Cymhorthdal Incwm

Printable version

1. Trosolwg

Ni allwch wneud cais newydd am Gymorthdal Incwm mwyach. Os ydych ar incwm isel ac angen help i dalu’ch costau byw, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

2. Os ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm

Byddwch yn parhau i gael Cymhorthdal Incwm os yw pob un o’r canlynol yn dal yn berthnasol i chi (a’ch partner, os oes gennych un):

  • nid oes gennych incwm neu incwm isel, a dim mwy na £16,000 mewn cynilion
  • nid ydych mewn gwaith llawn amser â thâl (gallwch weithio llai nag 16 awr yr wythnos, a gall eich partner weithio llai na 24 awr yr wythnos)
  • rydych rhwng 16 oed ac oedran cymhwyso Credyd Pensiwn
  • rydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban - mae yna reolau gwahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon

Rhaid i chi hefyd fod yn o leiaf un o’r canlynol:

  • yn feichiog
  • rhiant unigol (gan gynnwys rhiant mabwysiadol unigol) gyda phlentyn sydd o dan 5 oed
  • rhiant maeth unigol gyda phlentyn sydd o dan 16 oed
  • person sengl sy’n gofalu am blentyn o dan 16 oed cyn iddo gael ei fabwysiadu
  • gofalwr
  • ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb rhiant
  • yn methu â gweithio ac rydych yn cael Tâl Salwch Statudol, Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol
  • mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed ac yn rhiant
  • mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed, a ddim yn byw gyda rhiant neu rywun sy’n gweithredu fel rhiant
  • ffoadur sy’n dysgu Saesneg - mae angen i’ch cwrs fod o leiaf 15 awr yr wythnos, ac mae’n rhaid eich bod wedi ei ddechrau o fewn 12 mis ar ôl dod i mewn i’r DU
  • yn y ddalfa neu i fod i fynychu’r llys neu tribiwnlys

Nid oes angen cyfeiriad parhaol arnoch - er enghraifft, gallwch ddal i wneud cais os ydych yn:

  • cysgu allan
  • byw mewn hostel neu gartref gofal

Mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall oni bai bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi.

Os yw’ch cais Cymorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn awtomatig yn parhau i gael swm y Cymorthdal Incwm rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd, cyn belled â’ch bod chi’n dal i fod gymwys. Fel rheol, byddwch chi’n cael hwn am bythefnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.

Nid oes angen i chi dalu’r arian hwn yn ôl, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

3. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau er mwyn i chi ddal i gael y swm cywir o Gymhorthdal Incwm.

Efallai y bydd eich hawliad yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.

Os ydych yn cael mwy nag un budd-dal, bydd angen i chi roi gwybod am eich newid i bob swyddfa budd-daliadau.

Efallai y cewch eich erlyn neu y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £50 os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, neu os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau ar unwaith.

Beth y mae angen i chi roi gwybod amdano

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob newid y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Newidiadau i fanylion personol

Rhaid i chi roi gwybod os:

  • ydych yn newid manylion eich cyfrif banc
  • rydych yn newid eich rhif ffôn
  • mae unrhyw un yn dechrau neu’n stopio byw gyda chi
  • mae eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw yn marw
  • rydych chi neu rywun sydd wedi’u cynnwys ar eich cais yn newid eu statws mewnfudo
  • rydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn gadael Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) am unrhyw gyfnod o amser

Mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych chi, eich partner, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn:

  • newid enw
  • newid cyfeiriad
  • priodi neu ffurfio partneriaeth sifil
  • ysgaru neu’n dod â phartneriaeth sifil i ben
  • cael babi neu’n beichiogi
  • mynd i garchar neu ddalfa gyfreithiol

Newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd

Mae angen i chi roi gwybod os ydych chi neu rywun sydd wedi’u cynnwys ar eich cais:

  • ag unrhyw newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd
  • yn mynd i ysbyty, cartref gofal neu lety gwarchod
  • yn dechrau neu’n stopio gofalu am rywun

Dylech hefyd roi gwybod os bydd unrhyw un yn dechrau neu’n stopio cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth Gofalwr neu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer gofalu amdanoch.

