Yn yr adran hon:
Dyma restr o ffurflenni sydd ar gael ar ein gwefan ynghyd ag unrhyw nodiadau, taflenni cymorth, tudalennau atodol a chanllawiau cysylltiedig.
Chwiliwch am y daflen/ffurflen sydd ei hangen arnoch o'r rhestr isod ac yna cliciwch arni er mwyn ei lawr lwytho.
Ar y dudalen hon:
SE1 - Meddwl am weithio i chi eich hun? (PDF 114K)
Pan fyddwch yn dechrau gweithio i chi eich hun, bydd angen i chi dweud
wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM). Gall CThEM eich helpu i ddeall beth
sydd angen i chi ei wneud ynglŷn â threth i osgoi camgymeriadau.
CWF1 - Dod yn hunangyflogedig a chofrestru ar gyfer cyfraniadau
Yswiriant Gwladol a/neu dreth (PDF 128K)
Defnyddiwch ffurflen CWF1 i ddweud wrth CThEM pan rydych yn dechrau
hunangyflogaeth, bydd yn helpu i gael eich cofnodion treth ac Yswiriant
Gwladol yn gywir. Llenwch y ffurflen a’i hanfon i CThEM.
CF10 - Pobl hunangyflogedig gydag enillion bach (PDF 188K)
Cwblhewch y ffurflen CF10 yn electronig a’i hargraffu er mwyn gwneud
cais am eithriad rhag talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
os ydych yn hunangyflogedig a bod eich enillion net o hunangyflogaeth
yn is na’r
trothwy perthnasol. Os caniateir eich cais byddwn yn anfon Tystysgrif
Eithriad
Enillion Bach atoch.
RKBK1 - Arweiniad cyffredinol i gadw cofnodion ar gyfer eich
ffurflen dreth (PDF 280K)
Mae'r llyfryn hwn yn rhoi cyngor cyffredinol i chi ynghylch pa gofnodion
y mae angen i chi eu cadw at ddibenion treth a pha mor hir y dylech
eu cadw.
2009-10 – Pecyn y Cyflogwr (Yn agor ffenestr newydd)
R40 – Cais am ad-daliad o'r dreth a ddidynwyd o gynilion a buddsoddiadau
(PDF 128K)
Defnyddiwch y ffurflen R40 i hawlio treth yn ôl os ydych yn credu eich
bod wedi talu gormod ar eich llog o gynilion ac anfonwch y ffurflen wedi’i
chwblhau at eich Swyddfa Dreth.
R40 (Nodiadau) – Nodiadau ar gyfer cwblhau ffurflen R40 (PDF
356K)
Bydd y nodiadau hyn yn eich helpu i wneud ceisiadau am ad-daliad am
unrhyw un o’r blynyddoedd treth 2005-06 i 2011-12 (mae’r flwyddyn dreth
yn dechrau ar 6 Ebrill ac yn dod i ben ar y 5 Ebrill dilynol)
R68 - Cais am ad-daliad ar gyfer Elusennau a Chlybiau Chwaraeon
Amatur Cymunedol (PDF 36K)
Ffurflen i Elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol i wneud
cais am ad-daliadau treth a rhoddion a wneir o dan Rhodd Cymorth ac
incwm arall fel llog banc a chymdeithas adeiladu
R68 Atodiad Rhodd Cymorth ar gyfer rhoddion a wneir o 6 Ebrill 2008 (PDF 42K)
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi manylion ynghylch rhoddion a
wnaed i chi gan unigolion o dan Rhodd Cymorth o 6 Ebrill 2008
R85 – Derbyn eich llog heb fod treth wedi'i thynnu i ffwrdd
(PDF 53K)
Defnyddiwch y ffurflen R85 i hysbysu eich banc neu gymdeithas adeiladu
eich bod yn gymwys i dderbyn llog yn rhydd o dreth ar eich cyfrif.
