Hunanasesiad Ar-lein ar gyfer Unigolion
Croeso i wasanaeth Hunanasesiad (SA) Ar-lein Cyllid a Thollau EM ar gyfer Unigolion.
Mae'r broses mewn dwy ran, sef Cofrestru/Ymrestru a Defnyddio'r
Gwasanaeth.
Cofrestru/Ymrestru
Cyn i chi gychwyn, sicrhewch fod y ddwy elfen ganlynol wrth law:
- Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol (NINO)
Mae'r rhain i'w gweld ar ohebiaeth Hunanasesiad fel arfer, ond cysylltwch
â'r Ganolfan Gyswllt Cymraeg* os oes angen cymorth arnoch
i ddod o hyd iddynt.
- Er mwyn cofrestru/ymrestru ar gyfer ein gwasanaeth Hunanasesiad
Ar-lein yn y Gymraeg, ewch i hafan gwasanaethau ar-lein CThEM a
chliciwch ar y botwm cofrestru ar ochr dde'r dudalen.
- Ar y dudalen Defnyddiwr Newydd, cliciwch ar 'Cymraeg' ger y brig.
Yna, dilynwch y llwybr Unigolyn/Sefydliad/Asiant fel bo'n briodol.
- Ar ôl i chi gofrestru ac ymrestru, a chael cadarnhad o'ch
Dynodydd Defnyddiwr, bydd angen i chi aros i dderbyn eich Cod Cychwyn trwy'r post. (Sylwer -
gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod.)
- Ar ôl derbyn eich Cod Cychwyn ewch nôl i hafan gwasanaethau
ar-lein CThEM, nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr a'ch Cyfrinair ar ochr
chwith y dudalen ac yna cliciwch ar y botwm mewngofnodi.
- Ar y dudalen sy'n rhestru eich gwasanaethau CThEM, defnyddiwch
y cysylltiad i gychwyn y gwasanaeth Hunanasesiad ac yna nodwch eich Cod Cychwyn yn
y blwch priodol. Yna, gallwch ddechrau defnyddio'r gwasanaeth er mwyn
cyflwyno eich Ffurflen Dreth ar-lein.
Os oes Dynodydd Defnyddiwr a Chyfrinair dilys gennych
eisoes (o flynyddoedd cynt) nid oes angen i chi fynd trwy'r broses
o gofrestru/ymrestru eto, a gallwch fynd yn syth i ddefnyddio'r gwasanaeth cyfredol.
Defnyddio'r Gwasanaeth
Ar ôl i chi gofrestru/ymrestru, gallwch ddechrau
defnyddio’r gwasanaeth Cymraeg. Dyma'r llwybr y dylech ei ddilyn:
- Ar y dudalen 'Welcome to HMRC Online services',
rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr a'ch Cyfrinair yn y blychau
perthnasol, a chliciwch ar 'Login'. Neu, fel arall, gallwch ddefnyddio eich Tystysgrif Ddigidol
os oes un gennych.
- Ar y dudalen 'Your HMRC services', defnyddiwch
y cysylltiad 'SA (Self Assessment)'.
- Ar y dudalen 'At a glance', defnyddiwch
y cysylltiad 'File a return' o dan y pennawd 'File a return
for 2010-11'.
- Ar y dudalen '1. Welcome', defnyddiwch
y cysylltiad 'Cymraeg' ar frig y dudalen.
- Ar y dudalen '1. Croeso' - a thudalennau
dilynol - byddwch yn gallu cyfathrebu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg.
Defnyddiwch y cysylltiad i gychwyn
ar y llwybr.
Cymorth
*Am gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Gymraeg ar 0845 302 1489 (8.30am
- 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener).
Neu, cliciwch yma am gymorth
trwy gyfrwng y Saesneg
Pwysig! Peidiwch â defnyddio llafariaid acennog wrth deipio yn y ffurflenni ar-lein. Diolch.