Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG): Hunangyflogedig  
 

Pa CYG y mae'n rhaid i mi eu talu os wyf yn troi'n hunangyflogedig?

Fel gweithiwr hunangyflogedig, bydd rhaid i chi dalu CYG Dosbarth 2 ar gyfer pob wythnos o hunangyflogaeth, ar yr amod eich bod yn 16 oed neu'n hy^n ac o dan 60/65, ac yn hunangyflogedig fel arfer. Efallai y bydd rhaid i chi dalu CYG Dosbarth 4 hefyd ar unrhyw elw net rhwng terfynau isaf ac uchaf penodol. (Ar gyfer y flwyddyn 2001/2002, cyfrifir hyn fel 7% o'r elw net rhwng y terfynau isaf ac uchaf o £4,535 a £29,900).

Pa bryd y mae'n rhaid i mi ddechrau talu CYG?

Dylech ein hysbysu eich bod yn hunangyflogedig, a gwneud trefniadau i dalu CYG Dosbarth 2 cyn gynted ag y byddwch yn dechrau bod yn hunangyflogedig. Os nad ydych yn gwneud hyn, efallai y bydd rhaid i chi dalu cosb o £100, a bydd rhaid i chi dalu CYG ar gyfradd uwch a/neu golli eich hawl i rai budd-daliadau'r wladwriaeth.

Dylech nodi bod yr Wythnos Gyfrannu yn rhedeg o ddydd Sul i ddydd Sadwrn. Felly, os ydych yn dechrau ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos heblaw dydd Sul, bydd eich atebolrwydd yn dechrau ar y dydd Sul blaenorol.

Er enghraifft, os ydych yn troi'n hunangyflogedig ar ddydd Sul 27/02/00, mae'r atebolrwydd yn dechrau o 27/02/00. Os ydych yn troi'n hunangyflogedig ar ddydd Sadwrn 04/03/00, mae'r atebolrwydd yn dechrau unwaith eto o 27/02/00.

Gweler taflen CA07 Cyfraniadau heb eu talu a chyfraniadau a delir yn hwyr am ragor o fanylion.

A oes unrhyw bosibilrwydd o beidio â thalu?

Yn amodol ar rai eithriadau penodol, mae'n rhaid i chi dalu CYG Dosbarth 2 - nid yw'n ddewisol. Os oes rhaid i chi dalu, gall methu â thalu olygu bod achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn eich erbyn i geisio adennill y CYG sydd heb eu talu.

A wyf yn peidio â thalu os nad wyf yn gwneud elw, os wyf yn sâl neu'n mynd ar wyliau?

Os nad ydych yn disgwyl gwneud elw, neu os yw eich enillion o dan lefel arbennig, gallwch wneud cais am Eithriad Enillion Bach (SEE). Mae'r daflen hon yn cynnwys y ffurflen gais angenrheidiol (CF10) a manylion am y terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad os ydych eisoes wedi talu cyfraniadau Dosbarth 2.

Nid oes rhaid i chi dalu CYG Dosbarth 2 ar gyfer unrhyw wythnos gyflawn o salwch (dydd Sul i ddydd Sadwrn).

Mae'n rhaid i chi barhau i dalu CYG Dosbarth 2 os ydych ar wyliau.

Sut yr wyf yn talu?

Mae'r daflen P/SE/1 yn cynnwys gwybodaeth ar sut i dalu CYG Dosbarth 2. Mae hefyd yn cynnwys ffurflen i'n hysbysu eich bod wedi dechrau gweithio'n hunangyflogedig, a ffurflen gais debyd uniongyrchol.

Pa gymorth sydd ar gael os wyf yn drysu neu os na allaf ddeall y ffurflenni?

Gallwch ffonio'r Ganolfan Galwadau Gwasanaethau Hunangyflogaeth (SES) ar 08459 145655. Codir galwadau ar gyfradd lleol.

A fydd unrhyw un yn gwirio fy mod wedi gweithredu'r system yn briodol, a beth fydd yn digwydd os wyf yn gwneud camgymeriad?

