Os ydych yn credu nad yw Cyllid y Wlad wedi darparu gwybodaeth yn unol â'r Cynllun Cyhoeddiadau yna, yn gyntaf, fe ddylech ysgrifennu at yr Uned Rhyddid Gwybodaeth yn y cyfeiriad a roddir uchod.
Yn dilyn yr ymchwiliad i'ch cwyn, os ydych yn dal i fod yn anfodlon, yna fe allwch ofyn am adolygiad mewnol o'r mater. Bydd yr Adran yn trefnu ymchwiliad i'r gwyn gan aelod o staff uwch ei r(h)eng na'r aelod o staff a ymdriniodd â'r cais gwreiddiol am wybodaeth. Bydd y swyddog yn annibynnol yn yr ystyr nad oedd a wnelo â'r cais gwreiddiol am wybodaeth. Os ydych yn dal yn anfodlon yna fe allwch gyfeirio eich cwyn at y Comisiynydd Gwybodaeth.
Amcana'r Adran ymchwilio i gwynion o fewn 20 niwrnod gwaith ac amcana hefyd gwblhau adolygiadau mewnol o fewn 20 niwrnod gwaith.
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Cyfrifoldeb y Comisiynydd Gwybodaeth, swyddog cyhoeddus annibynnol sy'n atebol yn uniongyrchol i'r Senedd, yw gorfodi'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae rôl y Comisiynydd fel a ganlyn:
Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod:
Information Commissioner
Wycliffe House, Water Lane
Wilmslow, Cheshire SK9 5AF
Llinell Wybodaeth: 01625 545745
Switsfwrdd: 01625 545700
Ffacs: 01625 524510
E-bost: mail@dataprotection.gov.uk
Gwefan: http://www.ico.org.uk/
Adolygiad o'r Cynllun cyhoeddiadau
Bydd Cyllid y Wlad yn adolygu'r Cynllun Cyhoeddiadau ym mis Ebrill 2003 ac yn flynyddol wedi hynny.
Atborth
Mae Cyllid y Wlad yn croesawu atborth yng nghyswllt y Cynllun Cyhoeddiadau.
Caiff sylwadau eu hystyried a'u trafod wrth adolygu'r Cynllun. Pan ddaw'r
hawl unigol i fynediad at wybodaeth i rym ar 1 Ionawr 2005, bydd yr Adran
yn defnyddio'r profiad a enillodd i ddatblygu'r Cynllun Cyhoeddiadau ymhellach.
A fyddech cystal ag anfon eich sylwadau at yr Uned
Rhyddid Gwybodaeth yn y cyfeiriad a roddir uchod.