| Mae'r ddogfen hon yn disgrifio Cynllun Cyhoeddiadau Cyllid y Wlad. Mae hefyd ar gael o http://www.inlandrevenue.gov.uk/ a http://www.voa.gov.uk/. Yn ôl adran 19 y Ddeddf mae gofyn i bob awdurdod cyhoeddus gan gynnwys adrannau'r llywodraeth megis cyllid y Wlad fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddiadau. Mae'n rhaid i'r Cynllun Cyhoeddiadau nodi:
Caiff Cynllun Cyhoeddiadau Cyllid y Wlad ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth (gweler isod). Diben y Cynllun Cyhoeddiadau yw adnabod dosbarthiadau gwybodaeth y mae (neu y bydd) yr wybodaeth a gynhwysir ynddynt wedi ei chyhoeddi fel ei bod ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd, e.e. heb yr angen am ystyriaeth arbennig yn ôl y Ddeddf, a hysbysu'r cyhoedd ynghylch ystod y deunydd sydd ar gael. Mae'n ddyletswydd cyfreithiol mawr ar yr Adran i gadw'r wybodaeth y mae'n ei chadw am ei chwsmeriaid yn gyfrinachol, onid yw'r gyfraith yn caniatáu ei datgelu neu bod y cwsmer dan sylw yn fodlon i'r wybodaeth gael ei datgelu. Nid yw ymrwymiad yr Adran i gyhoeddi gwybodaeth yn ôl y Cynllun Cyhoeddiadau hwn na'r hawliau mynediad a roddir gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn caniatáu mynediad at wybodaeth gyfrinachol a gedwir gan yr Adran am ei chwsmeriaid. Yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth ddweud y bydd yr wybodaeth ar gael yn rhwydd yw y bydd yr wybodaeth ar gael ar wefannau Cyllid y Wlad ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio, y gellir ei chael o Ganolfannau Ymholiadau Cyllid y Wlad, y bydd ar gael ar wefan Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO), y gellir ei chael o lyfrgell gyhoeddus neu y caiff ei darparu yn dilyn derbyn llythyr neu drwy ofyn am yr wybodaeth mewn swyddfa Cyllid y Wlad sydd ar agor i'r cyhoedd. Mae'r Cynllun Cyhoeddiadau'n rhestru'r dosbarthiadau o wybodaeth a gynhwysir, gan ddynodi, os yw'n briodol, a yw rhai darnau o wybodaeth wedi'u heithrio, sut y caiff yr wybodaeth ei chyhoeddi, a pha un a godir tâl am ei darparu ai peidio. Pan fyddwch yn derbyn yr wybodaeth y gofynnwyd amdani fe nodir pa wybodaeth a ataliwyd ac fe esbonnir pa eithriad oedd yn berthnasol a pham. Mae Rhan 2 y ddogfen hon (gweler isod) yn disgrifio'r dosbarthiadau gwybodaeth y mae Cyllid y Wlad yn cyhoeddi neu yn bwriadu cyhoeddi. Mae gan yr Adran Restr Gyhoeddiadau i gyd-fynd â'r cynllun ac sy'n rhestru cyhoeddiadau penodol ac yn dynodi ble maent ar gael a pha un a ydynt ar gael yn rhad ac am ddim ynteu am dâl. A fyddech cystal â nodi nad yw'r Cynllun Cyhoeddiadau hwn, ar y cyfan, yn ôl-weithredol. Fersiynau cyfredol fydd y dogfennau a gyhoeddir. Cyfrifoldeb am y Cynllun CyhoeddiadauGan y Cyfarwyddwr Adnoddau Gwybodaeth y mae'r cyfrifoldeb cyffredinol am Gynllun cyhoeddiadau Cyllid y Wlad. Y person sy'n gyfrifol am gynnal y Cynllun Cyhoeddiadau o ddydd i ddydd yw: John Sharpe Ffôn: 020 7438 8265 E-bost: john.sharpe@ir.gsi.gov.uk Dogfennau sydd ar gaelOs ydych yn dymuno:
