Faint o CYG sy'n rhaid i mi eu talu ar fy nghyflog? Cyfrifir swm y CYG sydd i'w dalu ar swm y tâl gros y mae cyflogai yn ei dderbyn. Mae'n rhaid i rywun dalu cyfraniadau Dosbarth 1 os yw'n weithiwr cyflogedig rhwng 16 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth, gydag enillion gros rhwng y Terfyn Enillion Isaf (LEL - sef y lefel pan fydd CYG Dosbarth 1 yn daladwy) a'r Terfyn Enillion Uchaf (UEL - sef uchafswm y CYG sy'n daladwy gan gyflogai). Nid oes unrhyw Derfyn Enillion Uchaf ar gyfer cyfran y cyflogwr o'r CYG sy'n ddyledus. Pa fudd-daliadau yr wyf yn eu cael wrth dalu CYG? Mae talu cyfraniadau Dosbarth 1 yn golygu bod hawl gennych i gael:
Mae 'amodau cymhwyso' gwahanol ar gyfer pob un o'r uchod, a rhaid eu bodloni cyn y gellir gwneud taliad. Gellir cael mwy o gyngor ar yr amodau cymhwyso gwahanol trwy gysylltu â'ch swyddfa Asiantaeth Budd-daliadau leol (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan arall). Beth sy'n digwydd os yr wyf yn sâl - a ydy fy nghyflogwr yn parhau i ddidynnu CYG ar yr un cyfradd? Os yw tâl gros y cyflogai, gan gynnwys unrhyw dâl statudol neu dâl salwch arall, yn uwch na'r LEL, rhaid talu CYG.
Os oes mwy nag un swydd gan rywun, mae'n rhaid i'r ddau gyflogwr ddidynnu cyfraniadau, ar yr amod bod y tâl gros yn uwch na'r Terfyn Enillion Isaf. Os yw cyfanswm cyfraniadau'r cyflogai sy'n daladwy yn y swyddi yn debygol o fod yn uwch na'r cyfraniad uchaf blynyddol sy'n daladwy, gellir cael tystysgrif gohirio. Os yr wyf wedi talu gormod o CYG, sut yr wyf yn hawlio ad-daliad? Gwnewch gais i'r: Grw^p Ad-daliadau Mae mwy o wybodaeth am y Grw^p
Ad-daliadau ar gael. |
|||||||||||||
| Hafan | ||||
