Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 Cynllun Cyhoeddiadau Cyllid Y Wlad - Cyflwyniad  
  Mae Cyllid y Wlad, dan gyfarwyddyd cyffredinol Gweinidogion y Trysorlys, yn gyfrifol am y canlynol:
  • gweinyddu treth incwm, treth gorfforaethol, treth enillion cyfalaf, treth refeniw petroliwm, treth etifeddiaeth, cyfraniadau yswiriant gwladol a thollau stamp;
  • talu Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio, Credyd Treth Person Anabl a Chredyd Treth Plant (fe ddisodlir y rhain gan Gredyd Treth Plentyn a Chredyd Treth Gwaith o Ebrill 2003 ymlaen, ac o'r dyddiad hwn bydd Cyllid y Wlad hefyd yn gweinyddu Budd-dal Plant);
  • sicrhau bod pob cyflogwr yn cydymffurfio â'r rheolau isafswm cyflogau; a
  • chasglu ad-daliadau benthyciadau i fyfyrwyr ym mwyafrif yr achosion.

Mae Cyllid y Wlad hefyd yn gyfrifol am Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn Swyddfa Weithredol o fewn yr Adran ac mae'n darparu prisiadau tir ac adeiladau ar gyfer amrywiaeth o gwsmeriaid yn y sector cyhoeddus.

   
 
Nesaf  |   Brig  |  Dewislen