cysylltwch (drwy ymweld â, ysgrifennu at, neu ffonio) ag unrhyw swyddfa Cyllid y Wlad sydd ar agor i'r cyhoedd. Hefyd, gallwch ysgrifennu at, neu ffonio: The Freedom of Information Act Unit Ffôn: 020 7438 8265 E-bost: ccp.disclosure@ir.gsi.gov.uk Am gyhoeddiadau Asiantaeth y Swyddfa Brisio ysgrifennwch at, neu ffoniwch: VOA Customer Services Team Ffôn: 020 7506 1801 Gellir dadlwytho fersiynau electronig o'r cyhoeddiadau a gynhwysir yn y Rhestr Gyhoeddiadau (er enghraifft ar ffurf ffeiliau html neu .pdf) yn rhad ac am ddim o'r priod wefannau. Er mwyn gallu darllen ffeiliau .pdf bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch, sydd yn rhad ac am ddim ac ar gael oddi wrth Adobe. Codi tâl am gyhoeddiadauAm bob dosbarth a restrwyd yn Rhan 2 isod rydym wedi dynodi a yw'r dosbarth yn cynnwys gwybodaeth y codir tâl amdani ai peidio. Yn y Rhestr Gyhoeddiadau sy'n cyd-fynd â'r Cynllun rydym wedi dynodi pa rai o'r categorïau canlynol y gallai'r cyhoeddiadau fod wedi eu cynnwys ynddynt.
HawlfraintSefydliad y Goron yw Cyllid y Wlad ac mae’r wybodaeth a gynhyrchir gennym yn ddibynnol ar hawlfraint y Goron a weinyddir gan Lyfrfa ei Mawrhydi. Hawlfraint y Goron yw’r deunydd a restrir yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn oni ddynodir yn wahanol. Ildiwyd yr hawlfraint mewn rhywfaint o’r deunyddiau y gellir eu gweld yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn a golyga hyn y gellwch atgynhyrchu’r deunydd hwn am ddim. Mae’r categorïau lle ildiwyd yr hawlfraint yn cynnwys: datganiadau i’r wasg gan y llywodraeth, deddfwriaeth a nodiadau eglurhad ar ddeddfwriaeth, anerchiadau gweinidogion, dogfennau ymgynghori, dogfennau a welir ar wefannau swyddogol (oni bai y nodwyd yn glir yn wahanol), ystadegau penawdau a chofnodion cyhoeddus heb eu cyhoeddi. Gellir gweld mwy o fanylion am y rhain a chategorïau eraill ar: www.hmso.gov.uk/guides.htm. Ar gyfer mathau eraill o ddeunyddiau, fodd bynnag, nid yw’r cyflenwad o ddogfennau yn unol â Rhyddid Gwybodaeth, yn rhoi hawl awtomatig i’r person neu’r sefydliad sy’n eu derbyn, i ail ddefnyddio’r dogfennau mewn modd a fyddai’n torri ar yr hawlfraint, er enghraifft, drwy wneud llu o gopïau, cyhoeddi a dyroddi copïau i’r cyhoedd. Gellir atgynhyrchu detholiadau byr o unrhyw ddeunydd sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn yn unol â darpariaeth delio’n deg Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adrannau 29 a 30) ar gyfer ymchwil i bwrpas anfasnachol, astudiaeth breifat, beirniadaeth, adolygu ac adrodd newyddion. Gelir gweld manylion trefniadau ail ddefnyddio deunyddiau hawlfraint y Goron ar wefan HMSO ar: www.hmso.gov.uk/copyhome.htm neu drwy gysylltu â Llyfrfa ei Mawrhydi yn: Her Majesty’s Stationery Office Ffôn: 01603 621000 e-bost: HMSO Licensing Dylid gofyn am ganiatâd deilwyr yr hawlfraint dan sylw i ail ddefnyddio deunydd hawlfraint nad sy’n eiddo i’r Goron. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai defnyddwyr gysylltu â Llyfrfa ei Mawrhydi yn y lle cyntaf. Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw Uned Ffurflenni Cyllid y Wlad ar gyfer fersiynau cyfatebol ffurflenni Cyllid y Wlad (Ffôn: 020 7438 4264). |
|
| Hafan | ||||