Anfonwch Fanylion Cyflogwr Newydd Drwy E-bost

Cewch gofrestru hyd at bedair wythnos cyn eich diwrnod tâl cyntaf. Gallwch anfon eich manylion drwy e-bost oni bai eich bod yn un o’r ychydig rai o Gyflogwyr Newydd sydd angen trefniadau arbennig.

Mae’n bwysig iawn bod gennych yr holl wybodaeth berthnasol cyn cychwyn llenwi eich e-bost, gan na allwch gadw’r manylion unwaith yr ydych wedi cychwyn, a dychwelyd iddo rhywbryd eto.

Unwaith yr ydych wedi casglu eich manylion at eich gilydd bydd rhaid i chi ddewis yr opsiwn e-bost perthnasol o’r rhestr isod. Edrychwch ar y diffiniadau canlynol i’ch cynorthwyo i wneud y dewis cywir.

Cwmni Cyfyngedig

Cwmni cyfyngedig yw un sydd â’i gyfranddalwyr yn berchen arno, ond gydag atebolrwydd cyfyngedig am ddyledion y cwmni.

Partneriaeth

Mae partneriaeth yn cyfeirio at y berthynas rhwng dau neu fwy o bobl sy’n rhedeg ac yn berchen busnes ar y cyd, ac yn rhannu ei elw a’i golledion.

Cynlluniau Didyniadau Wedi ei Symleiddio

Defnyddir Cynllun Didynnu wedi ei Symleiddio ar gyfer cyflogwyr o gyflogeion personol neu ddomestig yng nghartref y cyflogwr. Mae hwn ond yn berthnasol i cyflogeion sydd â’u henillion yn disgyn o fewn rhai terfynau. Am ragor o wybodaeth gweler ffurflen P25 Nodiadau ynglyn â Chynlluniau Didyniadau Wedi Ei Symleiddio.

Hunan Fasnachwr

Busnes hunan fasnachwr yw un sydd ag un person yn berchen arno ac yn ei redeg.

Er enghraifft

  • Busnesau sydd wedi’u perchen a’u rhedeg gan un person
  • Contractwyr/isgontractwyr
  • Mudiad a redir gan bwyllgor megis Clwb Gweithwyr neu Gyngor Plwyf
  • Elusennau

Dewiswch o’r opsiynau e-bost canlynol:

Gan e-bostio o safle Cyllid & Thollau EM mae eich e-bost yn fwy diogel, ond ni fydd ein hymateb. Golyga hyn na fydd ein hymateb e-bost yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol. Os oes angen, anfonwn e-bost atoch i esbonio ein bod am ymateb yn llawn drwy lythyr neu dros y ffôn.