Gall ein cyfleuster e-bost ond derbyn manylion am nifer penodol o gyfarwyddwyr,
partneriaid neu gyflogeion. Gallwch weld yr uchafsymiau yr ydym yn medru eu
derbyn wedi eu rhestru isod. Os ydych angen ein hysbysu o ragor o fanylion
na mae ein cyfleuster e-bost yn medru derbyn, yna ffoniwch y Ganolfan Gyswllt
Gymraeg ar 0845 302 1489.
Cynlluniau Didynnu Wedi ei Symleiddio – gall ein cyfleuster e-bost dderbyn
manylion uchafswm o 10 cyflogai.
Cwmnïau Cyfyngedig – gall ein cyfleuster e-bost dderbyn manylion uchafswm o 9 cyfarwyddwr.
Partneriaethau – gall ein cyfleuster e-bost dderbyn manylion uchafswm o 10 partner.
Mae yna ychydig fathau o gyflogwyr na all anfon eu manylion drwy ein cyfleuster e-bost na dros y ffôn. Bydd rhaid i’r cyflogwyr canlynol gofrestru fel cyflogwyr newydd mewn swyddfa leol Cyllid & Thollau EM gan eu bod angen sylw arbennig.
Mae hwn er mwyn cofnodi treth TWE ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar enillion a delir i gyflogeion cwmnïau mewn derbynyddiad, er enghraifft
Mae’r Derbynnydd yn gyfrifol am ddidynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o’r taliadau hyn a thalu'r didyniadau i Gyllid & Thollau EM.
Hyn yw pan mae cyflogwr yn breswyl mewn gwlad sydd ag erthygl alltraeth yn eu Cytuniad Trethiant Dwbl gyda’r DU. Er enghraifft: Cyflogeion yn gweithio ar osodiadau olew alltraeth.
Mae’r cyflogwr yn gweithredu system arbennig o ddidynnu treth DU gan ddefnyddio tablau treth wedi eu symleiddio a datgagniad Diwedd y Flwyddyn.
Os ydych yn credu fod hyn yn berthnasol i chi, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Gymraeg ar 0845 302 1489.
Dyma pan mae gweithdrefnau arferol TWE yn anaddas ac mae cyflogeion yn didynnu treth yn unig dros eu hunain ac yn gyfrifol am dalu'r dreth a didynnwyd i Gyllid & Thollau EM.
Er enghraifft:
Os ydych yn credu fod hyn yn berthnasol i chi ffoniwch eich swyddfa Cyllid & Thollau EM leol. Cewch hyd i’r rhif yn eich llyfr ffôn.
Dyma pryd mae gweithdrefnau arferol TWE yn anaddas ac mae cyflogeion yn didynnu treth a chyfran cyflogeion o gyfraniadau Yswiriant Gwladol dros eu hunain.
Er enghraifft:
Y cyflogai sy’n gyfrifol am dalu’r didyniadau i Gyllid & Thollau EM.
Os ydych yn credu fod hyn yn berthnasol i chi ffoniwch eich swyddfa Cyllid & Thollau EM leol. Cewch hyd i’r rhif yn eich llyfr ffôn.
Dyma pan mae ymddiriedolwyr o Gynllun Rhannu Elw yn gwneud taliad ar ran cyflogwr mewn perthynas â chyfandaliadau a roddir gan y cyflogwr hwnnw i’w gyflogeion, ac nid yw’r cyfranddalwyr derbyniol yn:
Mae angen i’r ymddiriedolwyr ddidynnu treth o’r taliadau hyn o dan TWE gan ddefnyddio cod BR.
Os ydych yn credu fod hyn yn berthnasol i chi ffoniwch eich swyddfa Cyllid & Thollau EM leol. Cewch hyd i’r rhif yn eich llyfr ffôn.
Dyma pan mae trydydd parti yn gyfrifol am dalu tâl salwch i gyflogeion
mwy nag un cyflogwr, er enghraifft, cwmni yswiriant.
Os ydych yn credu fod hyn yn berthnasol i chi ffoniwch eich swyddfa Cyllid
& Thollau EM leol. Cewch hyd i’r rhif yn eich llyfr ffôn.
Dyma pan mae darparwyr gwobrau cymhelliant wedi cytuno i drefniadau cyfrifo arbennig ar gyfer talu'r rhwymedigaeth treth cyfradd sylfaenol ar wobrau nad yw’n arian a wneir i gyflogeion eu hunain neu rai rhywun arall.
Mae hyn golygu fod y darparwr yn talu’r dreth cyfradd sylfaenol, yn hytrach na’r person sy’n derbyn y wobr.
Os ydych yn credu fod hyn yn berthnasol i chi ffoniwch yr Uned Gwobr Cymhellol Cyllid & Thollau EM ar rif ffôn 0161 261 3269 (neu’r Ganolfan Gyswllt Gymraeg ar 0845 302 1489).