Gair i Gyflogwyr

Beth yw Gair i Gyflogwyr?

Mae Gair i Gyflogwyr yn ddigwyddiad sy'n rhad ac am ddim lle fyddwch yn:

  • cyfarfod wyneb i wyneb â staff Cyllid a Thollau EM (CThEM) sydd â llawer o brofiad cyflogres
  • clywed y newyddion diweddaraf i gyd ynglŷn â materion cyflogwyr a chyflogres
  • cael y cyngor gorau ar sut i wneud delio â CThEM yn fwy hwylus

Does dim ots os ydych yn newydd i'r gyflogres neu os oes gennych flynyddoedd o brofiad, mae wastad rhywbeth i ddysgu.

Cynhelir y digwyddiadau hyn i'n cynorthwyo i wella'r ffyrdd yr ydym yn gwneud pethau ar eich cyfer chi hefyd, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni glywed o lygad y ffynnon am y materion sy'n eich effeithio.

Fe welwch ardal arddangos eang lle fydd ein harbenigwyr wrth law i ateb eich cwestiynau a rhoi cyngor cyfeillgar ar ystod o bynciau cyflogres.

Newydd ar gyfer 2010 - canolfan galw i mewn ar gyfer y cyflogwyr hynny sydd angen cymorth mwy trylwyr.

Ategir at yr arddangosfa gan gyflwyniadau sy'n rhydd o jargon ac sy'n darparu'r newyddion diweddaraf ar faterion cyflogwyr a chyflogres.

Fe'u cynhelir ar draws y wlad ac maent ond yn para hanner diwrnod, felly gallwch ddewis mynd i sesiwn bore neu brynhawn.

  • Sesiwn bore - croeso o 9.00, gyda chyflwyniad agoriadol am 9.30.
  • Sesiwn prynhawn - croeso o 13.00, gyda chyflwyniad agoriadol am 13.30.

Bydd yr arddangosfa ar agor drwy'r dydd o 9.00 i 16.30.

I gadw lle

Defnyddiwch y cysylltiadau isod i gadw eich lle. Byddwn yn cyhoeddi mapiau a chyfarwyddiadau o fewn y cysylltiadau hyn cyn dyddiadau'r digwyddiadau.

15 Mehefin - Abertawe (sylwer bu newid i'r dyddiad gwreiddiol oherwydd yr Etholiad Cyffredinol)