Ffurfiwyd Cyllid a Thollau EM (CThEM) ar 18 Ebrill 2005, yn dilyn cyfuno Adrannau Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref EM. Mae gwaith yn parhau ar ein rhaglen o ailstrwythuro swyddfeydd. Rydym yma i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu ar yr adeg gywir, p'un a yw hyn yn ymwneud â thalu trethi a dderbynnir gan yr adran neu hawl i fudd-daliadau a delir.
Rydym yn casglu ac yn gweinyddu:
Trethi uniongyrchol - sy'n cael eu talu gennych chi neu eich busnes ar arian neu gyfalaf a enillwch.
Trethi anuniongyrchol - sy'n cael eu talu gennych chi neu eich busnes ar arian sy'n cael ei wario ar nwyddau neu wasanaethau.
Rydym yn talu ac yn gweinyddu'r canlynol:
Rydym yn eich diogelu drwy orfodi a gweinyddu'r canlynol:
Ni yw'r brif adran ar gyfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)
a'i changen fasnachol - Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS).
Mae gwybodaeth bellach ynghylch sut rydym yn rhedeg CThEM ar gael o'n
hadran Rheolaeth Gorfforaethol.