Treth Gorfforaeth Ar-lein ar gyfer Cwmnïau

Croeso i wasanaeth Treth Gorfforaeth (CT) Ar-lein Cyllid a Thollau EM. Mae'r broses mewn dwy ran, sef Cofrestru/Ymrestru a Defnyddio'r Gwasanaeth.

Cofrestru/Ymrestru

Cyn i chi gychwyn, sicrhewch fod y ddwy elfen ganlynol wrth law:

  1. Cyfeirnod Treth Gorfforaeth
  2. Rhif Cofrestru Tŷ'r Cwmnïau (CRN)

Mae'r rhain i'w gweld ar ohebiaeth Treth Gorfforaeth fel arfer, ond cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Cymraeg* os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd iddynt.

  • Er mwyn cofrestru/ymrestru ar gyfer ein gwasanaeth Treth Gorfforaeth Ar-lein yn y Gymraeg, ewch i hafan gwasanaethau ar-lein CThEM a chliciwch ar y botwm cofrestru ar ochr dde'r dudalen.
  • Ar y dudalen Defnyddiwr Newydd, cliciwch ar 'Cymraeg' ger y brig. Yna, dilynwch y llwybr Sefydliad/Asiant fel bo'n briodol.
  • Ar ôl i chi gofrestru ac ymrestru, a chael cadarnhad o'ch Dynodydd Defnyddiwr, bydd angen i chi aros i dderbyn eich Cod Cychwyn trwy'r post. (Sylwer - gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod.)
  • Ar ôl derbyn eich Cod Cychwyn ewch nôl i hafan gwasanaethau ar-lein CThEM, nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr a'ch Cyfrinair ar ochr chwith y dudalen ac yna cliciwch ar y botwm mewngofnodi.
  • Ar y dudalen sy'n rhestru eich gwasanaethau CThEM, defnyddiwch y cysylltiad i gychwyn y gwasanaeth Treth Gorfforaeth ac yna nodwch eich Cod Cychwyn yn y blwch priodol. Yna, gallwch ddechrau defnyddio'r gwasanaeth er mwyn cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein.

Os oes Dynodydd Defnyddiwr a Chyfrinair dilys gennych eisoes (o flynyddoedd cynt) nid oes angen i chi fynd trwy'r broses o gofrestru/ymrestru eto, a gallwch fynd yn syth i ddefnyddio'r gwasanaeth cyfredol.

Defnyddio'r Gwasanaeth

Ar ôl i chi gofrestru/ymrestru, gallwch ddechrau defnyddio'r gwasanaeth Cymraeg. Dyma'r llwybr y dylech ei ddilyn:

  • Ar y dudalen 'Welcome to HMRC Online services', rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr a'ch Cyfrinair yn y blychau perthnasol, a chliciwch ar 'Login'. Neu, fel arall, gallwch ddefnyddio eich Tystysgrif Ddigidol os oes un gennych.
  • Ar y dudalen 'Your HMRC services', defnyddiwch y cysylltiad 'Corporation Tax (CT)'.
  • Ar y dudalen 'At a glance', defnyddiwch y cysylltiad 'File a return' o dan y pennawd 'File a return'.
  • Ar y dudalen 'File a return - Who can use the service', darllenwch y cyfarwyddiadau cyn clicio ar 'Next' os yn briodol.
  • Ar y dudalen 'File a return - Seclect an Accounting Period', dewiswch Gyfnod Cyfrifyddu cyn clicio ar 'Next'.
  • Ar y dudalen 'File a return - Accounting Period dates', gwiriwch y dyddiadau cyn clicio ar 'Next'.
  • Ar y dudalen 'File a return - download return for dd/mmm/bbbb - dd/mmm/bbbb', dewiswch yr opsiwn Cymraeg cyn clicio ar 'Download'.
  • Bydd hyn eich galluogi i ddadlwytho Ffurflen CT600 Gymraeg i'ch cyfrifiadur.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin er mwyn cwblhau a chyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.

Defnyddiwch y cysylltiad i gychwyn ar y llwybr.

Cymorth

*Am gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Cymraeg.

Manylion cyswllt y Ganolfan Gyswllt Cymraeg

Neu, cliciwch yma am gymorth trwy gyfrwng y Saesneg.

Pwysig! Peidiwch â defnyddio llafariaid acennog wrth deipio yn y ffurflenni ar-lein. Diolch.