Ffurflen

Awdurdodi asiant treth (64-8)

Defnyddiwch y ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ i roi gwybod i CThEF eich bod yn rhoi awdurdodiad i rywun weithredu ar eich rhan ar gyfer materion treth unigolion neu fusnes.

Dogfennau

Awdurdodi eich asiant (64-8)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ yn ymwneud ag awdurdodiad ar gyfer materion treth unigolion (Hunanasesiad, partneriaethau, ymddiriedolaethau, credydau treth ac unigolion o dan TWE) a threthi busnes (TAW, TWE i gyflogwyr a Threth Gorfforaeth).

Defnyddiwch y ffurflen hon i alluogi CThEF i ddelio’n uniongyrchol ag asiant rydych yn ei awdurdodi i weithredu ar eich rhan, megis:

  • cyfrifydd
  • asiant treth
  • ymgynghorydd

Rhowch wybod i ni ba drethi rydych yn rhoi awdurdod ar eu cyfer drwy roi tic yn y blychau perthnasol.

Os nad yw’r person rydych am ei awdurdodi’n gweithio yn un o’r proffesiynau hyn, dysgwch sut i awdurdodi rhywun arall (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch ddileu awdurdodiad eich asiant ar unrhyw adeg. Os hoffech newid pwy sydd wedi’i awdurdodi gennych, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais am awdurdodiad newydd (yn agor tudalen Saesneg). Bydd unrhyw awdurdodiad newydd yn disodli’r awdurdodiad presennol.

Dysgwch ragor ynghylch sut i newid awdurdodiad a’i dynnu oddi wrth asiant sy’n gweithredu ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r arweiniad canlynol yn esbonio:

  • rhai o’r meysydd yn y ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’
  • pa awdurdodiad a gaiff ei roi i’ch asiant

Codau asiant

Os ydych yn asiant, gofynnir i chi roi’ch cod asiant 6 digid ar gyfer Hunanasesiad, TWE neu Dreth Gorfforaeth.

Os nad oes cod gennych, gallwch ddysgu sut i gael cod asiant yn sut i gofrestru a chael eich awdurdodi fel asiant treth i ddelio â CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Hunanasesiad

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion Hunanasesiad, bydd eich asiant yn gallu:

  • cyflwyno’ch Ffurflenni Treth ar eich rhan
  • gwneud hawliadau am ryddhad treth ar eich Ffurflenni Treth
  • trafod eich Ffurflenni Treth cyfredol a blaenorol gyda ni
  • bwrw golwg dros eich manylion, megis ffynonellau incwm, a’u newid
  • rhoi manylion banc i ni, pan fo ad-daliad yn ddyledus
  • bwrw golwg dros eich diweddariadau (incwm a threuliau), a’u cyflwyno
  • cwblhau’ch sefyllfa dreth gyffredinol
  • bwrw golwg dros eich cyfrifiadau a’r symiau dyledus a’r symiau sydd wedi’u talu
  • canslo’ch cofrestriad Hunanasesiad
  • cael mynediad at eich manylion Hunanasesiad, megis eich:
    • enw
    • cyfeiriad
    • rhif Yswiriant Gwladol
    • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon ar ei phen ei hun er mwyn creu cyfrif Hunanasesiad. Dysgwch ragor ynghylch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os yw’ch asiant yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi wirio’r wybodaeth a rhoi gwybod i’ch asiant ei bod yn gywir cyn iddynt ei chyflwyno i ni. Chi sy’n gyfrifol am eich materion treth eich hun, hyd yn oed os ydych yn awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan.

Ymddiriedolaethau

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion ymddiriedolaethau, bydd eich asiant yn cael mynediad at yr wybodaeth bersonol ac ariannol ar gyfer eich ymddiriedolaeth.

Ni fydd yr awdurdod 64-8 yn rhoi i’ch asiant fynediad at y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau. Dysgwch ragor ynghylch awdurdodi asiant i gynnal cofnod drwy’r Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau.

TWE Unigolyn

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion TWE unigolyn, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at y canlynol:

  • i bwy rydych wedi gweithio yn y gorffennol
  • gwybodaeth am fuddiannau trethadwy, megis yswiriant meddygol a char cwmni
  • pensiynau
  • dyddiadau dechrau a dod i ben eich rhan yn y broses TWE

Treth Gorfforaeth

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion Treth Gorfforaeth, bydd eich asiant yn:

  • cael mynediad at wybodaeth am eich cwmni a’ch gwybodaeth ariannol
  • gallu diweddaru manylion cyfathrebu a chyswllt y cwmni

Dysgwch ragor ynghylch Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Credydau treth

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion credydau treth, bydd eich asiant yn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac ariannol sy’n ymwneud â’ch hawliad am Gredyd Treth. Gall weithredu ar eich rhan ond ni all gael taliadau. Bydd gohebiaeth yn dal i gael ei hanfon atoch.

