Cyfalaf a Chynilion Cyllid y Wlad: Ffrydiau Busnes

Beth a digwyddodd?

Ym mis Ebrill 2001, disodlwyd nifer o swyddfeydd gweithredol gan 'ffrydiau busnes'. Y pedair swyddfa o dan sylw oedd y Swyddfa Trethi Cyfalaf (CTO), Swyddfa Canolwyr a Cheisiadau Ariannol (FICO), y Swyddfa Stamp (SO) a'r Swyddfa Cynlluniau Pensiwn (PSO). Cafodd gwaith y swyddfeydd hyn, y cyn Is-adran Cyfalaf a Chynilion a'r pum swyddfa ymddiriedolaeth - yng Nghaeredin, Llundain, Manceinion, Nottingham a Truro - eu dwyn ynghyd i greu un sefydliad newydd - Cyfalaf a Chynilion Cyllid y Wlad.

Paham yr ad-drefnu?

Roedd rhywfaint o waith gweithrediadol a thechnegol Cyllid y Wlad wedi'i ganoli mewn ychydig o swyddfeydd arbenigol, gyda'r gwaith polisi yn cael ei wneud yn ganolog. Roeddwn am drefnu eu gwaith mewn ffordd wahanol, gan ddod â meysydd gwaith cysylltiedig i feysydd busnes ar wahân er mwyn ein cynorthwyo i wella'r gwasanaeth a ddarperir. Erbyn hyn, mae gan bob maes busnes gyfrifoldeb am yr holl waith yn y maes hwnnw, o ddatblygu polisïau i gyflwyno'r gwasanaeth.

Y gyfundrefn

Mae Cyfalaf a Chynilion Cyllid y Wlad yn cynnwys sawl maes busnes gwahanol, sef:

HMRC Capital Taxes

This includes all the work previously done in Capital and Savings Division and Capital Taxes Office on IHT and CGT, including Share Valuation.

The Business Director is Jonathan Leigh Pemberton.

HMRC Stamp Taxes

Brings together the work on Stamp Duty and Stamp Duty Reserve Tax previously dealt within both the Stamp Office and Capital and Savings Division. From 1/12/03 Stamp Duty was modernised, introducing Stamp Duty Land Tax. It is led by Jim Ferguson and Melissa Tatton.

HMRC Savings, Pensions, Share Schemes

This business area is responsible for work on pensions, including personal pensions, savings products, employee share schemes and equity remuneration, and any continuing MIRAS issues. This includes all the work previously done on these topics in Capital and Savings Division, Financial Intermediaries and Claims Office and the Pension Schemes Office.

The Business Director is Caroline Rookes.

HMRC Trusts

IR Trusts brings together the operational work on trusts and administration periods previously carried out in the 5 Trust offices and FICO (Scotland), as well as the advisory and policy work previously carried out by Financial Intermediaries and Claims Office and Capital and Savings Division. The Business Director is Andrew Edwards.

Centre for Non - Residents

As well as reorganising Capital and Savings we set up a new Centre for Non-Residents, which is part of Inland Revenue International rather than Capital and Savings. This team is responsible for dealing with all the non-resident work previously handled in Financial Intermediaries and Claims Office.
The Business Director of the Centre is John Johnston.

 
Elusennau Cyllid y Wlad

Mae'n dwyn ynghyd y gwaith ar elusennau a wnaethpwyd yn flaenorol yn y Swyddfa Canolwyr a Cheisiadau Ariannol yn Bootle a Chaeredin, ac yn Is-adran Cyfalaf a Chynilion.
Y Cyfarwyddwr Busnes yw Mark Nellthorp.

Trethi Cyfalaf Cyllid y Wlad

Mae'n cynnwys yr holl waith a wnaethpwyd yn flaenorol yn Is-adran Cyfalaf a Chynilion, a'r Swyddfa Trethi Cyfalaf, ar Dreth Etifeddiant (IHT) a Threth Enillion Cyfalaf (CGT), gan gynnwys Prisio Cyfranddaliadau.
Y Cyfarwyddwr Busnes yw Jonathan Leigh Pemberton.

Trethi Stamp Cyllid y Wlad

Mae'n dwyn ynghyd y gwaith ar Stampdoll a Threth Wrth Gefn Stampdoll a wnaethpwyd yn flaenorol yn y Swyddfa Stamp ac yn Is-adran Cyfalaf a Chynilion.
Caiff ei arwain ar y cyd gan Craig Lester a Seb Beck.

Cynilion, Pensiynau a Chynlluniau Cyfranddaliadau Cyllid y Wlad

Mae'r maes busnes hwn yn gyfrifol am waith ar bensiynau, gan gynnwys pensiynau personol, cynhyrchion cynilion, cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion a thaliadau ecwiti, ac unrhyw faterion MIRAS sy'n parhau. Mae'n cynnwys yr holl waith a wnaethpwyd yn flaenorol ar y pynciau hyn yn Is-adran Cyfalaf a Chynilion, Swyddfa Canolwyr a Cheisiadau Ariannol, a'r Swyddfa Cynlluniau Pensiwn.
Y Gyfarwyddwraig Fusnes yw Caroline Rookes.

Ymddiriedolaethau Cyllid y Wlad

Mae Ymddiriedolaethau Cyllid y Wlad yn dwyn ynghyd y gwaith gweithrediadol ar ymddiriedolaethau a chyfnodau gweinyddu a wnaethpwyd yn flaenorol yn y 5 swyddfa Ymddiriedolaeth a FICO (Yr Alban), yn ogystal â'r gwaith ymgynghorol a pholisi a wnaethpwyd yn flaenorol yn y Swyddfa Canolwyr a Cheisiadau Ariannol, ac yn Is-adran Cyfalaf a Chynilion. Y Cyfarwyddwr Busnes yw Marie-Claire Uhart.

Canolfan Dibreswylwyr

Yn ogystal ag ad-drefnu Cyfalaf a Chynilion, rydym wedi sefydlu Canolfan Dibreswylwyr newydd, sy'n rhan o Gyllid y Wlad Rhyngwladol yn hytrach na Chyfalaf a Chynilion. Mae'r tîm hwn yn gyfrifol am ddelio â'r holl waith sy'n ymwneud â dibreswylwyr a wnaethpwyd yn flaenorol yn y Swyddfa Canolwyr a Cheisiadau Ariannol.
Cyfarwyddwr Busnes y Ganolfan newydd yw John Johnston.

Beth y mae hyn yn ei olygu i'n Cwsmeriaid?

Bwriad y newidiadau oedd gwella'r ffocws ar gwsmeriaid, a'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cwsmer gwell, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod hyn yn digwydd. Dylai cwsmeriaid barhau i anfon eu gohebiaeth, ceisiadau neu wneud ymholiadau i'r swyddfeydd y buont yn delio â hwy. Mae Cyfarwyddwyr Busnes yn ymgynghori â chwsmeriaid yngly^n â sut y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell.