Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith

Printable version

1. Trosolwg

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith ystod o wasanaethau recriwtio sy’n gallu eich helpu fel cyflogwr. Gallech gael:

Gallwch hefyd hysbysebu swydd gyda’r gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd’ (Paru Swyddi Ar-lein yn flaenorol).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

2. Cyngor a chymorth gyda recriwtio

Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr i gael cyngor am recriwtio ar gyfer eich busnes.

Bydd yn eich cysylltu ag Ymgynghorydd Cyflogwyr lleol a fydd yn gweithio gyda chi i lenwi swyddi gwag. Gall Ymgynghorwyr Cyflogwyr:

  • roi cyngor i’ch helpu i ysgrifennu disgrifiadau swydd
  • eich helpu i gyflymu eich proses recriwtio
  • hyrwyddo’ch swyddi gwag mewn canolfannau gwaith lleol
  • caniatáu i chi ddefnyddio swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith i gynnal cyfweliadau, lle mae swyddfa ar gael
  • eich gwahodd i ddigwyddiadau recriwtio lleol i hyrwyddo eich swyddi gwag
  • eich helpu i gysylltu â busnesau eraill yn eich ardal
  • gweithio gyda chi i gynllunio eich ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol
  • help i baru’r ymgeisydd cywir â’ch swyddi gwag, gan gynnwys sifftio ceisiadau a chyfweld ymgeiswyr ar eich rhan

Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr gan ddefnyddio’r ffurflen ymholiad ar-lein neu dros y ffôn.

Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr
Ffôn: 0800 169 0178
Ffôn testun: 0800 169 0172
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os byddwch yn e-bostio Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr, dylech gynnwys:

  • eich manylion cyswllt
  • enw eich busnes
  • y dref a’r cod post y mae eich busnes wedi’i leoli ynddi
  • y dref a’r cod post lle rydych yn recriwtio (os yw’n wahanol i leoliad eich busnes)
  • disgrifiad byr o’r cyngor recriwtio sydd ei angen arnoch

3. Treialon gwaith

Mae treial gwaith yn gyfnod byr mewn gwaith y gallwch ei gynnig i geisiwr gwaith ar fudd-daliadau. Mae’n ffordd i’r ddau ohonoch weld a yw’r swydd yn ffit dda.

Mae’n digwydd ar ôl i chi eu cyfweld am rôl benodol. Os nad ydynt yn addas ar ei gyfer, nid oes angen i chi ei gynnig iddynt.

Mae ceiswyr gwaith yn gwirfoddoli ar gyfer treial gwaith. Mae nhw’n dal i gael eu budd-daliadau tra mae nhw arno ac nid ydynt yn cael cyflog.

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i’r treial gwaith:

  • dim ond cael ei ddefnyddio fel ffordd i chi a’r darpar weithiwr benderfynu a ydyn nhw’n iawn ar gyfer y rôl
  • bod am swydd lle mai’r ceisiwr gwaith yw’r unig berson rydych yn ystyried ei gyflogi
  • bod am swydd sydd o leiaf 16 awr yr wythnos am o leiaf 13 wythnos

Mae angen i chi gytuno ar hyd y treial gwaith gyda’r ceisiwr gwaith cyn iddo ddechrau. Mae’n rhaid iddo:

  • gorffen pan fyddwch yn siŵr a yw’r ceisiwr gwaith yn addas ar gyfer y rôl
  • yn para dim mwy na 5 diwrnod os yw’r swydd am lai na 6 mis
  • yn para dim mwy na 30 diwrnod (ac oddeutu 5 diwrnod fel arfer) ar gyfer swyddi sy’n para 6 mis neu fwy

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gwirio bod y gweithiwr wedi gwirfoddoli ar gyfer y treial a’i fod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd.

Sut i gynnal treial gwaith

Mae angen i chi gytuno ar dreial gwaith gyda’r Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ei gynnig i geisiwr gwaith.

Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr am fwy o wybodaeth.

4. Profiad gwaith a phrentisiaethau

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith ar gael i:

  • pob person 18 i 24 oed
  • pobl 25 oed a throsodd sydd heb hanes gwaith diweddar

Os ydych yn cynnig profiad gwaith i berson ifanc byddwch yn helpu i roi gwell cyfle iddynt ddod o hyd i waith.

Darllenwch y canllaw ar brofiad gwaith i gyflogwyr i ddargafnod yr hyn a ddisgwylir gennych.

Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr os ydych angen help i sefydlu profiad gwaith.

Prentisiaethau

Trefnir y rhain drwy’r gwasanaeth Prentisiaethau ac yn aml maent yn dilyn cyfnod o brofiad gwaith. Maent yn cyfuno hyfforddiant ymarferol gydag astudiaeth.

Os ydych yn cymryd prentis ymlaen, gallwch gael arian i’w hyfforddi. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant prentisiaeth os ydych yn rhedeg busnes bychan neu ganolig.

Mae prentisiaethau’n wahanol yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Cynllun academi gwaith seiliedig ar sector

Mae cynllun academi gwaith seiliedig ar sector yn gynllun diweithdra Canolfan Byd Gwaith. Gall eich helpu i lenwi swyddi gwag yn fwy effeithlon gan ddarparu hyfforddiant, profiad gwaith a chyfweliad swydd wedi’i warantu