Offer Cynnwys Safle
Beth yw Rhybuddion (Alerts)?
Mae gwasanaeth rhybuddion yn eich caniatáu i fonitro cynnwys yn ymwneud â materion sy’n delio a cyn adrannau Tollau Tramor a Chartref EM ac i gael eich hysbysu pan mae cynnwys yn newid. Mae rhybuddion yn ymddangos yn eich Content Tools, ond gallwch ddewis derbyn crynodeb e-bost rheolaidd.
Sut ydwyf yn dewis ardal pynciau?
Dewiswch y pynciau y buasech yn hoffi i’r rhybuddion ddelio â, yn seiliedig ar amryw o ardaloedd treth a thollau a rheolir gan cun adran Tollau Tramor a Chartref EM. Ticiwch un o’r blychau yr ydych angen.
Sut dwi’n dewis mathau cynnwys?
Dewiswch y mathau o gynnwys fuasech yn hoffi i’r rhybuddion ddelio gyda. Er enghraifft, os ydych yn ticio “prif gyhoeddiadau”, fydd hyn yn cynnwys bob canllawiau craidd, hysbysiadau cyhoeddus, taflenni gwybodaeth a briffiau busnes yn eich gosodiadau rhybuddion. Ticiwch un o’r blychau yr ydych angen. Nodwch os gwelwch yn dda tra fod rhan mwyaf o gynnwys y safle wedi ei ddelio gyda gan y gwasanaeth rhybuddion mae rhai cynnwys (yr adran cymorth er enghraifft) ar gael yn unig pan yn defnyddio y gwefan.
Sut ydwyf yn rheoli rhybuddion?
Mae eich rhybuddion wedi recordio ar eich cyfer mewn ffolder rhybuddion personol. Gellir gweld y ffolder yma o adran Site Content Tools pryd bynnag yr ydych yn logio ymlaen i’r safle. Er hynny mae yna derfyn ar y nifer o rhybuddion gall gael eu storio, ar y foment 200. Pan mae’r terfyn yma yn cael ei groesi bydd rhybuddion newydd yn achosi i rai hen gael eu dileu, ar sail cyntaf i fewn cyntaf allan.
- Ynghyd â therfyn awtomatig, gallwch ddewis i ddileu’n awtomatig rhybuddion ar ôl nifer penodol o ddyddiau – ticiwch y blwch opsiynau a defnyddiwch y rhestr gychwynnol (drop down list) i osod y cyfnod amser yr ydych yn dymuno.
- Os fuasech yn hoffi derbyn crynodeb e-bost rheolaidd o’ch ffolder rhybuddion, ticiwch y blwch opsiwn e-bost, dewiswch ba mor aml yr hoffwch eu derbyn a dywedwch wrthym y cyfeiriad e-bost yr ydych eisiau nhw gael eu danfon i yn y man a ddarparir.
Os ydych yn darganfod bod eich ffolder yn cyrraedd y terfyn storio o 200 cyn i chi gael y cyfle i ddarllen y rhybuddion, efallai byddwch eisiau dewis opsiwn crynodeb amlach, neu yn hytrach lleihau y nifer o bynciau a mathau o gynnwys yr ydych yn monitro.
DS – mae ffolder rhybuddion a e-bostau crynodeb yn cynnwys hysbysiadau Document Tracking – gwelir y pwnc cymorth ar y gwasanaeth yma am ragor o fanylion.
Sut ydwyf yn gwylio rhybuddion ar-lein?
I weld eich rhybuddion cyfredol, dewiswch “view alerts”
o’r Content Tools. Mi fydd hwn yn mynd â chi i dudalen sy’n
dangos cynnwys eich ffolder rhybuddion - yn debyg i fewnflwch e-bost.
Dangosir yr rhybuddion yn nhrefn amserol – diweddaraf yn gyntaf.
Mae bob llinell yn dynodi y fath o rhybuddion yr ydych wedi derbyn.....
