Gwybodaeth
i gyflogwr
Croeso i'r dudalen lanio ar gyfer cyflogwyr
Newidiadau pwysig
Mae CThEM yn cwtogi ar yr wybodaeth y mae’n ei phostio at gyflogwyr,
gan ddarparu arweiniad ar-lein a rhaglenni y gellir eu lawrlwytho yn lle hynny.
Awgryma CThEM yn gryf eich bod yn cofrestru ar gyfer eu gwasanaeth hysbysu
cyflogwyr drwy e-bost, er mwyn iddynt fedru eich atgoffa pan ddaw’r
wybodaeth ddiweddaraf ar gael.
Cofrestru ar gyfer
e-bost hysbysu
Pecyn y Cyflogwr
2010-11 – Pecyn y Cyflogwr
2009-10
– Pecyn y Cyflogwr (agor ffenestr newydd)
Bwletin y Cyflogwr
Eich llwybr i'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gyflogres
Cofrestru fel CYFLOGWR NEWYDD
Mae'r cyfleuster hwn, sy'n galluogi cyflogwyr newydd - neu eu hasiantau -
i gofrestru eu manylion â ni, wedi cael ei wella. Gosodir cyfleusterau
e-bost strwythuredig mwy manwl o fewn cyfres fwy cyflawn o FAQs Cymraeg. Ein
bwriad yw cynorthwyo'r rheiny sy'n cofrestru i ddeall eu cyfrifoldebau, ac
i'w hysbysu ynghylch y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Mwy
o wybodaeth.
CYFLOGWYR SEFYDLEDIG
Gwelliannau i wefan CThEM a'r cyfleusterau e-bost strwythuredig
Pleser yw cyhoeddi ein bod yn raddol wella'r cyfleusterau ar-lein Cymraeg sy'n
galluogi cyflogwyr i hunanwasanaethu trwy gyfrwng nifer o Gwestiynau a Ofynnir
yn Aml (FAQs), ac i gyfathrebu â ni trwy gyfrwng e-bost strwythuredig
o'n gwefan.
Cyflogeion yn Dechrau/Gadael eich Cyflogaeth
Erbyn hyn, mae'n bosib i gyflogwyr sefydledig gysylltu â ni trwy gyfrwng
e-bost strwythuredig ynglyn â ffurflenni P45 a P46.
Anfon
e-bost atom ynglyn â ffurflen P45
Anfon
e-bost atom ynglyn â ffurflen P46
Dechrau/Gorffen y Flwyddyn Dreth
Mae hefyd yn bosib i gyflogwyr sefydledig gysylltu â ni trwy gyfrwng e-bost
strwythuredig ynglyn â Dechrau/Gorffen y Flwyddyn Dreth.
Anfon
e-bost atom ynglyn â Dechrau'r Flwyddyn Dreth
Anfon
e-bost atom ynglyn â Gorffen y Flwyddyn Dreth
Taliadau Statudol (SSP, SMP, SAP & SPP)
Yn ogystal, gall cyflogwyr sefydledig gysylltu â ni trwy gyfrwng e-bost
strwythuredig ynglyn â Thaliadau Statudol (Tâl Salwch, Tâl
Mamolaeth, Tâl Tadolaeth a Thâl Mabwysiadu).
Anfon
e-bost atom ynglyn â Thâl Salwch Statudol
Anfon
e-bost atom ynglyn â Thâl Mamolaeth Statudol
Anfon
e-bost atom ynglyn â Thâl Tadolaeth Statudol
Anfon
e-bost atom ynglyn â Thâl Mabwysiadu Statudol
GWASANAETHAU AR-LEIN
Talu Wrth Ennill Ar-lein
Cofiwch hefyd am ein gwasanaeth TWE Ar-lein, sydd eisoes yn galluogi cyflogwyr
- neu eu hasiantau - i gyflwyno ffurflenni 'yn-ystod-y-flwyddyn' (e.g. P45)
a 'diwedd-y-flwyddyn' (e.g. P14) trwy gyfrwng ein gwasanaeth rhyngrwyd diogel.
Treth Gorfforaeth Ar-lein
Yn ogystal, mae ein gwasanaeth Treth Gorfforaeth Ar-lein yn galluogi cwmnïau
- neu eu hasiantau - i gyflwyno ffurflenni CT600, tudalennau atodol, ac atodion,
yn ddiogel dros y we.
Hunanasesiad Ar-lein
Mae'r uchod yn ategu ein pecyn Hunanasesiad Ar-lein, sydd wedi'i hen sefydlu
erbyn hyn, ac sy'n galluogi unigolion, partneriaethau ac asiantau i gyflwyno
ffurflenni SA100/SA800, tudalennau atodol, ac atodion, yn ddiogel dros y we.
Mwy o wybodaeth am ein holl
wasanaethau ar-lein
CYFFREDINOL
Dilynwch y cysylltiad canlynol i gael gwybod mwy am Gair
i Gyflogwyr.