Ffurflen

Adrodd am ystâd wedi’i heithrio ar gyfer Treth Etifeddiant

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu’r ffurflen argraffu ac anfon (IHT205) os bu farw’r person ar neu ar ôl 6 Ebrill 2011, ac ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021, ac os nad yw’r ystâd yn debygol o dalu Treth Etifeddiant.

Dogfennau

Adrodd gan ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg).

IHT206 Nodiadau i’ch helpu i lenwi’r ffurflen IHT205 (2011)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Ar ôl 31 Rhagfyr 2022, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein mwyach.

Bydd angen i chi gwblhau’ch ffurflen gais am brofiant erbyn 31 Mawrth 2023 os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os na fyddwch yn gwneud hyn:

  • ni fyddwch yn gallu defnyddio’ch Dynodydd Treth Etifeddiant ar gyfer eich ffurflen gais am brofiant
  • bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen argraffu ac anfon

Bydd angen i chi ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon (IHT205) os bu farw’r person ar neu ar ôl 6 Ebrill 2011 ac ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021, ac os nad yw’r ystâd yn debygol o dalu Treth Etifeddiant.

Os bu farw’r person ar neu cyn 6 Ebrill 2011, bydd angen i chi ddarllen y nodiadau a ffurflenni Treth Etifeddiant ar gyfer marwolaethau cyn 6 Ebrill 2011 (yn Saesneg).

Gallwch wirio Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth.

Rhoi gwybod gan ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon

Gallwch gwblhau’r ffurflen argraffu ac anfon fel rhan o’r broses profiant os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae ystâd yr ymadawedig yn ‘ystâd eithriedig’ (ystâd nad yw’n talu Treth Etifeddiant ac sy’n bodloni amodau eraill)
  • roedd y person a fu farw yn breswylydd parhaol yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Gallwch ddefnyddio’r nodiadau IHT206 i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ac i ddysgu ble y dylech ei hanfon.

Sut i lenwi’r ffurflen

Cyn i chi ddechrau

Sicrhewch fod eich porwr wedi’i ddiweddaru (yn Saesneg).

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael rhagor o help.

Cwblhau’r ffurflen argraffu ac anfon

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

Efallai na fydd yn gweithio os byddwch yn ceisio agor y ffurflen yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael rhagor o help.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 March 2023 + show all updates
  1. You can no longer use the online service to report an excepted estate for Inheritance Tax if the person died on or after 6 April 2011, and on or before 31 December 2021, and the estate is unlikely to pay Inheritance Tax.

  2. After 31 December 2022, you will no longer be able to use IHT205 online. You need to complete your online estate report before this date. You need to complete your probate application by 31 March 2023 if you have used online service. The IHT206 notes have also been updated with references to designated recognised stock exchanges, to bring them in line with current legislation.

  3. The reporting regulations for non-taxpaying estates and the excepted estates qualifying criteria for deaths on or after 1 January 2022 have been amended.

  4. The Welsh language PDF version of the form can now be completed onscreen.

  5. Information about how to download the latest version of Adobe Reader added to the page.

  6. Updated versions of the 'Notes to help you fill in form IHT205(2011)' have been added.

  7. Forms and information for years prior to 6 April 2011 now removed

  8. Updated to include COVID-19 provisions.

  9. The English and Welsh versions of IHT206 notes to help you fill in form IHT205 (2011) have been updated.

  10. An online service is now available for estates that are unlikely to pay Inheritance Tax.

  11. New customers can now trial our online service for Inheritance Tax reporting.

  12. From November 2015 if you are already registered to use SA Online, you may be able to use our new Inheritance Tax Online Service instead of filling in form IHT205.

  13. Updated forms IHT205 (2011) and IHT 206 (2011) have been added to the page.

  14. First published.