Cynnwys
Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i? Mae Hunanasesiad yn system i bobl sy'n derbyn ffurflenni treth. Gyda'r system hon, cyflwynwyd newidiadau i rwymedigaethau cyflogwyr o 1996-97 ymlaen. Rheolau'r cyflogwr Y prif newidiadau yw:
Pa ffurflenni ddylwn i eu defnyddio? Ffurflenni P45 P60 P11D a P9D O 2000-01 ymlaen mae'r P11D yn cynnwys blychau ychwanegol i'ch helpu i benderfynu ar ba eitemau y codir y tâl CYG Dosbarth 1A newydd. Gallwch gael mwy o wybodaeth yn y canllaw CWG2 - Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (ffeil PDF - 196K). Gallwch barhau i anfon eich manylion P11D i'ch Swyddfa Dreth mewn fformat ansafonol os ydynt yn cytuno ar hyn. Gallwch ddarparu manylion P11D i'ch gweithwyr mewn unrhyw fformat a ddymunwch, cyhyd â bod y manylion angenrheidiol yn cael eu dangos. Nid oes rhaid i chi gytuno ar hyn gyda'ch Swyddfa Cyllid y Wlad. Y dyddiad cau ar gyfer darparu manylion P11D i'r swyddfa dreth a gweithwyr perthnasol yw 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Oes tudalennau cyfrifo i'm helpu? Tudalennau cyfrifo Mae taflenni gwaith i'ch helpu i gyfrifo cyfwerth mewn arian parod y buddiant ar gyfer lle byw, buddiant car a thanwydd, faniau, benthyciadau di-log a llog isel, a chostau ail-leoli. Mae'r defnydd ohonynt yn ddewisol. FPCS2 P11D (Int) Gallwch ddadlwytho ffurflenni, taflenni gwaith ac arweiniad ar sut i gwblhau eich ffurflen dreth diwedd blwyddyn ar gyfer buddiannau a threuliau (gan gynnwys P11D) o'r wefan hon. Gallwch gael y deunydd hwn o'r Llinell Archebu Gymraeg ar 0845 7 660830 (yn ystod oriau gwaith) . Mae'n bosibl ei gael o Linell Archebu Pecyn Blynyddol y Cyflogwr (Saesneg yn unig) hefyd, sydd ar agor ar yr amserau canlynol: · Llun - Gwener 8am - 8pm Rhif ffôn Llinell Archebu Pecyn Blynyddol y Cyflogwr yw 08457 646 646 Gallwch hefyd archebu ffurflenni ar-lein trwy ddefnyddio'r ffurflen archebu.
|
|||||||||||
| Hafan | ||||
