Buddiannau

‘Buddiant’ yw unrhyw beth a roddir neu a ddarperir i gyflogai nad yw’n dâl neu’n dreuliau.
Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • caniatáu i gyflogai ddefnyddio eich eiddo neu offer, er enghraifft car neu lety
  • rhoi ased, er enghraifft car neu deledu, i gyflogai, neu ei werthu i gyflogai am lai na’i werth
  • darparu gwasanaeth i gyflogai, er enghraifft yswiriant iechyd