Amcangyfrif eich bil Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig
Defnyddiwch y cyfrifiannell treth hunangyflogedig i amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
I gael syniad faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 y byddwch yn eu talu, nodwch swm amcangyfrifedig eich elw misol neu wythnosol.
Bydd yr amcangyfrif a gewch yn cael ei gyfrifo fel petaech yn cael y Lwfans Personol safonol.
Ni fydd yn ystyried:
- unrhyw daliadau a wnaed ar gyfer biliau treth blaenorol - a elwir yn daliadau ar gyfrif
- unrhyw incwm trethadwy arall yr ydych yn ei gael sydd ddim o hunangyflogaeth (megis incwm o eiddo)
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).