Cysylltu â’r Llinell Gymorth i Gyflogwyr Newydd Dros y Ffôn
Unwaith yr ydych wedi casglu'r wybodaeth berthnasol i’ch amgylchiadau fel cyflogwr, gallwch gofrestru drwy ffonio’r Llinell Gymorth Cyflogwyr Newydd.
Mae’n bwysig iawn bod yr holl wybodaeth berthnasol gennych cyn i chi ffonio neu efallai na all yr ymgynghorydd gwblhau eich cofrestriad.
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Cyflogwyr Newydd pryd bynnag yr ydych angen cymorth gydag unrhyw ran o weithredu’r gyflogres. Gall yr ymgynghorydd helpu lleddfu unrhyw bryderon sydd gennych ynglyn â bod yn gyflogwr.
Cysylltiadau Defnyddiol
Canolfan Gyswllt Gymraeg
Llinell Gymorth - 0845 302 1489
Llun - Gwener 8.30am - 5pm
Mae’r Ganolfan Gyswllt Gymraeg ar gyfer unrhyw faterion trethi uniongyrchol i’w trafod drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gweddill y rhifau ffôn isod yn uniaith Saesneg, felly'r Ganolfan Gyswllt fydd eich prif fan cyswllt.
Cyflogwyr Newydd
Llinell Gymorth - 0845 60 70 143
Llun - Gwener 8am - 8pm
Sadwrn - Sul 8am - 5pm
Ffôn testun - 0845 602 1380 (ar gyfer cyflogwyr sy’n fyddar neu’n
drwm eu clyw)
Llinell Archeb Cyflogwyr
Llinell Archeb - 0845 7 646 646
Llun - Gwener 8am - 8pm
Sadwrn - 10am - 1pm
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Llinell Gymorth - 0845 6000 678
Llun - Gwener 8am - 8pm
Llinell Archeb - 0845 845 0360
7 diwrnod yr wythnos 8am - 10pm
Uned Busnes Electroneg
Llinell Gymorth - 0845 60 55 999
Llun - Gwener 8am - 10pm
Sad - Sul 10am - 6pm