R85 - Taflen Gymorth Derbyn eich llog heb fod treth wedi’i didynnu (PDF 63K)
P9D – Taliadau treuliau ac incwm na ellir tynnu treth ohonynt
(PDF 58K)
Defnyddiwch y ffurflen P9D i adrodd am dreuliau a buddiannau a roddir
i gyflogeion ar gyfradd o lai na £8,500 y flwyddyn. Gweler isod am beth
i’w gynnwys yn y ffigur o £8,500.
P46: Cyflogai heb ffurflen P45 (PDF 37K)
Llenwch adran un ac yna rhowch y ffurflen yn ôl i’ch cyflogwr presennol. Os derbyniwch ffurflen P45 oddi wrth eich cyflogwr blaenorol yn nes ymlaen, rhowch hi i’ch cyflogwr presennol.
FPI1 Cymraeg - Cosbau ar gyfer taliadau TWE hwyr cyflogwyr a chontractwyr (PDF
30K)
Bydd y cosbau newydd ar gyfer taliadau hwyr yn gymwys ar gyfer pob
cyflogwr a chontractwr nad ydynt yn talu ar amser. Bydd yn dal yn rhaid
i gyflogwyr a chontractwyr mawr dalu’n electronig ond bydd y cosbau newydd
yn disodli’r gordal taliadau electronig gorfodol.
Datganiad Rhodd Cymorth (PDF 41K)
Rhaid i chi dalu swm o Dreth Incwm a/neu Dreth Enillion Cyfalaf ar
gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill un flwyddyn tan 5 Ebrill y flwyddyn
nesaf) sydd o leiaf cyfwerth â swm y dreth y bydd yr elusen neu’r Clwb
Chwaraeon Amatur Cymunedol yn ei adennill ar eich rhoddion ar gyfer y
flwyddyn dreth honno.
TC846 – Credydau Treth a ordalwyd (PDF 170K)
Defnyddiwch ffurflen TC846 os ydym wedi talu gormod o gredydau treth
i chi ac rydych yn credu na ddylai fod yn rhaid i chi eu talu'n ôl
ôl. Rhaid eich bod yn gallu dangos ein bod wedi gwneud camgymeriad
neu wedi rhoi
cyngor anghywir
i chi a’i bod yn rhesymol i chi gredu bod eich taliadau yn gywir.
COP26 – Beth fydd yn digwydd os byddwn wedi talu gormod o gredydau treth i chi?
(PDF 122K)
Cod ymarfer sy’n nodi sut rydym yn delio â gordaliadau credydau treth.
TC602(SN) – Gwirio eich hysbysiad o ddyfarniad credydau treth. (PDF
63K)
Defnyddiwch y rhestr wirio hon er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth ar
eich hysbysiad o ddyfarniad yn gywir.
WTC_AP – Beth i’w wneud os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir
(PDF 208K)
Gwybodaeth ynglŷn â sut i apelio yn erbyn penderfyniad credyd treth
neu gosb. Mae’r ffurflen apelio ar ddiwedd y daflen wybodaeth.
WTC1 – Cyflwyniad i Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith (PDF
117K)
Mae’r daflen hon yn egluro beth yw Credydau Treth Plant a Chredydau
Treth Gwaith, pwy all eu derbyn a sut i wneud cais.
WTC5 – Credyd Treth Gwaith – help gyda chostau gofal plant (PDF 799K)
Os ydych yn gweithio ac yn talu am ofal plant efallai y gallwch gael
cymorth ychwanegol gyda’r costau. Dyma elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith
WTC6 – Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith - Mathau eraill o
help y gallech eu cael (PDF 197K)
Mae’r daflen wybodaeth hon yn sôn am y mathau eraill o gymorth y gallwch
ei gael os ydych yn derbyn Credydau Treth Plant neu Gredydau Treth
Gwaith
WTC7 – Cosbau Credydau Treth Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y gwiriad?
(PDF 126K)
Mae’r daflen hon yn sôn am y cosbau y gellir eu codi arnoch os na fydd
eich cais am gredydau yn gywir.
