Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Printable version

1. Hawl

Gallai cyflogeion fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol os yw un o’r canlynol yn wir am y cyflogai a’i bartner:

  • maent yn cael babi
  • maent yn mabwysiadu plentyn
  • maent yn cael babi drwy drefniant mam fenthyg

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Absenoldeb Tadolaeth Statudol

Os yw dyddiad disgwyl y babi ar neu cyn 6 Ebrill 2024, neu cyn 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu

Gall cyflogeion ddewis cymryd naill ai 1 wythnos neu 2 wythnos olynol o absenoldeb. Mae hyd yr absenoldeb yr un peth, hyd yn oed os ydynt yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).

Ni all yr absenoldeb ddechrau cyn yr enedigaeth. Mae’n rhaid i’r dyddiad dechrau fod yn un o’r canlynol:

  • y dyddiad geni gwirioneddol
  • nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth
  • nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth

Mae’n rhaid i’r absenoldeb orffen cyn pen 56 diwrnod i’r enedigaeth (neu’r dyddiad disgwyl, os daw’r babi’n gynnar).

Mae’r dyddiad dechrau a’r dyddiad dod i ben yn wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.

Os yw dyddiad disgwyl y babi ar ôl 6 Ebrill 2024, neu ar neu ar ôl 6 Ebrill ar gyfer mabwysiadu

Gall cyflogeion ddewis cymryd naill ai 1 neu 2 wythnos o absenoldeb. Os yw’r cyflogai yn cymryd 2 wythnos, gall eu cymryd naill ai’n olynol neu ar wahân. Mae hyd yr absenoldeb yr un peth, hyd yn oed os ydynt yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).

Ni all yr absenoldeb ddechrau cyn yr enedigaeth. Mae’n rhaid i’r dyddiad dechrau fod yn un o’r canlynol:

  • y dyddiad geni gwirioneddol
  • nifer benodedig o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth 
  • dyddiad penodol sydd ar ôl y dyddiad geni

Mae’n rhaid i’r absenoldeb orffen cyn pen 52 wythnos i’r enedigaeth (neu’r dyddiad disgwyl, os daw’r babi’n gynnar).

Mae’r dyddiad dechrau a’r dyddiad dod i ben yn wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.

Mae rheolau gwahanol ar waith os ydych yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

Tâl Tadolaeth Statudol

Mae Tâl Tadolaeth Statudol ar gyfer cyflogeion cymwys naill ai’n £184.03 yr wythnos neu’n 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf). Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Cyfrifwch absenoldeb a thâl tadolaeth cyflogai drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer cyfnodau mamolaeth a thadolaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg).

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gall cyflogeion gael mwy o absenoldeb neu dâl os yw un o’r canlynol yn wir:

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau o ran absenoldeb a thâl tadolaeth yn glir ac yn hygyrch i staff.

Adennill taliadau

Hyd yn oed os ydych yn talu cyflogai mwy na’r swm statudol, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 103% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.

Absenoldeb ar gyfer apwyntiadau cynenedigol

Gall cyflogeion gymryd absenoldeb di-dâl er mwyn mynd gyda menyw feichiog i apwyntiadau cynenedigol os:

  • yw’n dad i’r babi
  • yw’n briod neu’n bartner sifil i’r fam sy’n disgwyl
  • ydyw mewn perthynas hirdymor â’r fam sy’n disgwyl
  • mai’r rhiant bwriadedig ydyw (os yw’n cael babi drwy drefniant mam fenthyg)

Gall y cyflogai fynd gyda’r fenyw i 2 apwyntiad o hyd at 6 awr a hanner yr un.

Os bydd y babi’n marw

Mae cyflogeion yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl tadolaeth o hyd, os yw’r babi naill ai:

  • yn farw-anedig o 24ain wythnos y beichiogrwydd ymlaen
  • yn cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd ond yn marw yn nes ymlaen

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau cyflogaeth y cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (fel yr hawl i dâl, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb tadolaeth. Rydych yn dal i orfod talu Tâl Tadolaeth Statudol hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.