Ar gyfer hawliadau ar y cyd am gredydau treth, mae angen i’r ddau hawliwr lofnodi’r ffurflen hon er mwyn awdurdodi’ch asiant.

TAW

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion TAW, bydd eich asiant yn gallu gwneud y canlynol (ar bapur neu dros y ffôn yn unig):

  • trafod eich TAW gyda ni
  • llofnodi dogfennau papur ar eich rhan
  • bwrw golwg dros eich manylion TAW, eu newid a’u cyflwyno
  • bwrw golwg dros eich taliadau a’ch rhwymedigaethau TAW
  • canslo’ch cofrestriad TAW
  • apelio yn erbyn cosb am gyflwyno neu am dalu’n hwyr
  • cael mynediad at:
    • manylion eich cofrestriad TAW, megis manylion eich busnes a’ch manylion cyswllt
    • eich Ffurflenni TAW sydd wedi’u cyflwyno
    • eich cyfrifiadau Ffurflenni TAW
    • eich symiau sy’n ddyledus neu sydd wedi’u talu

Gwasanaethau TAW ar-lein ar gyfer asiantau

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, ni ellir defnyddio’r ffurflen hon i awdurdodi asiant i redeg eich gwasanaethau Troi Treth yn Ddigidol.

Dysgwch ragor ynghylch Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg) a gwasanaethau TAW ar-lein ar gyfer asiantau (yn agor tudalen Saesneg).

Cynllun y Diwydiant Adeiladu

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ at ddibenion Cynllun y Diwydiant Adeiladu, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at eich datganiadau, ac at incwm a didyniadau’ch isgontractwyr.

Dysgwch ragor ynghylch Cynllun y Diwydiant Adeiladu (yn agor tudalen Saesneg).

Gall asiantau ddod o hyd i’w dynodydd Porth y Llywodraeth ar gyfer Asiant (os oes ganddynt un) drwy fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau a dewis ‘Awdurdodi cleient’ o’r ddewislen ar y chwith. Bydd y dynodydd yn ymddangos ar y sgrin nesaf o dan y teitl ‘Dynodydd asiant’.

TWE Cyflogwyr

Dim ond os ydych yn gyflogwr sy’n gweithredu TWE y dylech lenwi’r adran hon o’r ffurflen.

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon at ddibenion TWE Cyflogwyr, bydd eich asiant yn cael mynediad at wybodaeth bersonol ac ariannol eich cyflogeion.

Dysgwch ragor ynghylch TWE Cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Gall asiantau ddod o hyd i’w dynodydd Porth y Llywodraeth ar gyfer Asiant (os oes ganddynt un) drwy fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau a dewis ‘Awdurdodi cleient’ o’r ddewislen ar y chwith. Bydd y dynodydd yn ymddangos ar y sgrin nesaf o dan y teitl ‘Dynodydd asiant’.

Dod o hyd i ragor o wybodaeth

Dysgwch:

Gallwch hefyd fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Sut i awdurdodi rhywun ar gyfer Credyd Treth a Budd-dal Plant

Defnyddiwch ffurflen TC689 i awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan ar gyfer materion Credyd Treth a Budd-dal Plant.

Os ydych am gyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ i wneud cais gwrthrych am wybodaeth i CThEF.

Dysgwch sut i wneud cais gwrthrych am wybodaeth i CThEF.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 April 2024 + show all updates
  1. A new section for the VAT DIY Housebuilder scheme has been added to form 64-8.

  2. Information about changing the tax agent you have authorised has been updated.

  3. Guidance has been updated to explain that if you submit the form 64-8 for Self Assessment purposes, your agent can submit your tax returns on your behalf. You are responsible for your own tax affairs, even if you authorise someone to act on your behalf.

  4. Information on form FB12 has been removed because you now only need to use form 64-8 to authorise an agent.

  5. The 'Authorising your agent (64-8)' iForm has been removed and replaced by the new 'Authorising your agent (64-8)' PDF form. Guidance has been added to help you to complete the form.

  6. Section 3 of form 64-8 has been updated giving guidance on how we use your information.

  7. Under '5 Where to send this form' in bullet point 3 the words 'or an expatriate' and 'or the Manchester expat team' has been deleted. The Manchester Expat Team no longer deal with 64-8 forms.

  8. The Authorising your agent (64-8) attachment has been updated and replaced.

  9. Added translation