- New Document Added – mae cynnwys newydd wedi ei ychwanegu i’r testun neu fath cynnwys yr ydych yn monitro
- Document deleted – mae ychydig o gynnwys wedi eu dileu o’r categori
- Document changed mae darn o gynnwys wedi ei ddiweddaru neu olygu mewn rhyw ffordd
- Document tracking alert – mae hwn yn gadael i chi wybod yngly^n â eitem benodol o gynnwys yr ydych yn monitro. Gweler yr adran cymorth Document Tracking am ragor o wybodaeth.
a’r categori pwnc mae’r cynnwys yn ymwneud â, e.e. TAW
Mae dyddiad a amser y rhybuddion hefyd yn cael eu rhoi, yn ogystal â chyswllt i’r eitem o gyswllt sy’n achosi’r rhybuddion. (ar wahân i pan mae’r rhybuddion wedi cael ei ddileu – yn yr achos yma deitl y ddogfen yn unig a ddangosir).
Gall eich ffolder rhybuddion storio hyd at uchafswm o 200 rhybuddion, ar ôl hyn bydd rhybuddion newydd yn disodli rhai hen ar sail cyntaf i fewn cyntaf allan.
Gallwch atal eich ffolder rhag mynd yn rhy fawr drwy ei gael wedi ei glirio’n awtomatig yn rheolaidd – gweler gosod fyny rhybuddion am fanylion.
Beth yw Document Tracking?
Weithiau mae’n ddefnyddiol monitro eitemau penodol o gynnwys safle yn ogystal neu’n lle ardaloedd cyfan o destun. Mae document tracking yn eich galluogi i wneud hyn.
Pan ydych yn gosod fyny document tracking ar gyfer eitem o gynnwys, yr ydych yn cael eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn ymwneud â’r cynnwys yn y modd a gwasanaeth rhybuddion arferol – drwy eich ffolder rhybuddion ar-lein a chrynodebau e-bost hefyd os oes angen.
Gallwch hefyd weld crynodeb o’ch statws document tracking presennol drwy ddefnyddio Content Tools y safle.
Sut ydwyf yn troi tracking i ffwrdd?
Pan mae eitem o gynnwys ar gae ar gyfer tracking, fe gaiff hyn ei ddynodi gan un o’r iconau tracio yn y blwch dewislen offerynnau yn y golofn llaw dde ar y dudalen yr ydych yn ei wylio.
Mae yna ddau icon all ymddangos –
- Track Document – Mae hyn yn golygu fod y cynnwys yr ydych yn gwylio ar gael i’w olrhain
- Cancel Tracking – Mae hyn yn golygu eich bod yn olrhain yr eitem yn barod
Nodwch os gwelwch yn dda – mae rhaid i chi fod wedi eich logio i fewn i weld eich statws olrhain presennol ar gyfer unrhyw eitem cynnwys. Felly os nad ydych wedi logio’i fewn ac yr ydych yn gwylio eitem yr ydych wedi gosod i fyny yn barod ar gyfer olrhain, ymddangosir yr icon “track document” yn lle.
I troi tracking ymlaen ar gyfer y cynnwys yr ydych yn gwylio ar y foment cliciwch ar icon “track document”. Os nad ydych wedi logio’i fewn, cewch eich annog i wneud.
Fe wnaiff yr icon ar y blwch dewislen offerynnau nawr newid i “cancel tracking”, yn dynodi fod y cynnwys nawr ar eich rhestr olrhain.
I droi’r olrhain (tracking) i ffwrdd ar gyfer yr eitem cynnwys, cliciwch ar yr icon “cancel tracking”. Bydd hwn ar gael (os ydych wedi logoio’i fewn) pryd bynnag yr ydych yn gwylio’r cynnwys hynny ar y safle.
Gallwch hefyd troi’r olrhain i ffwrdd drwy Site Content Tools – gweler isod.
Sut ydwyf yn gwylio a golygu rhestr dogfennau sydd wedi ei olrhain?
O’r offer cynnwys a ddangosir ym mlwch mordwyaeth llaw chwith, dewiswch gyswllt “edit document tracking”.
Dangosir rhestr o eitemau cynnwys sy’n cael eu tracio’n presennol.
I ddileu olrhain ar unrhyw un o’r eitemau hyn, dewiswch hwynt gan ddefnyddio’r blychau tic a defnyddio y cyswllt “delete selected items”ar waelod y rhestr.
I ddileu’r olrhain ar bob eitem , defnyddiwch y cyswllt “select all” ar waelod y rhestr yn gyntaf – fe wnaiff hyn dicio’r blychau i gyd yn awtomatig.
Beth yw Clipfwrdd?