2. Cymhwystra

Mae’n rhaid mai un o’r canlynol yw’r cyflogeion:

  • tad y plentyn
  • gŵr neu bartner y fam (neu’r mabwysiadwr)
  • mabwysiadwr y plentyn
  • rhiant bwriadedig y plentyn (os yw’n cael babi drwy drefniant mam fenthyg)

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y cyflogai hefyd:

  • mae’n cael ei ystyried yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (absenoldeb tadolaeth yn unig)
  • mae’n cael ei gyflogi gennych hyd at ddyddiad geni’r plentyn (neu ddyddiad lleoli’r plentyn gyda’r mabwysiadwr) (tâl tadolaeth yn unig)
  • mae ar eich cyflogres ac mae’n ennill o leiaf £123 yr wythnos (gros) mewn ‘cyfnod perthnasol’ o 8 wythnos (tâl tadolaeth yn unig)
  • mae’n rhoi’r rhybudd cywir i chi
  • mae’n cymryd amser i ffwrdd er mwyn gofalu am y plentyn neu am ei bartner
  • mae’n gyfrifol am fagwraeth y plentyn
  • mae wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr ‘wythnos gymhwysol’

Yr wythnos gymhwysol yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni. Mae hyn yn wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.

Defnyddiwch y gyfrifiannell ar gyfer tâl tadolaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwirio a yw cyflogai’n gymwys a chyfrifo’i gyfnod perthnasol, ei gyfnod rhybudd a’i dâl tadolaeth.

Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl.

Os caiff y plentyn ei eni’n gynnar

Os caiff y plentyn ei eni’n gynnar, mae’r cyflogai’n gymwys o hyd pe bai wedi gweithio i chi’n barhaus am o leiaf 26 wythnos erbyn yr wythnos gymhwysol.

Ar gyfer genedigaethau cynnar iawn, bydd angen i chi cyfrifo SMP gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os yw’n cynnwys y nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw (yn agor tudalen Saesneg). Genedigaeth gynnar iawn yw pan fo’r plentyn yn cael ei eni 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl.

Cyflogeion sy’n rhan o drefniant mam fenthyg

Efallai y bydd rhieni sy’n bwriadu cael plentyn drwy drefniant mam fenthyg yn gymwys ar gyfer Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol.

Os byddwch yn gofyn, bydd yn rhaid i’r cyflogai roi datganiad ysgrifenedig i chi sy’n cadarnhau ei fod wedi gwneud cais, neu’n bwriadu gwneud cais, am orchymyn rhiant (yn agor tudalen Saesneg) yn y 6 mis ar ôl genedigaeth y babi.

3. Cyfnod rhybudd

Mae’r cyfnodau rhybudd a’r ffurflenni’n wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.

Absenoldeb Tadolaeth Statudol

Ar gyfer babis a ddisgwylir ar neu cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod i chi am y canlynol o leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir y babi:

  • y dyddiad disgwyl
  • pryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb
  • faint o absenoldeb mae am ei gael

Ar gyfer babis a ddisgwylir ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod i chi am y diwrnod disgwyl o leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir y babi. Mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych pryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb, a faint o absenoldeb y maent ei eisiau, o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw.

Nid oes rhaid i rybudd fod yn ysgrifenedig oni bai eich bod y gofyn am hynny.

Gall cyflogeion ofyn am absenoldeb a thâl yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Mae hwn yn disodli ffurflen SC3. Bydd angen i gyflogeion lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen ar ôl ei chwblhau a rhoi copi i chi.

Tâl Tadolaeth Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion hawlio tâl tadolaeth o leiaf 15 wythnos cyn wythnos ddisgwyl y babi.

Nid oes rhaid i rybudd fod yn ysgrifenedig oni bai eich bod y gofyn am hynny.

Gall cyflogeion ofyn am absenoldeb a thâl yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Bydd angen i gyflogeion lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen ar ôl ei chwblhau a rhoi copi i chi.

Gall cyflogeion sy’n cael babi drwy drefniant mam fenthyg ddefnyddio ffurflen SC4 er mwyn gofyn am absenoldeb a thâl.

Rhybudd hwyr

Gallwch oedi dyddiad dechrau’r absenoldeb neu’r tâl os nad oes gan y cyflogai esgus rhesymol dros beidio â rhoi rhybudd digonol i chi. Er mwyn oedi’r dyddiad, ysgrifennwch ato cyn pen 28 diwrnod o’i gais am absenoldeb.

