Hunanasesiad: Cyflogeion a Chyfarwyddwyr  
  Cynnwys
Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i?

Nid yw'r rhan fwyaf o weithwyr yn derbyn ffurflen dreth i'w chwblhau ac mae eu treth incwm yn cael ei ddidynnu wrth y ffynhonnell gan eu cyflogwyr neu ddarparwyr pensiwn trwy'r system TWE, a fydd yn parhau fel o'r blaen. Anfonir ffurflenni treth at:

  • gyfarwyddwyr
  • gweithwyr a phensiynwyr sy'n talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant)
  • gweithwyr a phensiynwyr sydd â materion treth mwy cymhleth.

Pa gofnodion ddylwn i eu cadw?

Dylai pawb sy'n talu treth, rywbryd neu'i gilydd, dderbyn cofnod o'r dreth a dalwyd. O Ebrill 1996, bydd yn ofynnol dan y gyfraith i chi gadw'r cofnodion hyn a chofnodion eraill er mwyn i chi allu cwblhau ffurflen dreth yn llawn ac yn fanwl gywir os gofynnir i chi wneud hynny.

O'r flwyddyn dreth 1996-97 ymlaen, rhaid i gyflogwyr roi gwybodaeth arbennig i'w gweithwyr y mae ei hangen arnynt i'w helpu i gwblhau eu ffurflenni treth (os ydynt yn derbyn un).

Dylech gadw'r wybodaeth ganlynol a dderbyniwch gan eich cyflogwr:

  • P45 sy'n cynnwys manylion am eich cyflog a'ch treth. Os ydych yn gadael eich swydd yn ystod y flwyddyn dreth, bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen P45 i chi. Dylech gadw rhan 1A o'r ffurflen hon.
  • P60 sy'n cynnwys manylion am eich cyflog a'ch treth. Dylai'ch cyflogwr roi hwn i chi erbyn 31 Mai ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (os oeddech yn gweithio ar 5 Ebrill).
  • manylion am eich treuliau a'ch buddiannau trethadwy (a elwir weithiau yn 'fanylion P11D'). Dylai'ch cyflogwr roi'r rhain i chi erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (os oeddech yn gweithio ar 5 Ebrill).
  • Gall eich cyflogwr hefyd roi gwybodaeth i chi am dreuliau a buddiannau a dderbynioch ac a gafodd eu cynnwys mewn 'goddefeb' neu 'Gytundeb Taliad Llawn TWE'. Nid oes rhaid cynnwys y rhain ar eich ffurflen dreth.

Gallwch gael manylion pellach am y cofnodion y dylech eu cadw yn SA/BK 4 - Hunanasesiad - Canllaw cyffredinol i gadw cofnodion.

Sut ydw i'n cwblhau ac yn dychwelyd fy Ffurflen Dreth?

Mae angen i gyflogeion gwblhau'r canlynol:

  • y Ffurflen Dreth graidd (SA100)
  • set o dudalennau Cyflogaeth ar gyfer pob swydd a oedd gennych yn ystod y flwyddyn dreth (SA101)
  • unrhyw dudalen atodol arall sy'n berthnasol i chi e.e. Enillion Cyfalaf. Cyfeiriwch at dudalen 2 y Ffurflen Dreth

Mae eich pecyn ffurflen dreth Hunanasesiad yn cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau pob adran eich ffurflen ynghyd â chanllaw ar sut i gyfrifo eich treth eich hun os ydych am wneud hynny.

Sylwer: Ni fydd Canllaw i'r Ffurflen Dreth (SA150) na'r Cyfrifiad Treth (SA151C) yn cael eu hanfon atoch os ydych yn dychwelyd eich ffurflen yn electronig neu os yw eich asiant/ymgynghorydd treth yn dychwelyd eich ffurflen. Ond gallwch edrych ar y canllawiau hyn a/neu eu dadlwytho o'r safle hwn - gweler isod.

Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd

Gwybodaeth gyffredinol ar gwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth

Cysylltiadau Eraill

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ddychwelyd fy Ffurflen Dreth?
Beth os ydw i wedi colli'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd fy Ffurflen Dreth?
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth

Sut a phryd ydw i'n talu fy nhreth?

Bydd angen i chi dalu unrhyw dreth sy'n daladwy erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y cyfeiria'r ffurflen ati.

Os ydych yn dychwelyd eich ffurflen dreth cyn 30 Medi ac mae eich bil treth terfynol yn llai na £2,000, byddwn yn gallu casglu eich treth trwy TWE y flwyddyn nesaf yn aml iawn.

Os yw'n well gennych dalu'n uniongyrchol neu ni allwn gasglu eich bil trwy TWE, yna mae'n rhaid i chi dalu erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Bydd rhai pobl - pobl hunangyflogedig yn bennaf - hefyd yn gwneud dau daliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth cyn dyddiad dychwelyd y ffurflen ar gyfer y flwyddyn honno.

Nid oes rhaid i'r rhan fwyaf o gyflogeion wneud taliadau ar gyfrif oherwydd:

  • roedd eu bil treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn llai na £500, neu oherwydd
  • cafodd mwy na 80 y cant o'u treth incwm ar gyfer y flwyddyn flaenorol ei dalu wrth y ffynhonnell e.e. dan TWE.

Fel arfer seilir taliadau ar gyfrif ar y ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol, ond mewn rhai amgylchiadau gallwch leihau'r taliadau hyn. Mae'r Canllaw Cyfrifo Treth yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud hyn.

Dewisiadau ar gyfer talu

Mae nifer o wahanol ddewisiadau ar gael i dalu eich treth. Am fanylion ewch i adran Taliadau gwefan Cyllid y Wlad.

Cysylltiadau Eraill

Beth sy'n digwydd os yw fy nhaliad yn hwyr?
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: Taliadau a Datganiadau o Gyfrif 

   
Hafan
   Brig  |  Dewislen