TC600 Nodiadau – Cael eich ffurflen gais am gredydau treth yn gywir
(PDF 1.07MB)
Sut i gwblhau eich ffurflen hawlio credydau treth
TC603RD Nodiadau – Adnewyddu eich credydau treth – Yn y ffordd gywir
(PDF 1.11MB)
Adnewyddu eich credydau treth – Yn y ffordd gywir
P800 Nodiadau - Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall a gwirio eich Cyfrifiad
Treth P800 (PDF 152K)
Mae eich Cyfrifiad Treth (P800) yn dweud wrthych p’un a yw Cyllid a
Thollau EM (CThEM) yn ystyried eich bod wedi talu gormod neu rhy ychydig
o dreth mewn blynyddoedd treth cynt. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio
eich cyfrifiad. Os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir, bydd angen i
chi gysylltu â CThEM ar unwaith. Efallai y bydd angen iddynt ddiwygio’r cyfrifiad
os oes gennych wybodaeth ychwanegol.
IHT205 Datganiad gwybodaeth am yr ystad
IHT400 Cyfrif Treth Etifeddiant
64-8 – Awdurdodi eich asiant (PDF 193K)
Mae ffurflen 64-8 yn ein hawdurdodi i ohebu â chyfrifydd, asiant treth
neu gynghorydd sy’n gweithredu ar eich rhan. Mae’r ffurflen hon yn cwmpasu
awdurdod ar gyfer materion treth unigol (partneriaethau, ymddiriedolaethau,
credydau treth ac unigolion o dan TWE) a threthi busnes (TAW, TWE i gyflogwyr
a Threth Gorfforaeth).
FBI 2 – Awdurdodi eich asiant i ddefnyddio gwasanaethau TWE/CIS Ar-lein (PDF
42K)
Defnyddir y ffurflen FB12 i awdurdodi eich cynrychiolydd treth i ddefnyddio
gwasanaethau TWE / CIS ar-lein. Mae hyn yn eu galluogi i dderbyn gwybodaeth
dros y rhyngrwyd oddi wrthym ar eich rhan.
Ffurflen gais i sefydlu Debyd Uniongyrchol (PDF 46K)
Cyfarwyddyd i'ch banc neu Gymdeithas Adeiladu dalu drwy Debyd Uniongyrchol (PDF 54K)
CA5610 - Cais am ad-daliad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Dosbarth 4 (CYG) (PDF 44K)
Defnyddiwch y ffurflen CA5610 i wneud cais i Gyllid a Thollau EM am
ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 4
HMRC 1 - Penderfyniadau Cyllid & Thollau – beth i'w wneud os ydych yn anghytuno (PDF 35K)
Mae taflen wybodaeth HMRC1 yn egluro beth gall gwsmeriaid wneud
os nad ydynt yn cytuno â phenderfyniad y gallant apelio yn ei erbyn.
Mae hyn yn cynnwys manylion ynghylch sut i ofyn am adolygiad a sut
i apelio i’r tribiwnlys
annibynnol.
Os nad yw'r daflen/ffurflen ar gael yma cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at yr Uned Gymraeg.
C/FS Cwynion (PDF 120K)
Mae’r daflen wybodaeth hon yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych
yn nfodlon â’n gwasanaeth. Rydym yn croesawu cwynion gan eu bod yn rhoi
cyfle i ni unioni pethau i chi a gwella ein gwasanaeth i’n holl gwsmeriaid
yn y dyfodol.
CA72B - Cais i ohirio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth
2 a/neu Dosbarth 4 (PDF 54K)
Rhaid gwneud cais i ohirio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth
2 a/neu Dosbarth 4 bob blwyddyn dreth gan ddefnyddio ffurflen gais newydd.
CA72B Nodiadau - Nodiadau arweiniol ar gyfer ffurflen CA72B (PDF 74K)
Mae’r nodiadau hyn yn dweud wrthych am yr amodau mae’n rhaid i chi
eu bodloni er mwyn gwneud cais i ohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
hunangyflogedig. Darllenwch y nodiadau hyn cyn cwblhau’r ffurflen CA72B Ffurflen
gais ar gyfer gohirio talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a/neu
Dosbarth 4.