Cymorth - Technegol

C. Sut ydwyf yn cynyddu maint yr ysgrifen yn y gwefan?
A. Dewiswch ‘View’ ac yna ‘Text Size’ yn eich porwr i addasu maint yr ysgrifen. Os oes genych lygoden olwyn , daliwch lawr y botwm ‘Control’ tra’n rowlio’r olwyn.

C. Pam mae’r ysgrifen yn cael ei dorri ffwrdd yn yr ymyl dde pan yr wyf yn argraffu tudalennau oddi ar y gwefan?
A. I nifer bach o fathau o fodelau printio ni all Internet Explorer argraffu cynnwys y dudalen cyfan ar bapur A4 felly mae’n torri allan yr ysgrifen sydd tu allan i’r rhan argraffadwy. I ddelio a hyn:

  • Amlygwch yr ysgrifen yr ydych eisiau argraffu gan ddal lawr botwm chwith y llygoden dros ddechrau yr ysgrifen a thynnu y cyrchwr i ddiwedd yr ysgrifen. Yn y sgrîn opsiynau argraffu dewiswch ‘Selection’ o dan ‘Page Range’.

C. Pam nad yw’n porwr yn arddangos y gwefan yn gywir?
A. Er mwyn cefnogi ystod o borwyr sydd mor eang â phosib a chaniatáu mynediad i ddefnyddwyr o bob fath o allu (yn cynnwys y rheini gyda nam gweledol neu anabledd corfforol), mae’r safle wedi ei ddatblygu yn unol a safonau cydnabyddedig a osodwyd gan World Wide Web Consortium (W3C). Un o’r safonau hyn yw‘r defnydd o ‘Cascading Style Sheets’ (CSS2) er mwyn i’r safle gefnogi unrhyw borwr sydd yn cefnogi y safon hyn. Mae rhai porwyr, yn enwedig fersiynau cynnar, naill ai ddim , neu , ond yn rhannol cefnogi y safon hyn. Efallai ni ddangosai y porwyr hyn yr ysgrifen neu’r graffeg yn gywir.

C. Pa borwyr allai ddefnyddio i gael mynediad i’r gwefan?
A. Rydym yn argymell y porwyr a chyfuniadau systemau gweithredol canlynol o leiaf:

  • Ar gyfer Windows PC: Microsoft Internet Explorer 5.01, Netscape Navigator 6.2.2 ac Opera 6.01.
  • Ar gyfer Macintosh: Microsoft Internet Explorer 5.1, Netscape Navigator 6.2.2.
  • Ar gyfer Linux: Netscape Navigator 6.2.2.
  • Ar gyfer defnyddwyr gyda anabledd mae’r canlynol yn cael eu hargymell: Ar gyfer Windows PC: Jaws 3.7. Lynx 2.8.3.

C. Beth os nad oes gennyf un o’r porwyr argymhellol?
A. Mae’r gwefan hon wedi ei gynllunio i gefnogi ystod o borwyr sydd mor eang a phosib â chyfuniadau system weithredol. Fe wnai porwyr megis Microsoft Internet Explorer 4 a Netscape Navigator 4 neu’r rhai hynny gan cyflenwyr eraill eich galluogi i gael mynediad i’r gwefan ac i ddefnyddio y tudalennau ond efallai na all arddangos y safle fel cynlluniwyd, neu ddarparu chi gyda’r profiad gorau o ddefnyddio y gwefan. Mae’r rhan mwyaf o gyflenwyr porwyr yn eich caniatáu i uwchraddio am ddim, naill ai oherwydd nad ydynt yn codi tal am eu porwyr neu am eich bod wedi prynu fersiwn blaenorol. I uwchraddio eich porwr ewch i gwefan y cyflenwr a dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarparwyd.

C. Pa eglurdeb sgrîn dylwn ddefnyddio er mwyn arddangos y gwefan?
A. rydym yn argymell gosodiad arddangos o leiaf o 800x600 a 16-bit lliw

C. Beth yw ffeil Portable Document Format (PDF) a sut allaf ei wylio?
A. Fformat ffeil yw PDF sy’n eich caniatáu i wylio ac argraffu dogfen un union fela gynlluniwyd gan yr awdur. Mae’n baner Ryngrwyd i ddosbarthu electronig sy’n cynnal yn ffyddlon golwg a theimlad y ddogfen wreiddiol ynghyd â ffontiau, lliwiau, delweddau a chynllun. I wylio’r dogfennau mae angen i chi ddefnyddio gwyliwr ffeil PDF megis Adobe Acrobat Reader.

C. Pam nad oes dim yn digwydd pan rydwyf yn dewis cysylltiad I ffeil PDF?
A. Pan yn dewis cysylltiad i ffeil PDF, mae sgrîn wag yn ymddangos cyn i’r ddogfen agor ac os oes gennych gysylltiad araf, gall oediad rhoi’r argraff fod dim yn digwydd. Naill ai caniatewch rhagor o amser neu achubwch y ffeil i’ch cyfrifiadur drwy dde-clicio ar y cyswllt a dewis opsiwn ‘Save’.
Os oes gennych ‘Real Download’ wedi ei osod ar eich cyfrifiadur, weithiau gall hyn atal ffeiliau PDF rhag agor yn gywir. Fydd dadosod ‘Real Download’ yn datrys y broblem yma.

C. Pam na allaf argraffu rhai neu’r dudalennau oll mewn ffeil PDF?
A. Os ydych yn defnyddio Adobe Reader yna ymwelwch a thudalennau cefnogaeth Adobe.

C. Beth yw ffeil ZIP?
A. Mae rhai ffeiliau ar y safle mewn fformat cywasgedig o’r enw ‘zip’. Mae ffeiliau zip yn cynnwys un neu fwy o ffeiliau gwreiddiol. Maen’t yn arbed amser a lle, ac yn cyflymu islwytho dogfennau. Byddwch angen meddalwedd zip arbennig i dad-cywasgu y ffeiliau hyn.

C. Mae’r broblem dechnegol yn parhau gyda’r gwefan. Pwy ddylem gysylltu â?
A.Os ydych yn parhau i gael problemau neu mae gennych cwestiwn yr ydych eisiau gofyn, ymwelwch a’r tudalen atborth i anfon eich ymholiad drwy e-bost.