Mae’r lwfans ar gyfer person sengl sy’n 65 i 74 oed yn £9,030 yn 2008-09 pan fo’ch incwm (o bob ffynhonnell p’un a yw wedi ei ennill ai peidio) yn £21,800 neu lai. Pan fydd eich incwm yn uwch na’r ffigur hwn caiff eich lwfans ei ostwng.
Cyfanswm eich incwm = £22,800, terfyn yr incwm = £21,800, incwm gormodol uwchlaw’r terfyn = £1,000.
Caiff y swm gormodol hwn ei rannu gyda 2 i gyfrifo’r ffigur y mae’n rhaid gostwng y lwfans:
£1,000 wedi’i rannu gyda 2 = £500
Felly mae’r lwfans gostyngol yn £9,030 llai £500 = £8,530.
Caiff lwfans par priod ei leihau unwaith y bydd eich lwfans personol ar sail oedran wedi ei ostwng i’r lwfans personol sylfaenol o £5,435. Ni fyddwn yn gostwng eich lwfans pâr priod islaw’r isafswm am y flwyddyn sef £2,540.
Os ydy eich incwm (o bob ffynhonnell p’un a yw wedi ei ennill ai peidio) yn £30,000 caiff eich lwfansau eu gostwng fel a ganlyn
Cyfanswm yr incwm = £30,000, terfyn yr incwm = £21,800, incwm gormodol uwchlaw’r terfyn = £8,200.
Caiff y swm gormodol hwn ei rannu gyda 2 i gyfrifo’r ffigur y mae’n rhaid gostwng y lwfans:
£8,200 wedi’i rannu gyda 2 = £4,100 (A) (y swm y caiff y lwfansau eu gostwng)
Yn gyntaf rydym yn gostwng y lwfans personol ar sail oedran i lawr i’r lwfans personol sylfaenol fel a ganlyn.
Lwfans personol = £9,030, llai lwfans personol sylfaenol o £5,435 (isafswm y lwfans), sy’n hafal i £3,595 (B) (gostyngiad i’r lwfans personol).
Nawr rhaid didynnu ffigur B o ffigur A er mwyn pennu’r swm y mae’n rhaid i ni ostwng y lwfans pâr priod:
Swm y gostyngir y lwfansau £4,100 (A), llai’r gostyngiad yn y lwfans personol £3,595 (B), sy’n hafal i £505 (C)
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gostwng y lwfans pâr priod gan £505.
Nawr rydym yn gostwng y lwfans pâr priod fel a ganlyn.
Lwfans Pâr priod = £6,535, llai’r swm gormodol = £505 (C), sy’n hafal i £6,030.
Yn yr enghraifft hon felly, mae’r lwfansau sy’n ddyledus yn: