Gair i Gyflogwyr
Beth yw Gair i Gyflogwyr?
- Cyngor yn rhad ac am ddim ar gyflogres i gyflogwyr, asiantau a biwroau.
- Cyfle perffaith i chi gael clywed y newyddion diweddaraf ynglŷn â materion cyflogwyr a chyflogres trwy gyfrwng cyflwyniadau.
- Cyfle i siarad â’n harbenigwyr yn anffurfiol ac yn gyfrinachol o fewn arddangosfa eang.
- Fforwm i’n cynorthwyo i wella wrth gyfathrebu â chyflogwyr.
Mae'r rhain yn ddigwyddiadau hanner diwrnod, felly mewn un bore neu bnawn gallwch gael cyngor, cymorth a chefnogaeth ar gyfer eich holl ymholiadau cyflogres.
Ni chodir tâl am fod yn bresennol. Mae’r holl ddigwyddiadau yn cychwyn am 9.30am ar gyfer y sesiynau bore a 1.30 pm ar gyfer y sesiynau pnawn - amseroedd cyrraedd o 9.00am a 1.00pm.
Mae’r arddangosfa ar agor trwy’r amser o 9.00am hyd at 4.30pm ymhob lleoliad - gweler Chorley, Coleraine a Belfast am eithriadau.
Yn 2008 cadwodd tua 19,000 o gynrychiolwyr eu lle yn y digwyddiadau hyn. Dangoswyd bod 96 y cant yn teimlo ein bod wedi llwyddo i amlygu newidiadau technegol a gweithdrefnol yn ymwneud â’u cyflogres. Gweler isod esiamplau o ddyfyniadau a dderbyniwyd gennym.
“Digwyddiad gwych - pobl wybodus a chymwynasgar ar y stondinau arddangos.”
“Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan stondinau’r arddangosfa - cyngor cymwynasgar gan bobl a oedd yn hawdd mynd atynt. Roedd yr holl ddigwyddiad yn addysgiadol iawn - roedd y siaradwyr yn rhagorol wrth gyfleu gwybodaeth am y pwnc.”
Cadw eich lle
Defnyddiwch y cysylltiadau isod i gadw eich lle. Byddwn yn cyhoeddi mapiau a chyfarwyddiadau o fewn y cysylltiadau hyn cyn dyddiadau’r digwyddiadau.
6 Mai - Caerdydd
8 Gorffennaf - Tonbridge
8 Medi - Exeter
10 Medi - Newbury
24 Medi - Durham
7 Hydref - Nottingham
