Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth
A. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn cael unrhyw incwm y dylid codi treth arno (h.y. incwm trethadwy neu enillion cyfalaf ac ni chodwyd treth lawn arno wrth y ffynhonnell) ac efallai nad ydym yn gwybod amdano. Rhaid i chi wneud hyn erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth pan dderbynioch chi'r incwm. Mae'n bosib y bydd angen neu mae'n bosib na fydd angen i ni anfon ffurflen dreth atoch - bydd rhai trethdalwyr yn gallu talu'r swm cywir o dreth trwy addasu eu côd TWE. Os ydych yn colli'r dyddiad hwnnw, dywedwch wrthym yn syth oherwydd gall swm y dreth sydd heb gael ei thalu ar y 31 Ionawr dilynol effeithio ar unrhyw gosbau y bydd rhaid i chi dalu. Cw. Rwy'n talu treth trwy'r system TWE (Talu Wrth Ennill) ond rydw i wedi derbyn Ffurflen Dreth. Oes rhaid i mi ei llenwi? A. Os cewch Ffurflen Dreth mae'n rhaid i chi ei chwblhau a'i dychwelyd mewn pryd. Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol, trwy rybudd, i unrhyw berson ddatgan ei incwm, ac am y rheswm hwn mae'ch Ffurflen Dreth yn gofyn am fanylion llawn eich holl Incwm ac Enillion Cyfalaf.
A. Gallwch - gallwch gwblhau a dychwelyd eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad (SA100) a thudalennau atodol dros y Rhyngrwyd. Ewch i dudalennau Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad am fanylion. Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth
A. Penderfynwch os ydych am gyflwyno eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd neu beidio. Ewch i dudalennau gwe Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad am fanylion. Os nad ydych eisoes wedi dechrau cwblhau eich ffurflen, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw gwneud yn siwr p'un a oes angen unrhyw dudalennau atodol arnoch nad ydym wedi anfon atoch. Os oes angen y rhain arnoch, cysylltwch â'r Llinell Archebu ar 0845 7 660830 (os ydych yn ffonio o dramor ffoniwch 44 870 1555664) a byddant yn eu hanfon atoch. Fel arall gallwch ddadlwytho Ffurflenni Treth a Nodiadau o'r safle hwn. Y peth nesaf yw edrych dros y ffurflen a darllen y canllaw i'r ffurflen dreth sy'n dod gyda'r ffurflen - bydd hyn yn helpu esbonio sut i lenwi'r ffurflen. Bydd y canllaw hefyd yn dweud wrthych am y Tudalennau Cymorth sydd ar gael. Gallwch hefyd archebu'r rhain o'r Llinell Archebu ar 0845 7 660830 (os ydych yn ffonio o dramor ffoniwch 44 870 1555664) neu dadlwythwch nhw o'r tudalennau Ffurflenni Treth a Nodiadau. Y peth olaf yw casglwch ynghyd yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau'r ffurflen. Os oes angen cymorth arnoch gallwch gysylltu â swyddfa leol Cyllid y Wlad, byddant yn hapus i'ch helpu. Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i oriau swyddfa gallwch ffonio ein Llinell Gymorth ar 0845 9000 444 (yn Saesneg). Codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau hyn. (Os ydych yn ffonio o dramor y rhif ffôn yw 44 541 555445). Cw. Ydych chi am gael fy P60 neu gopi o'm ffurflen P11D/P9D? A. Na. Rhowch yr holl fanylion o'r ffurflenni hyn ar eich ffurflen dreth. Dylech gadw eich P60 a chopi o ffurflen P11D/P9D gyda gweddill eich cofnodion treth rhag ofn bod unrhyw ymholiadau ynglyn â'ch ffurflen. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar gadw cofnodion yn: SA/BK3 - Hunanasesiad.
