Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

 

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gyfraith ar 30 Tachwedd 2000. Mae'r Ddeddf yn gwneud 2 brif beth.

  • Mae’n rhoi'r hawl gyffredinol i ymgeiswyr gael mynediad at bob math o wybodaeth a gofnodwyd ac a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, er y bydd rhai eithriadau i'r hawl honno.
  • Mae’n rhwymo awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cyllid y Wlad, i gynhyrchu a chynnal Cynllun Cyhoeddiadau wedi ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol (gweler isod).

Ceisiadau unigol o 1 Ionawr 2005

Mae’r hawl i fynediad yn ôl y Ddeddf yn berthnasol i bob math o wybodaeth a gofnodwyd ac a gedwir gan yr Adran beth bynnag fo’r dyddiad y crëwyd yr wybodaeth. Fodd bynnag, bydd rhai eithriadau i'r hawl hon yn ôl y Ddeddf. Bydd unrhyw un yn gallu gwneud cais am wybodaeth yn ôl yr hawl i fynediad. Oni bai fod a wnelo'r cais ag un o'r eithriadau penodol yn y Ddeddf, byddwch yn gallu mynnu'r canlynol os gwnewch gais i'r Adran hon yn ôl yr hawl i fynediad:

  • eich bod yn cael eich hysbysu'n ysgrifenedig gan yr Adran a yw'n cadw gwybodaeth o'r fath y gofynnoch amdani ac, os felly,
  • bod yr wybodaeth honno'n cael ei rhoi i chi, os yn bosib, yn y ffordd y gofynnoch am gael ei derbyn, er enghraifft ar ffurf copi neu grynodeb, neu gallwch ofyn am gael archwilio'r cofnod.

Sut i wneud cais am wybodaeth

Yn gyntaf, dylech edrych i weld a ydym eisoes yn cyhoeddi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gallwch wneud hyn trwy edrych ar y Dosbarthiadau Gwybodaeth, yn ein Cynllun Cyhoeddiadau, neu drwy ddefnyddio’r cyfleuster Chwilio ar y Safle hwn.

Os na allwch gael hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch, anfonwch lythyr neu e-bost i:

The Freedom of Information Act Unit
Information Resources
Inland Revenue
Room 59 New Wing, Somerset House
Strand
London WC2R 1LB
Ffôn: 020 7438 8265
Ffacs: 020 7438 6454
E-bost: ccp.disclosure@ir.gsi.gov.uk

Rhaid i chi:-

  • Rhoi eich enw
  • Rhoi cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth
  • Disgrifio, mor llawn ag y bo’ modd, yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Yn ogystal, buasai o gymorth pe buasech yn rhoi rhif ffôn, rhag ofn y bydd angen i ni drafod eich cais â chi.

Sut y byddwn yn trin ceisiadau

Mae'r Ddeddf yn gosod terfynau amser ar gyfer ymdrin â chais am wybodaeth. Bydd yn rhaid i Gyllid y Wlad ymateb i geisiadau o fewn 20 niwrnod gwaith. Mae'r Ddeddf hefyd yn ymorol am beirianwaith apelio sy'n eich galluogi i wneud cais i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi'r Ddeddf (gweler isod), am benderfyniad o ran a ymdriniodd yr Adran â chais penodol yn unol â'r Ddeddf.

Gall Cyllid y Wlad godi tâl am brosesu cais am fynediad at wybodaeth yn ôl y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Cyfrifir y tâl yn ôl y Rheoliadau Tâl. Yn ôl y Ddeddf, gellir codi tâl am yr amser a dreuliwyd yn dod o hyd i gofnodion neu yn copïo cofnodion yn effeithlon, a hynny yn ôl cyfradd safonol wrth yr awr. Ni ellir codi tâl am yr amser a dreuliodd yr Adran yn ystyried ceisiadau. Os gofynnir am dâl, fe roddir estyniad hyd at 3 mis ar y cyfnod o 20 niwrnod gwaith nes y cyflwynir y tâl.

   
 
Blaenorol  |   Nesaf  |   Brig  |  Dewislen