Gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-bost CThEM

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn cwtogi ar yr wybodaeth y mae’n ei phostio at gyflogwyr, gan ddarparu arweiniad ar-lein a rhaglenni y gellir eu lawrlwytho yn lle hynny.

Er enghraifft, mae CThEM eisoes wedi rhoi’r gorau i anfon copïau papur o Fwletin y Cyflogwr, ac ni fydd bellach yn anfon Pecynnau’r Cyflogwr neu’r Gyllideb ar bapur i’r rhan fwyaf o gyflogwyr. Ac mae set newydd o Offer TWE Sylfaenol y gellir eu lawrlwytho bellach wedi disodli CD-ROM y Cyflogwr.

Awgryma CThEM yn gryf eich bod yn cofrestru ar gyfer eu gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-bost, er mwyn iddynt fedru eich atgoffa pan ddaw’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael.

Ynglŷn â’r gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-bost

Drwy gofrestru isod ar gyfer y gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-bost, rydych yn cytuno i dderbyn e-byst hysbysu i’ch atgoffa pan fydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cyflogwyr ar gael ar wefan CThEM.

Mae CThEM yn disgwyl anfon tri e-bost hysbysu atoch y flwyddyn - mis Chwefror, mis Mai a mis Medi. Bydd y rhain yn cynnwys cysylltiadau i’r Bwletin y Cyflogwr a’r Offer TWE Sylfaenol diweddaraf. Mae’n bosib y bydd CThEM hefyd yn anfon negeseuon ad hoc eraill atoch yn ystod y flwyddyn.

Bydd pob cofrestriad yn para hyd at flwyddyn, ac ar ôl hynny bydd CThEM yn anfon e-bost cadarnhad blynyddol atoch. Mae hwn yn dangos y manylion cofrestru sydd gan CThEM ac yn dweud wrthych os oes angen i chi weithredu’n bellach. Yn syml, mae hyn er mwyn sicrhau bod y manylion cyswllt a gedwir at y dibenion hyn wedi eu cadw i’r funud.

Gofynion meddalwedd cyfrifiadurol

Mae’r cofrestriad e-bost yn gweithio gyda’r porwyr gwe mwyaf cyffredin, gan gynnwys Microsoft Internet Explorer, Mozilla Firefox, Google Chrome ac Apple Safari. Er mwyn gallu cofrestru mae’n rhaid bod JavaScript wedi’i alluogi gennych yn eich gosodiadau porwr gwe - dylai tudalen ‘Cymorth’ eich porwr gwe allu dweud wrthych sut i wneud hyn os nad yw wedi ei alluogi’n barod.

Pa gyflogwyr na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni fyddwch yn gallu ymrestru ar gyfer e-byst hysbysu os yw’ch cwmni’n cael ei ddatod neu'n cael ei roi yn nwylo'r derbynnydd, neu os ydych yn gweithredu unrhyw un o’r canlynol:

  • y Cynllun Didyniadau Symledig
  • cynllun sy’n didynnu Yswiriant Gwladol yn unig
  • cynllun heb unrhyw gyflogeion - er enghraifft contractwr yn unig, ffioedd yn unig neu gynllun tâl salwch
  • cynllun wedi’i ddylunio ar gyfer trethu taliadau rhestr yr etholwyr
  • cynllun rhannu elw
  • cynllun contractwr yn unig
  • Cynllun Gwobrwyo Trethadwy
  • cyflogwr tramor sy’n gweithredu system arbennig y DU

Os ydych yn syrthio o fewn unrhyw un o’r grwpiau hyn, byddwch yn parhau i dderbyn cynnyrch papur fel arfer.

Sut i gofrestru, diweddaru eich manylion neu ddadgofrestru

Dewiswch yr opsiwn priodol yn y blwch cyntaf isod, ac yna cwblhewch weddill y ffurflen gyda’ch manylion cyswllt cyfredol.

Sylwer y bydd angen eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr arnoch. Gallwch ganfod hwn ar hysbysiadau cod cyflogeion gan CThEM neu ar y llythyr a anfonwyd atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.

Pwyntiau i’w nodi wrth gwblhau’r ffurflen

  • Dim ond un cyfeiriad e-bost ar gyfer pob cyfeirnod TWE y Cyflogwr y gallwch ei ddefnyddio. Os ydych yn anfon mwy nag un cais i gofrestru ar gyfer cyfeirnod TWE y Cyflogwr, bydd y cyflwyniad diweddaraf yn disodli’r cais/ceisiadau blaenorol.
  • Mae’n rhaid i chi gwblhau’r holl feysydd wedi’u marcio â *.
  • Uchafswm o 28 cymeriad yn unig, gan gynnwys bylchau, y gall y blwch ar gyfer eich enw busnes ei dderbyn. Os oes angen mwy o le arnoch, defnyddiwch y blychau parhad.
Dewiswch un weithred Rwyf eisiau:* (Ticiwch un blwch yn unig)



*
/

*

*




*



Os ydych yn fodlon bod y manylion a nodwyd uchod yn gywir, dewiswch y botwm ‘Cofrestru ar gyfer e-byst hysbysu'. Bydd CThEM yn anfon e-bost cydnabyddiaeth atoch o fewn pum niwrnod gwaith.

Neu, os ydych am ddiddymu'r holl wybodaeth a gofnodwyd gennych a dechrau eto, dewiswch y botwm ‘Clirio’.

Beth i’w wneud os na fyddwch yn derbyn e-bost hysbysu neu gydnabyddiaeth cofrestru

Os ydych wedi ymrestru ar gyfer e-bost hysbysu a ddim yn derbyn y gydnabyddiaeth gychwynnol neu unrhyw e-bost hysbysu i ddilyn, bydd hyn am un o sawl rheswm:

  • Mae eich cyfeiriad e-bost yn annilys neu wedi newid - dylech ddiweddaru eich manylion gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru.
  • Mae rhywun arall yn eich sefydliad wedi ymrestru gan ddefnyddio’r un cyfeirnod TWE, ac mae hyn wedi disodli eich cais blaenorol. Dylech wirio o fewn eich sefydliad cyn i chi gofrestru eto, gan y byddwch yn disodli’r tanysgrifiwr cyfredol.
  • Mae’n bosib bod yr e-bost hysbysu wedi’i ailgyfeirio i’ch ffolder sbam.