Cysylltu â Ni

Mae sawl ffordd o gysylltu â Cyllid & Thollau EM.

Dros y ffôn

Os yw eich ymholiad yn ymwneud materion cyn-Cyllid megis:
Budd-dal Plant

  • Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • Cynllun Diwydiant Adeiladu
  • Treth Etifeddiant
  • Yswiriant Gwladol
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • Treth Wrth Ennill
  • Hunanasesiad
  • Treth Dir y Doll Stamp
  • Credydau Treth

Yna ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Gymraeg ym Mhorthmadog ar:
0845 302 1489
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30yb hyd 5.00yrh

Os yw eich ymholiad yn ymwneud a materion cyn-Tollau megis:

  • TAW
  • Ecseis
  • Masnach Ryngwladol

yna ffoniwch y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol ar:
0845 010 0300
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00yb hyd 6.00yrh

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â Gwasanaethau Ar-lein yna ffoniwch ein Rheolwr eFusnes ar:
01792 452162
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00yb hyd 5.00yrh

Drwy e-bost

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â TAW yna anfonwch e-bost i Enquiries

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â Masnach Ryngwladol yna anfonwch eich e-bost i Int Enquiries.


Os yw eich ymholiad yn ymwneud â Gwasanaethau Ar-lein yna anfonwch eich e-bost at Gareth W Williams

Os yw eich ymholiad yn ymwneud a materion cyn-Cyllid, yna anfonwch eich e-bost at naill ai Eirlys Friedhoff neu Nigel Friedhoff

*Cofiwch nodi eich manylion, megis Rhif TAW, Rhif Yswiriant Gwladol, Enw, Cyfeiriad, Rhif Ffôn, Rôl yn y Busnes, unrhyw gyfeirnod perthnasol ayb mewn unrhyw ohebiaeth.

Drwy’r post

Anfonwch unrhyw ymholiad yn ymwneud a materion cyn-Cyllid i:

CThEM/HMRC
Canolfan Gyswllt Gymraeg
Ty Moelwyn
Britannia Terrace
Porthmadog
Gwynedd
LL49 9AB

Anfonwch unrhyw ymholiad yn ymwneud a materion cyn-Tollau i:

CThEM/HMRC
Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol
Uned Ymholiadau Ysgrifenedig
Southend on Sea
Alexander House
Victoria Avenue
Southend
Essex
SS99 1BD

*Cofiwch nodi eich manylion, megis Rhif TAW, Rhif Yswiriant Gwladol, Enw, Cyfeiriad, Rhif Ffôn, Rôl yn y Busnes, unrhyw gyfeirnod perthnasol ayb mewn unrhyw ohebiaeth.

Wyneb yn wyneb

I drafod materion cyn-Cyllid wyneb yn wyneb mae’n rhaid yn gyntaf gwneud apwyntiad dros y ffôn.

Mae gwasanaeth wyneb yn wyneb ar gael o unrhyw un o’n 17 swyddfa yng Nghymru, ond mae’n holl bwysig bod trefniadau wedi eu gwneud dros y ffôn yn gyntaf.

Os yw cwsmer yn galw i mewn heb apwyntiad caiff ei gyfarwyddo i ffonio neu, mewn rhai swyddfeydd, i ddefnyddio’r Rhyngrwyd.

Os yw’r ymholiad yn un cymhleth gellir gwneud apwyntiad ar gyfer y dyfodol.

Mae’r rhan fwyaf o swyddfeydd ar agor o 9 tan 5 er y gall yr amseroedd agor amrywio i 9.30 ar ddyddiau o’r wythnos lle mae hyfforddiant ayb yn cymryd lle. Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Gymraeg am ragor o wybodaeth.

I drafod materion TAW rhaid delio â’r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol dros y ffôn.

Os hoffech drafod y materion hyn yn Saesneg yna cliciwch yma i gael gweld eich dewisiadau.