Cymorth –Cyffredinol

C. Sut allai symud i rhan wahanol o’r safle?
A. Mae’r tri thab ar frig y tudalen yn gysylltiadau i tri phrif rhan y gwefan. Fyddwch hefyd yn canfod cysylltiadau a dewislenni trwy’r gwefan a fydd yn eich galluogi i neidio yn syth i rannau gwahanol o ddiddordeb.

C. Sut allai fynd yn ôl i’r tudalen gartref?
A. Mae clicio ar ein logo yn y chwith ar frîg y sgrîn ar unrhyw dudalen yn mynd â chi’n ôl i’r tudalen gartref.

C. Ni allaf gael hyd i beth yr ydwyf yn edrych amdano.
A. Defnyddiwch y blwch chwilio ar frig bob tudalen. Mewnbynnwch eich termau ymholiadol a chliciwch ar y botwm ar y dde. Nodwch os gwelwch yn dda, bod ein llawlyfrau a’r ddeddfwriaeth wedi eu hesgusodi o’r chwiliad hwn. I gynnwys y rhain, defnyddiwch y chwiliad mwy datblygedig yn y Parth Ymarferiadau (Practioner Zone).

C. Sut ydwyf yn islwytho cynnwys?
A. I islwytho cynnwys sydd mewn fformat html:

  • Agorwch y tudalen yr ydych eisiau ac o frig y bar dewislen dewiswch ‘File’, ‘Save As’.
  • Mi fydd y ffenestr ‘Save web page’ yn agor, achubwch y ffeil i’r man a dymunwch a dewiswch ‘save’.

I wylio cynnwys sydd mewn fformat pdf:

  • Cliciwch ar y cysylltiad ffeil i ddechrau’r broses
  • Mi fydd y ffenestr ‘File Download’ yn agor ac yn gofyn os fuasech yn hoffi agor y ffeil neu achub y ffeil i’ch cyfrifiadur . I wylio’r ffeil dewiswch ‘open’
  • Agorith y ffeil drwy ddarllenydd PDF (megis Adobe Reader)

I islwytho PDF:

  • Cliciwch fotwm dde y llygoden ar y cysylltiad a dewiswch ‘Save Target As’
  • Mi fydd y ffenestr ‘Save as’ yn agor, achubwch y ffeil i’r man a dymunwch a dewiswch ‘save’.
  • Mi fydd y ffenestr ‘Download complete’ yn agor felly dewiswch ‘close’.

Nodwch os gwelwch yn dda: mae Adobe a Micorsoft wedi darganfod problemau gyda Acrobat Reader a Internet Explorer.

Yn y cyfamser ateb posib yw i ddilyn y pwyntiau uchod ar islwytho PDF.

Sut ydwyf yn argraffu tudalennau ar y safle s’yn cynnwys gwybodaeth a delwyd gyda’r Tollau Tramor a Chartref EM yn flaenorol?

Rhan amlaf mae’n anghyfleus i orfod argraffu bob rhan o dudalen safle we, gan fod hyn yn cynnwys bariau mordwyaeth ac elfennau fformatio.

Os oes gennych diddordeb yn y brif gynnwys yn unig, yna gallwch alw i fyny golwg ‘Printer Friendly’ o’r dudalen drwy ddewis yr icon perthnasol o’r blwch ‘Tools’ yn y ddewislen yn y golofn llaw dde ar ran mwyaf o dudalennau.

Mi fydd y ffenestr pori newydd yn agor a bydd yn cynnwys y brif manylion yn unig.
Gallwch nawr defnyddio cyfleuster safonol eich porwr i argraffu y dudalen, gan gau y ffenestr pan fyddwch wedi gorffen.

C. Rydwyf yn newydd i’r rhyngrwyd, lle allaf gael cymorth?
A. Lle da i ddechrau yw safle we BBC WebWise yn www.bbc.co.uk/webwise. Mae canolfannau Ukonline wedi eu sefydlu i gynorthwyo pawb yn y DU sydd eisiau dysgu sut i fynd ar y rhyngrwyd. I ddysgu mwy ymwelwch a www.dfes.gov.uk/ukonlinecentres.

C. Rwyf angen cymorth ymhellach i ddefnyddio’r gwefan. Pwy ddylem gysylltu â?
A. Os ydych yn parhau i gael problemau neu bod gennych cwestiwn yr ydych eisiau gofyn, yna ymwelwch a’n tudalen atborth i anfon eich ymholiad drwy e-bost.