CYG Dosbarth 1
Terfyn Enillion Is (LEL)
Hwn yw’r isafswm lefel enillion y mae cyflogai ei angen er mwyn bod
yn gymwys am fuddiannau, megis Pensiwn Ymddeol a Lwfans Ceisio Gwaith. Os
yw enillion cyflogai yn cyrraedd neu’n uwch na’r lefel hon, ond
ddim yn fwy na’r Trothwy Enillion, ni fyddant yn talu CYG ond cânt
eu trin fel petai wedi eu talu wrth hawlio buddiant.
Am y rheswm hwn mae rhaid i chi gadw manylion o enillion y cyflogai sydd ar
neu’n uwch na’r LEL ar ffurflen P11 neu gofnod tebyg, a’u
hadrodd ar ddiwedd y flwyddyn ar ffurflen P14.
Ceir manylion llawn yn y llyfryn E12 (PDF 437K)
