materion treth
  • cyfriflen glir o'ch cyfrif gyda ni, sy'n dangos taliadau sy'n ddyledus a'r taliadau a dalwyd.

Cw. I bwy mae Hunanasesiad yn berthnasol?

A. Mae Hunanasesiad yn berthnasol i'r canlynol:

  • pobl hunangyflogedig gan gynnwys partneriaid busnes
  • cyfarwyddwyr cwmnïau
  • pobl eraill sydd â materion treth mwy cymhleth gan gynnwys pobl sy'n talu treth cyfradd uwch
  • pensiynwyr sydd â materion treth mwy cymhleth
  • pobl a dderbyniodd rent neu incwm arall o dir ac eiddo yn y DU
  • ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr personol
  • ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn hunan-weinyddu cymeradwy
  • cwmnïau di-breswyl sy'n landlordiaid

Am fwy o wybodaeth dewiswch y categori perthnasol o dudalen mynegai HA.

Cw. Oes rhaid i mi gyflogi cyfrifydd?

A. Chi fydd yn penderfynu a ydych am ddefnyddio cyfrifydd neu beidio.

Mae'r mwyafrif o bobl hunangyflogedig eisoes yn defnyddio cyfrifyddion ac efallai y byddant am barhau i wneud hynny. Cyflwynodd Hunanasesiad reolau newydd a oedd yn ei gwneud hi'n haws i chi ddeall eich treth. Felly os nad oeddech chi'n defnyddio cyfrifydd dan yr hen system, nid yw'n debyg y bydd angen un arnoch ar gyfer Hunanasesiad.

Mae pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol i gael cyfrifwyr am resymau eraill heblaw delio â'u materion treth, er enghraifft, mae cadw cyfrifon priodol yn eu helpu i reoli eu busnes yn well.

Cw. Sut mae Hunanasesiad wedi effeithio ar bartneriaethau?

A. Gyda chyflwyniad Hunanasesiad, daeth ddau brif newid:

  • Nid yw partneriaeth yn cael ei hasesu mwyach ar ei helw yn enw'r bartneriaeth. Yn lle hynny, mae'r partneriaid yn cael eu hasesu ar wahân ac yn talu treth ar eu cyfran nhw o'r elw. Mae fel pe bai'r holl bartneriaid mewn busnes ar eu pennau eu hunain.
  • Mae partneriaid yn gwbl gyfrifol am y dreth ar eu cyfran nhw o'r elw. Nid oes rhaid iddynt dalu'r dreth sy'n daladwy gan bartner arall mwyach.

Mae'n rhaid i bartneriaeth anfon ffurflen partneriaeth atom o hyd sy'n dangos cyfanswm elw neu golled y busnes partneriaeth, unrhyw wybodaeth gysylltiedig, a'r rhaniad rhwng partneriaid. Gall un partner gael ei enwebu i fod yn gyfrifol am y ffurflen dreth partneriaeth OND bydd unrhyw gosbau ar gyfer anfon y ffurflen yn hwyr yn cael eu codi ar bob partner.

Un peth sydd heb newid yw cyd-rwymedigaeth - mae'n aros yr un peth ar gyfer dyledion busnes partneriaeth - er enghraifft, y dreth TWE ar gyflogeion, lle bydd yr holl bartneriaid yn atebol.

   
Hafan
   Brig  |  Dewislen