Bydd. Os nad ydych yn talu digon, neu os ydych yn talu gormod, cewch wybod am hyn maes o law. Bydd y dull hysbysu yn dibynnu ar y dull talu o'ch dewis.

Os ydych yn talu trwy fil chwarterol, caiff eich bil nesaf ei addasu'n awtomatig.

Os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol, yr unig amser y byddwn yn debygol o gysylltu â chi yw os bydd y debyd uniongyrchol yn dod i ben yn annisgwyl. Os digwydd hyn, bydd Adran Cyfrifon Cwsmeriaid SES naill ai'n eich ffonio neu'n ysgrifennu atoch.

Beth yw cyfradd cyfredol CYG Dosbarth 2?

Cyfradd CYG Dosbarth 2 ar hyn o bryd yw £2.00 yr wythnos (blwyddyn 2001/2002). Am fwy o wybodaeth, gweler y Tudalen Cyfraddau a Lwfansau Treth.

Paham y mae'r cyfradd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf?

Gostyngwyd y cyfradd er mwyn i fwy o bobl hunangyflogedig sydd ag enillion isel allu cael neu wella eu hawl i Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau eraill.

Rwyf wedi cael caniatâd i ohirio talu CYG Dosbarth 2. A fydd y newid yn y cyfradd yn effeithio ar hyn?

Na fydd. Yn syml, bydd yn golygu efallai y bydd rhaid i chi dalu llai nag yn y blynyddoedd blaenorol.

A fydd y cyfradd gostyngedig hwn yn effeithio ar fy hawl i bensiwn/budd-daliadau?

Na fydd. Nid yw cyfradd Pensiwn Ymddeol a budd-daliadau perthnasol eraill wedi cael ei ostwng o ganlyniad i ostwng cost CYG Dosbarth 2.

Ar hyn o bryd, rwy'n talu CYG Dosbarth 3. A allaf newid i dalu CYG Dosbarth 2?

Na allwch, gallwch dalu CYG Dosbarth 2 dim ond os ydych yn hunangyflogedig. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl hunangyflogedig dalu CYG Dosbarth 4 hefyd, felly mae'r tâl cyfan yn llawer uwch na chyfradd CYG Dosbarth 3.

A allaf ddiddymu fy Nhystysgrif Eithriad Enillion Bach (SEE), a dechrau talu CYG Dosbarth 2?

Gallwch. Cwblhewch ochr arall y Dystysgrif a'i dychwelyd i Wasanaethau Hunangyflogaeth. Gallwch hefyd dalu CYG Dosbarth 2 yn wirfoddol heb ddiddymu eich tystysgrif. Cysylltwch â Chanolfan Galwadau SES ar 08459 154655 am fwy o wybodaeth. Codir galwadau ar gyfradd lleol.

Paham y mae Pysgotwyr Cyfran yn talu CYG Dosbarth 2 cyfradd uwch?

Mae Pysgotwyr Cyfran yn talu CYG Dosbarth 2 cyfradd uwch er mwyn iddynt fod yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith pan nad ydynt yn gweithio. Nid oes rhaid i unrhyw weithwyr hunangyflogedig eraill dalu'r CYG hyn.

Paham na all Pysgotwyr Cyfran dalu CYG Dosbarth 2 trwy ddebyd uniongyrchol?

Ni all Pysgotwyr Cyfran dalu CYG Dosbarth 2 trwy ddebyd uniongyrchol oherwydd gall eu hunangyflogaeth fod yn afreolaidd, a gall ddibynnu ar y tymor, y tywydd a ffactorau newidiol eraill.

A oes terfyn i swm y CYG Dosbarth 2 y byddaf yn eu talu mewn unrhyw flwyddyn?

Oes. Gosodir terfyn ar holl ddosbarthiadau CYG, ar gyfer pob blwyddyn. Cyfeirir at hyn fel yr 'Uchafswm Blynyddol'. Fodd bynnag, gan y telir CYG Dosbarth 2 ar gyfradd unffurf, os ydych yn hunangyflogedig yn unig nid yw'n bosib i chi dalu mwy nag uchafswm blynyddol Dosbarth 2.

   
Hafan
   Brig  |  Dewislen