Canllaw ar gadw cofnodion i'r hunangyflogedig, a Cw. Os nad yw'r wybodaeth iawn gen i alla i ddyfalu / amcangyfrif? A. Fel rheol bydd yr wybodaeth angenrheidiol gennych. Ond os oes rhywbeth nad ydych yn siwr ohono, dylech nodi eich amcangyfrifiad gorau ar y ffurflen a dweud wrthym pam nad yw'r ffigur terfynol ar gael eto a'r dyddiad pan rydych yn disgwyl rhoi'r ffigurau terfynol i ni. Yna dylech roi'r ffigur cywir i ni cyn gynted ag y bo ar gael. Ni ddylech adael y blwch perthnasol yn wag, neu roi 'manylion i ddilyn' oherwydd bydd eich ffurflen yn anghyflawn. Cofiwch: rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflen mewn pryd. Am wybodaeth ar ddyddiadau a dyddiadau cau a siart hwylus i'w hargraffu, edrychwch ar 'Ddyddiadau Allweddol'.
A. Rhaid i chi gwblhau eich ffurflen yn llawn a'i hanfon atom erbyn y dyddiad cau o'ch dewis. Mae dau ddyddiad pwysig i'w cofio
30 Medi ar ôl ddiwedd y flwyddyn dreth Dylech ddychwelyd eich Ffurflen Dreth wedi'i chwblhau atom erbyn 30 Medi os ydych am i ni
31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth Os ydych am gyfrifo eich bil treth eich hun, rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen atom erbyn 31 Ionawr. Os nad ydych yn siw^r beth i'w roi yn eich ffurflen yna gofynnwch i'ch swyddfa Cyllid y Wlad leol am gymorth neu - y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Llinell Gymorth ar 0845 7 660830 cyn ei dychwelyd. Os oes angen i chi nodi ffigur tybiedig yna mae'n rhaid i chi ddweud wrthym beth yw'r rheswm am hyn a nodi'r dyddiad y disgwylir y byddwch yn gallu rhoi'r ffigur terfynol i ni. Os, yn ddiweddarach, rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio nodi rhywbeth yn eich ffurflen, neu mae angen i chi newid rhywbeth, mae blwyddyn gennych o'r dyddiad cau blynyddol (31 Ionawr) i wneud unrhyw newidiadau. Am wybodaeth ynglyn â dyddiadau a dyddiadau cau, a hefyd siart hwylus i'w hargraffu, edrychwch ar Ddyddiadau Allweddol. Os ydych yn gwneud newidiadau, ac oherwydd hyn mae mwy o dreth yn daladwy, efallai y bydd rhaid i chi dalu llog. Mae SA/BK7 Hunanasesiad - Gordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr yn darparu gwybodaeth bellach ynglyn â gordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr. Gallwch edrych arno ar y safle hwn neu gael copi ohono o'ch swyddfa Cyllid y Wlad leol. Cw. Beth ydw i'n ei wneud os oes gwybodaeth rwy'n meddwl y mae ei hangen arnoch ond ni allaf ddod o hyd i'r blwch / dydych chi ddim wedi gofyn amdani? A. Bydd y ffurflen a'r nodiadau arweiniad yn eich helpu chi neu eich ymgynghorydd treth i benderfynu pa wybodaeth y mae ei hangen i gwblhau eich ffurflen a hunanasesu. Os nad ydych yn siwr p'un a oes angen cynnwys gwybodaeth ychwanegol gyda'r ffurflen, gallwch ymgynghori â'ch ymgynghorydd treth neu drafod y mater gyda ni. Lluniwyd y ffurflen i'ch galluogi i gynnwys yr holl fanylion angenrheidiol er mwyn gallu hunanasesu, ond gallwch anfon gwybodaeth ychwanegol os ydych o'r farn ei bod yn berthnasol i'ch rhwymedigaeth i dreth, ac ni allwch ei chynnwys yn y bylchau a'r blychau a ddarperir yn y ffurflen. Byddwn yn derbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol a anfonwch gyda'r ffurflen, ond rydym yn eich argymell i esbonio pam y credwch ei fod yn berthnasol.