Newidiadau i waith ac addysg

Rhowch wybod os ydych chi, eich partner, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn:

  • dechrau neu stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • dod o hyd i swydd neu’n ei gorffen, neu’n dechrau gweithio oriau gwahanol
  • rhan o anghydfod masnach, neu’n methu gweithio oherwydd anghydfod masnach (er enghraifft, os oes streic)

Newidiadau i incwm a budd-daliadau

Mae angen i chi roi gwybod os bydd incwm eich cartref yn cynyddu neu’n gostwng. Rhowch wybod os ydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi:

  • yn cael newid i enillion
  • yn cael ôl-daliad (a elwir weithiau yn ‘ôl-ddyledion’) ar gyfer enillion o’r gwaith
  • yn cael swm gwahanol o fudd-dal
  • yn cael newid i swm y pensiwn maent yn ei gael
  • yn cael newid i swm unrhyw arian arall sy’n dod i mewn (er enghraifft benthyciadau neu grantiau myfyrwyr, tâl salwch neu arian gan elusen)

Newidiadau i gynilion neu asedau

Mae angen i chi roi gywbod os yw cyfanswm y cynilion ac asedau yn eich cartref yn fwy na £6,000. Rhowch wybod os ydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi:

  • wedi newid faint o gynilion neu fuddsoddiadau y maent yn berchen arnynt
  • yn dod yn berchennog unrhyw dir, adeiladau neu eiddo
  • yn gwerthu unrhyw dir, adeiladau neu eiddo
  • yn cael taliad untro fel etifeddiaeth neu gyfandaliad

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:

  • ffonio llinell gymorth y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer hawliadau budd-dal presennol
  • ysgrifennu at swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith sy’n talu eich Cymhorthdal Incwm - mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich Cymhorthdal Incwm

Os yw eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw wedi marw, gallwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau eraill y llywodraeth ar yr un pryd gan ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith

Canolfan Byd Gwaith – hawliadau budd-dal presennol Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych wedi cael eich gordalu

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, efallai y cewch eich gordalu. Os ydych, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl..

4. Cyfraddau Cymhorthdal Incwm

Ni allwch wneud cais newydd am Gymorth Incwm mwyach. Os ydych chi ar incwm isel ac angen help i dalu’ch costau, gallwch wneud cais am Credyd Cynhwysol yn lle.

Mae Cymhorthdal Incwm yn cynnwys:

  • taliad sylfaenol (lwfans personol)
  • taliadau ychwanegol (premiymau)

Gall eich incwm ac unrhyw gynilion (dros £5,999) effeithio ar faint rydych chi’n ei gael.

Lwfans personol

Eich sefyllfa Taliad wythnosol
Sengl - 16 i 24 oed £71.70
Sengl - 25 oed neu’n hŷn £90.50
Rhiant unig - 16 i 17 oed £71.70
Rhiant sengl - 18 oed neu’n hŷn £90.50
Cyplau – o dan 18 oed £71.70
Cyplau - y ddau o dan 18 oed yn cael ‘cyfradd uwch’ £108.30
Cyplau – un o dan 18 oed, a’r llall 18 i 24 oed £71.70
Cyplau – un o dan 18 oed, y llall 25 oed neu drosodd £90.50
Cyplau – un o dan 18 oed, un dros gael ‘cyfradd uwch’ £142.25
Cyplau - y ddau yn 18 oed neu’n hŷn £142.25

Cyfradd uwch

Mae’r gyfradd uwch yn berthnasol os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn gyfrifol am blentyn, neu pe bai pob un ohonoch yn gymwys i gael un o’r canlynol pe na baech yn gwpl:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Premiymau

Mae ‘premiwm’ Cymohrthdal Incwm yn arian ychwanegol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft:

  • mae eich partner yn bensiynwr
  • rydych yn anabl neu’n ofalwr

Y cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r mwyafrif o bobl 16 oed neu drosodd nad ydyn nhw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond gallai effeithio ar gyfanswm y budd-daliadau a gewch.

Sut rydych yn cael eich talu

Gwneir taliadau fel arfer bob pythefnos.

Mae’r holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.