TWE Ar-lein ar gyfer Cyflogwyr
Croeso i wasanaeth Talu Wrth Ennill (TWE) Ar-lein Cyllid a Thollau EM. Mae'r
broses mewn dwy ran, sef Cofrestru/Ymrestru a Defnyddio'r Gwasanaeth.
Cofrestru/Ymrestru
Cyn i chi gychwyn, sicrhewch fod y ddwy elfen ganlynol wrth law:
- Cyfeirnod TWE y Cyflogwr
- Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon
Mae'r rhain i'w gweld ar ohebiaeth TWE fel arfer, ond cysylltwch â'r Ganolfan
Gyswllt Cymraeg* os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd iddynt.
- Er mwyn cofrestru/ymrestru ar gyfer ein gwasanaeth
TWE Ar-lein yn y Gymraeg, ewch i hafan gwasanaethau ar-lein CThEM a chliciwch ar y botwm cofrestru ar ochr dde'r dudalen.
- Ar y dudalen Defnyddiwr Newydd, cliciwch ar 'Cymraeg' ger y
brig. Yna, dilynwch y llwybr Sefydliad/Asiant fel bo'n briodol.
- Ar ôl i chi gofrestru ac ymrestru, a chael cadarnhad o'ch Dynodydd
Defnyddiwr, bydd angen i chi aros i dderbyn eich Cod Cychwyn
trwy'r post. (Sylwer - gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod.)
- Ar ôl derbyn eich Cod Cychwyn ewch nôl i hafan gwasanaethau ar-lein CThEM,
nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr a'ch Cyfrinair ar ochr chwith
y dudalen ac yna cliciwch ar y botwm mewngofnodi.
- Ar y dudalen sy'n rhestru eich gwasanaethau CThEM, defnyddiwch
y cysylltiad i gychwyn y gwasanaeth Talu Wrth Ennill ac yna
nodwch eich Cod Cychwyn yn y blwch priodol. Yna, gallwch ddechrau
defnyddio'r
gwasanaeth er mwyn cyflwyno eich ffurflenni ar-lein.
Os oes Dynodydd Defnyddiwr a Chyfrinair dilys gennych eisoes (o flynyddoedd cynt)
nid oes angen i chi fynd trwy'r broses o gofrestru/ymrestru eto, a gallwch
fynd yn syth i ddefnyddio'r gwasanaeth cyfredol.
Defnyddio'r Gwasanaeth
Ar ôl i chi gofrestru/ymrestru, gallwch ddechrau defnyddio'r gwasanaeth Cymraeg. Dyma'r llwybr y dylech ei ddilyn:
- Ar y dudalen 'Welcome to HMRC
Online services', rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr a'ch Cyfrinair yn y blychau
perthnasol, a chliciwch ar 'Login'. Neu, fel arall, gallwch ddefnyddio
eich Tystysgrif Ddigidol os oes un gennych.
- Ar y dudalen 'Your HMRC services', defnyddiwch y cysylltiad 'PAYE for Employers'.
- Ar y dudalen 'At a glance', defnyddiwch y cysylltiad 'You can start to complete your returns and in-year forms using our own Online Returns & Forms PAYE product' o dan y pennawd 'File your returns and forms'.
- Ar y dudalen 'File your returns and forms', defnyddiwch y cysylltiad 'You can use our free Online Return and Forms - PAYE product'.
- Ar y dudalen 'Employee List', defnyddiwch y cysylltiad 'cymraeg/welsh' ar frig y dudalen.
- Ar y dudalen 'Rhestr Cyflogeion' - a thudalennau dilynol - byddwch yn gallu cyfathrebu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg.
Defnyddiwch y cysylltiad i gychwyn ar y llwybr.
Cymorth
Am gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Gymraeg ar 0845 302 1489 (8.30am - 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener)
Neu, cliciwch yma am gymorth
trwy gyfrwng y Saesneg.
Pwysig! Peidiwch â defnyddio llafariaid acennog wrth deipio
yn y ffurflenni ar-lein. Diolch.