A. Nid yw Lwfansau Personol yn drosglwyddadwy. Lwfansau sydd heb eu defnyddio y gellid eu trosglwyddo yw Lwfans Person Dall a Lwfans Pâr Priod. Os yw'ch priod yn gallu hawlio'r lwfansau hyn, ac nid oedd digon o incwm gan eich priod yn y flwyddyn berthnasol i ddefnyddio'r lwfans, gellir trosglwyddo'r gweddill. Cysylltwch â'ch swyddfa Cyllid y Wlad os ydych yn ansicr ynglyn â hyn.
A. Na allwch. Mae'r Lwfans Personol ar gael er mwyn rhoi rhyddhad yn erbyn Treth Incwm yn unig ac nid Treth Enillion Cyfalaf.
A. Chi sy'n gyfrifol am fanwl gywirdeb eich ffurflen. Os ydych yn anghytuno â'r wybodaeth a ddarparwyd gan eich cyflogwr neu'ch banc, dylech gynnwys yr wybodaeth rydych chi'n meddwl sy'n gywir. Ni ddylech oedi cyn dychwelyd eich ffurflen oherwydd ni allwch gytuno â'ch cyflogwr neu'ch banc ynglyn â ffigurau penodol.
A. Mae'n drefniant rhwng y cyflogwr a'r swyddfa dreth. Mae'n eich arbed rhag mynd i'r trafferth o ddatgan y treuliau hynny a gynhwysir dan yr oddefeb, ac yna gwneud cais am yr un swm o dreuliau a ganiateir rydych wedi'i dalu.
A. Na. Rhaid i bob trethdalwr hunangyflogedig gwblhau tudalen SE3 os yw'n briodol.
A. Cyfeiriwch at y nodiadau ar Hunangyflogaeth SEN7 sy'n rhoi manylion am y treuliau mwyaf cyffredin a ganiateir a'r rheiny na chaniateir.
A. Na. Lluniwyd y ffurflen dreth newydd i alluogi'r rhan fwyaf o drethdalwyr i ddarparu'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnom heb gyfrifon a chyfrifiannau. Er enghraifft, byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth am eich cyfrifon mewn adran arbennig o'r ffurflen o'r enw 'Gwybodaeth Cyfrifon Safonol'. Er na fyddwn yn gofyn am gyfrifon fel rheol, nid yw hwn yn golygu na allwch ddychwelyd cyfrifon gyda'r ffurflen os ydych am wneud hynny, er enghraifft, efallai eu bod yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol yr hoffech i ni ei gweld. Yn ein barn ni, nid yw cyfrifon yn debygol o roi gwybodaeth ychwanegol i ni oni bai fod eich busnes yn arbennig o fawr neu gymhleth. Am y rheswm hwn, gofynnwn am gyfrifon a chyfrifiadau ar gyfer partneriaethau sydd â throsiant o £15 miliwn neu fwy yn unig. Ond os ydych mewn partneriaeth sydd â throsiant o £15 miliwn neu fwy, mae'n rhaid i chi anfon eich cyfrifon yn lle cwblhau'r Wybodaeth Cyfrifon Safonol.
A. Anfonwch y dogfennau y gofynnir amdanynt yn y ffurflen yn unig. Er enghraifft, os ydych yn isgontractiwr anfonwch eich ffurflenni CIS25.
A. Fel rheol dylech anfon eich Ffurflen Dreth i'r cyfeiriad ar
flaen y ffurflen. Fel arfer bydd y geiriau Swyddog â Gofal ar ddechrau'r
cyfeiriad hwn. Os yw eich swyddfa Cyllid y Wlad wedi newid ers i'ch Ffurflen
Dreth gael ei hanfon, dylech ei dychwelyd i'ch swyddfa bresennol. Hefyd
gallwch ei chyflwyno yn unrhyw Ganolfan Ymholiadau
Cyllid y Wlad (IREC) neu swyddfa Cyllid
y Wlad leol os yw'n fwy cyfleus. |
|