Mae gan bob defnyddiwr o’r safle afael ar glipfwrdd personol. Gellir defnyddio hwn ar gyfer storio cysylltiadau i dudalennau ar y safle yn ogystal â chwiliadau penodol. Mae hyn yn eich galluogi i ail-greu chwiliad a berfformiwyd ynghynt, neu i gael i dudalen yr ydych yn defnyddio’n aml yn gyflym.
Mae angen i chi fod wedi logio’i fewn i ddefnyddio yr offeryn clipfwrdd - cewch eich annog i logio’i fewn os ydych yn ceisio ei ddefnyddio unrhyw adeg arall.
Geith eich eitemau clipfwrdd eu hachub ar eich cyfer hyd yn oed pan ydych wedi logio’i ffwrdd – fel y galwch ei ddefnyddio y tro nesaf yr ydych yn ymweld â’r safle
Sut ydwyf yn ychwanegu i’r clipfwrdd?
Mae ychwanegu tudalen i glipfwrdd yn syml. Cliciwch ar icon “save to clipboard” yn y blwch dewislen Tools yn y golofn llaw dde.
I ychwanegu chwiliad, cliciwch ar yr icon pan ar y tudalen canlyniadau chwiliad. Bydd hyn yn ychwanegu at mein prawf y chwiliad (y geiriau yr ydych wedi chwilio yn ei erbyn) yn syth i’ch clipfwrdd.
Pryd bynnag yr ydych yn ychwanegu i’r clipfwrdd bydd neges yn ymddangos ar frig y sgrîn i gadarnhau fod y dudalen neu’r chwiliad wedi eu hychwanegu.
Ni ellir achub rhai tudalennau i’r clipfwrdd. Lle mae hyn yw’r achos ni ymddangosai’r icon yn y blwch dewislen offerynnau.
Sut ydwyf yn gwylio a golygu clipfwrdd?
Lle bynnag yr ydych ar y safle, gallwch wylio’r clipfwrdd drwy glicio ar yr icon “view clipfwrdd” yn y blwch dewislen offerynnau yng ngholofn llaw dde’r tudalen.
Dewiswch un o’r cysylltiadau i ddychwelyd i’r tudalen neu chwiliad a achubwyd .
Sut ydwyf yn golygu y clipfwrdd?
Dewiswch y cyswllt “edit clipboard” o’r tudalen gwylio clipfwrdd.
Dewiswch unrhyw eitemau yr ydych yn dymuno dileu o’r clipfwrdd gan ddefnyddio blychau tic i’r chwith o’r eitemau yn un o’r categorïau clipfwrdd. Yna defnyddiwch y cyswllt eitemau wedi eu dileu ar waelod y rhestr.
I ddileu’r holl eitemau sydd y tu fewn i’r categori clipfwrdd, defnyddiwch y cyswllt ar waelod y rhestr i ddewis bob un o’r blychau tic awtomatig, ac yna dewiswch y cyswllt dileu fel cynt.
Beth yw ‘Dweud wrth Ffrind’?
Mae’r offeryn Dweud wrth Ffrind yn eich caniatáu i anfon cyswllt i’r dudalen bresennol i ffrind neu gydweithiwr drwy e-bost:
Gweler ein telerau ac amodau am reolau ynghylch defnydd cyn defnyddio y cyfleuster
Cliciwch ar yr icon yn y blwch dewislen Offerynnau Cynnwys yn y golofn llaw dde ar y tudalen. Wneith ffurflen gais Dweud wrth Ffrind ymddangos.
Cwblhewch y manylion ar y ffurflen fel nodi, ac anfonwch y cais gan ddefnyddio’r botwm ar y gwaelod .
Ymddangosir neges gadarnhaol. Anfonir e-bost nawr i’r cyfeiriad yr ydych wedi rhoi, gan gynnwys cyswllt i’r tudalen yr oeddech yn gwylio a’ neges y teipiwyd i fewn gennych.
Anfonir e-bostau ar y cyfle cynharaf. Nodwch os gwelwch yn dda na allwn
warantu dosbarthiad gan fod hyn yn ddibynnol ar ddarparwr e-bost y defnyddiwr
yn ogystal â cysylltrwydd cyffredinol y rhyngrwyd ar gael ar yr
amser. Os yw cysylltrwydd ddim ar gael byddwn ond yn ail anfon yr e-bost
am amser penodedig.