4. Mabwysiadu

Mae gan gyflogeion cymwys hawl i absenoldeb a thâl tadolaeth os ydynt yn mabwysiadu plentyn.

Cyfrifwch absenoldeb a thâl tadolaeth cyflogai drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer cyfnodau mamolaeth a thadolaeth (yn Saesneg). Ar gyfer mabwysiadau tramor, bydd angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os yw’n cynnwys y nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw (yn agor tudalen Saesneg).

Cymhwystra

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am gyflogai sy’n mabwysiadu plentyn:

  • mae wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos y cafodd ei baru â phlentyn (mabwysiadau yn y DU)
  • mae wedi’i gyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos erbyn naill ai’r diwrnod y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU neu’r diwrnod y mae’n dymuno i’w dâl ddechrau (mabwysiadau tramor)
  • mae’n cadarnhau bod ei bartner yn cael Tâl Mabwysiadu Statudol naill ai ar bapur neu drwy roi copi i chi o ffurflen SC6 ei bartner
  • mae’n bodloni’r amodau cymhwystra eraill ar gyfer absenoldeb neu dâl tadolaeth

Cyfnod rhybudd

Mae’n rhaid i gyflogai sy’n mabwysiadu plentyn anfon ffurflen SC4 atoch ar gyfer:

  • absenoldeb – cyn pen 7 diwrnod, fan bellaf, i’r dyddiad y mae ei gyd-fabwysiadwr neu bartner yn cael ei baru â phlentyn
  • tâl – 28 diwrnod cyn y dyddiad y mae’n dymuno i’w dâl ddechrau

Ar gyfer mabwysiadau tramor, mae’r ffurflen a’r cyfnod rhybudd yn wahanol. Mae’r broses yn cael ei hesbonio ar ffurflen SC5.

Dyddiad dechrau’r absenoldeb

Mae cyflogai sy’n cymryd absenoldeb tadolaeth oherwydd ei fod yn mabwysiadu yn gallu dechrau ei absenoldeb:

  • ar y dyddiad lleoli
  • nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad lleoli
  • ar y dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU, neu nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl hyn (mabwysiadau tramor)

Ar gyfer mabwysiadau tramor, mae’n rhaid cymryd absenoldeb cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU.

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i gyflogeion roi tystiolaeth o fabwysiadu i chi er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tâl tadolaeth. Does dim angen tystiolaeth ar gyfer absenoldeb tadolaeth oni bai eich bod yn gofyn am hyn. Gall tystiolaeth fod yn llythyr gan yr asiantaeth fabwysiadu neu’n dystysgrif baru.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth.

5. Ffurflen gwrthod tâl SPP1

Gallwch wrthod Tâl Tadolaeth Statudol os nad yw’r cyflogai’n gymwys. Er mwyn gwneud hyn, anfonwch ffurflen SPP1 (yn agor tudalen Saesneg) ato cyn pen 28 diwrnod i’w gais am dâl. Mae’n rhaid i chi gadw copi.

Gall y cyflogai ofyn i chi am ddatganiad ysgrifenedig sy’n esbonio’ch penderfyniad. Mae’n rhaid i chi roi hwn iddo o fewn cyfnod rhesymol, er enghraifft 7 diwrnod gwaith.

6. Cadw Cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys:

  • dyddiad dechrau’r Tâl Tadolaeth Statudol
  • y taliadau tadolaeth rydych wedi’u gwneud (gan gynnwys dyddiadau)
  • y taliadau rydych wedi’u hadennill
  • unrhyw wythnosau na wnaethoch dalu a pham
  • os yw’n mabwysiadu, llythyr gan yr asiantaeth fabwysiadu neu dystysgrif baru

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi, (er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SPP2 (yn agor tudalen Saesneg) neu drwy gadw’ch cofnodion eich hun).

7. Help gyda thâl statudol

I gael cymorth ariannol gyda thâl statudol, gallwch wneud y canlynol:

  • adennill taliadau (fel arfer 92%)
  • gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau