P2 - Ateb eich cwestiynau

Lwfansau ar sail Oedran

C Rydw dros 65 oed. Pam nad wyf yn cael y Lwfans ar sail Oedran llawn?

A Mae lwfansau ar sail oedran yn dibynnu ar gyfanswm eich lwfansau trethadwy ar sail oedran am y flwyddyn. Unwaith y bydd eich incwm un uwch na’r terfyn incwm a bennir yn y gyllideb bob blwyddyn, byddwn yn gostwng y lwfansau ar sail oedran gan £1 am bob £2 dros y ffigur hwnnw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gostwng y lwfans i swm sy’n llai na’r lwfans personol sylfaenol.

Dilynwch y cysylltiad isod am enghreifftiau o sut y mae lwfansau ar sail oedran yn gweithio

Mae fwy o wybodaeth ynglyn â chyfraddau a lwfansau yn

Treuliau unffurf

C Mae swm y treuliau rydw i’n eu hawlio wedi newid. Pam hynny?

A Mae’r ffigurau ar gyfer treuliau unffurf caniataol wedi cael eu newid eleni. Mae’r cyfraddau wedi eu cynyddu a’u symleiddio er mwyn lleihau’r nifer o symiau a gytunir yn genedlaethol. Dangosir y ffigurau newydd yn y tabl isod.

2007-2008 2008-2009
£1 to £45 £60
£46 to £60 £80
£61 to £80 £100
£81 to £100 £120
£101 to £130 £140
£131 to £165 £165
£850 (Peilotiaid Awyrennau) £850 (dim newid)

Cyfyngiad

C Beth ydy hwn a beth mae e’n ei olygu i mi?

A Efallai y cynhwysir cyfyngiad y gyfradd sylfaenol yn eich cod treth os oes gennych ddau neu fwy o gyflogaethau neu bensiynau galwedigaethol ar yr un adeg ac nid yw’r incwm y gosodir y lwfansau yn ei erbyn yn ddigon i gael ei gynnwys yn yr haen gyfradd dreth uwch. Mae’r ffordd y mae’r tablau treth a ddefnyddir gan gyflogwyr yn gweithredu yn golygu y bydd y ddau dabl yn trethu eich holl incwm neu ran ohono ar y gyfradd sylfaenol. Mae hyn yn dibynnu ar y codau treth sydd gennych. Heb y cyfyngiad i’r gyfradd sylfaenol byddech yn talu rhy ychydig o dreth ar y Gyfradd Uwch a gormod ar y gyfradd sylfaenol. Felly, ar ddiwedd y flwyddyn byddai treth yn ddyledus i ni. Os bydd newid sylweddol yn lefel eich incwm o’r naill ffynhonnell, yna ffoniwch y swyddfa drwy ddefnyddio’r rhif a roddir ar eich Hysbysiad Cod TWE er mwyn i ni newid y ffigur.

Addasiad ar gyfer y gyfradd uwch

C Mae fy nghynilion wedi eu trethu’n barod, pam mae’n rhaid i mi dalu fwy o dreth?

A Fel arfer caiff incwm o gynilion – hynny yw llog o fanciau neu gymdeithasau adeiladu ac ati neu ddifidendau cwmnïau – ei drethu ar y gyfradd gynilo ar log a’r gyfradd ddifidend ar ddifidendau cyn iddo gael ei dalu i chi. Gan y byddwch yn agored i dalu rhywfaint o dreth ar y gyfradd uwch bydd treth ychwanegol yn ddyledus ar eich incwm o gynilion. Mae’r didyniad yn eich cod TWE yn ein caniatáu ni i gasglu’r dreth ychwanegol ar eich cynilion. Os yw’n well gennych gallwch wneud y taliad hwn yn uniongyrchol ar ddiwedd y flwyddyn drwy gwblhau Ffurflen Dreth Incwm a thalu pan ofynnir i chi. Os ydych am wneud hyn cysylltwch â ni.

Buddiant Car

C Sut gaiff fy muddiant car ei gyfrifo?

A Mae sut caiff buddiant car ei drethu yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys pris catalog y cerbyd a’i allyriant CO2 ymhlith pethau eraill. Bydd y cyfrifiannell yn y cysylltiad isod yn gofyn i chi am y manylion perthnasol rydym yn eu defnyddio i gyfrifo’r didyniad.

Buddiant Tanwydd Car

C Pam mae buddiant tanwydd fy nghar wedi cynyddu ar gyfer 2008 – 2009?

A Caiff buddiant tanwydd car ei gyfrifo drwy luosi lluosydd codiant tanwydd car gan y canran penodedig ar sail allyriant CO2 y car. O 6 Ebrill 2008 mae’r lluosydd codiant tanwydd car wedi cynyddu o £14,400 i £16,900, mae hyn yn golygu bod eich buddiant tanwydd car wedi cynyddu a byddwch yn talu mwy o dreth ar y buddiant hwn.

Dilynwch y cysylltiad isod i wirio eich cyfrifiad.

Cyfrifiannell Buddiant Car Cwmni a Thanwydd

Benthyciad buddiannol

C Pam rydw i’n talu treth ar fenthyciadau gan fy nghyflogwr?

A Rhaid i chi dalu treth ar y buddiant a gewch drwy beidio â thalu llog, neu log ar gyfradd sy’n is na’r gyfradd llog swyddogol, ar eich benthyciad o’ch cyflogwr neu eich cyflogwr blaenorol. Mae’r didyniad yn eich cod treth TWE yn ein caniatáu i gasglu’r dreth sy’n ddyledus ar y gwahaniaeth rhwng y llog a dalwch a’r hyn y byddech yn ei dalu petai'r llog yn cael ei godi ar y gyfradd swyddogol.

Dilynwch y cysylltiad isod i weld y cyfraddau swyddogol.

Cyfraddau llog – Trefniadau Benthyciad Buddiannol – Cyfraddau Swyddogol

Pensiwn y wladwriaeth

C Pam fod angen trethu fy mhensiwn?

A Mae pensiwn neu bensiwn y wladwriaeth yn incwm trethadwy ond ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n talu’r pensiwn i chi, ddidynnu treth o’r taliadau. I sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth rydym wedi gosod rhai o’ch lwfansau yn erbyn y rhan trethadwy o’r pensiwn neu fudd-dal y wladwriaeth.

C Mae swm y pensiwn a gaf i’w weld yn anghywir. Gallwch chi roi rheswm am hyn?

A Rydym wedi amcangyfrif yr hyn y credwn y byddwch yn ei dderbyn eleni ar sail gwybodaeth rydych chi neu’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ei rhoi i ni.

Sylwer ar y canlynol:

  • caiff pensiynau eu talu bob pedair wythnos sy’n golygu 13 taliad y flwyddyn.
  • mae’r ffigur a ddangosir yn cynnwys y cynnydd yn y taliadau o fis Ebrill eleni yn ôl yr hyn a gyhoeddwyd gan y canghellor yn y gyllideb.

Os credwch fod y ffigur yn anghywir o hyd, yna dylech ein ffonio gyda manylion eich taliadau ers mis Ebrill.

Llog nas trethwyd

C Pam fod didyniad ar gyfer llog nas trethwyd wedi ei gynnwys yn fy nghod?

A Deallwn fod llog yn cael ei dalu i chi heb ddidynnu treth yn gyntaf. Mae llog yn incwm trethadwy felly rydym wedi gosod cyfran o’ch lwfansau yn ei erbyn. Rydym wedi defnyddio’r ffigur a darparwyd gennych yn y flwyddyn flaenorol fel amcangyfrif. Cysylltwch â ni os ydy’r ffigur hwn yn anghywir.

Cyfraddau Treth

C Beth ydy’r cyfraddau treth cyfredol?

A Dilynwch y cysylltiad isod am wybodaeth ynglyn â’r cyfraddau treth cyfredol

Cyllid a Thollau EM: Cyfraddau a Lwfansau – Treth Incwm