Pa mor aml y mae'n rhaid i mi gyflwyno datganiadau pensiwn i'm haelodau? O leiaf unwaith y flwyddyn, gyda'r datganiad neu'r adroddiad blynyddol fel arfer. Beth yw manteision contractio allan o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS)? Mae aelodau cynlluniau pensiwn galwedigaethol a gontractiwyd allan, h.y. Cynllun ar Sail Cyflog a Gontractiwyd Allan (COSR), Cynllun Prynu Arian a Gontractiwyd Allan (COMP) neu Gynllun Budd Cymysg a Gontractiwyd Allan (COMB) yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) ar gyfradd is. Mae'r cyflogwr hefyd yn talu cyfraniad YG ar gyfradd is. Os ydych wedi'ch contractio allan trwy gynllun Pensiwn Personol Priodol (APP), byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau YG ar gyfradd llawn, ond bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (yr Adran Nawdd Cymdeithasol yn flaenorol) yn talu'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau wedi'u contractio allan a'r rhai heb eu contractio allan i'r darparwr ar eich rhan. Gallwch gael cyngor ar y dewis gorau i chi trwy gysylltu ag ymgynghorydd ariannol annibynnol. Rwy'n talu cyfraniadau YG cyfradd llawn, er fy mod mewn cynllun a Gontractiwyd Allan. A yw hyn yn gywir? Cyhyd â'ch bod yn aelod o gynllun Pensiwn Personol Priodol, byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau YG ar gyfradd llawn. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (yr Adran Nawdd Cymdeithasol yn flaenorol) yn talu'r gwahaniaeth rhwng y cyfradd uwch hwn a'r cyfradd a gontractiwyd allan is i ddarparwr eich pensiwn ar eich rhan. Paham y mae angen cymaint o wybodaeth arnoch ar y Ffurflen Diwedd Blwyddyn P14? Mae'n rhaid i'r cofnodion a gedwir gennym fod yn fanwl er mwyn sicrhau bod y taliadau cywir yn cael eu gwneud ar yr adeg iawn. Mae ein system gyfrifiadurol yn dal mwy na 65 miliwn o gofnodion YG unigol, a pho fwyaf o wybodaeth sydd gennym am bob cyflogai, llai o le sydd i wneud camgymeriad. Mae'r broses o dalu yn dibynnu ar gofnodion sy'n mynd 'nôl sawl blwyddyn. Mae'r system gyfrifiadurol yn adnabod y cynlluniau a'u haelodau trwy rifau ECON, SCON ac ASCN. Beth am gontractio allan o SERPS? Mae pedair ffordd y gallwch gontractio allan o SERPS. Gallwch ymuno â chynllun galwedigaethol y cyflogwr, os yw'n gynllun APP. Fel arfer, gweinyddir y cynlluniau APP gan gwmnïau yswiriant, banciau, cymdeithasau adeiladu neu gymdeithasau cyfeillgar. Dylech gysylltu â nhw yn uniongyrchol am gyngor, neu siarad ag ymgynghorydd ariannol annibynnol. A ydw i wedi contractio allan? Os nad ydych yn siw^r a ydych yn aelod o gynllun pensiwn a gontractiwyd allan neu beidio, cysylltwch â'ch cyflogwr neu weinyddydd y cynllun yn uniongyrchol. Os nad ydych yn siw^r o hyd, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Pensiynau ar 084591 50150. Pa oed y dylwn i fod er mwyn gwneud cais i ail-ymuno â SERPS? Gallwch ail-ymuno â SERPS ar unrhyw adeg, ond nid dyma fydd y dewis gorau i chi bob amser. Dylech geisio cyngor gan eich cyflogwr, gweinyddydd y cynllun neu ymgynghorydd ariannol annibynnol. A oes hawl gen i ail-ymuno â SERPS ar unrhyw adeg? Oes. Os oes APP gennych, dylech ofyn am ffurflen CA1543 gan eich cwmni yswiriant. A oes rhaid i mi gontractio allan o SERPS os yw fy nghyflogwr yn rhedeg cynllun COSR, COMP neu COMB? Nid oes rhaid i chi gontractio allan oni bai eich bod am wneud hynny. Sut y gallaf archebu copïau o'r tablau Cyfraniadau YG a Gontractiwyd Allan? Os oes angen copïau ychwanegol arnoch, ffoniwch 084591 50150. Clywais am Ad-daliadau ar Sail Oed. Beth ydyn nhw, ac i bwy y maen nhw'n berthnasol? Cyflwynwyd Ad-daliadau ar Sail Oed (ARR) i wneud contractio allan o SERPS yn fwy deniadol. Ers 6 Ebrill 1997, mae aelodau cynlluniau APP a COMP yn cael ad-daliad ar eu cyfraniadau YG, yn seiliedig ar oedran y cyflogai ar 5 Ebrill yn union cyn y flwyddyn dreth a gyfrifir. Mae'r ad-daliadau yn cynyddu o 2.2% i 9% ar gyfer aelodau cynllun COMP, ac o 3.8% i 9% ar gyfer aelodau APP. Mae lefel yr ad-daliad sy'n gymwys i gynlluniau COSR yn sefydledig ar 4.6%. Gellir cael mwy o wybodaeth yn y llyfrynnau canlynol, a gellir cael copïau o'r rhain gan Gwasanaethau YG i'r Diwydiant Pensiynau trwy ffonio'r Ganolfan Gyswllt ar 084591 50150. APPs - CA16 Beth yw cyfradd Cyfraniad YG Categori F? Cyflwynwyd y categori newydd hwn o Ebrill 1997, ac mae'n gymwys i aelodau o gynlluniau COMP neu elfen COMP cynlluniau COMB. Cyn y dyddiad hwn, roedd aelodau'r cynlluniau hyn yn talu Cyfraniadau YG Categori D. Beth yw Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru? Bydd Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru yn galluogi parau sy'n ysgaru i gael y dewis o rannu eu hasedion pensiwn fel rhan o'r cytundeb ysgaru cyffredinol. Am fwy o wybodaeth, gweler Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru. Beth yw'r dyddiad gweithredu ar gyfer Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru? Y dyddiad gweithredu ar gyfer Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru oedd 1 Rhagfyr 2000. Am fwy o wybodaeth, gweler Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru. Hawliau a ddiogelir yw hawliau aelod o gynllun, sy'n deillio o aelodaeth o Gynllun Pensiwn Galwedigaethol neu Gynllun Pensiwn Personol Priodol (APP) a gontractiwyd allan, sy'n cael eu trosglwyddo i'r cyn w^r neu'r gyn wraig o ganlyniad i orchymyn neu gytundeb rhannu pensiwn. Am fwy o wybodaeth, gweler Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru. Pa hawliau pensiwn y gellir eu rhannu? Gall rheolau'r cynllun bennu a yw'r holl hawliau cronedig sy'n amodol
ar gyfran pensiwn yn troi'n hawliau a ddiogelir, felly gall hawliau a
ddiogelir gynnwys rhai hawliau heb eu contractio allan. Am fwy o wybodaeth,
gweler Rhannu Pensiwn adeg Ysgaru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
| Hafan | ||||
