Tâl ac Absenoldeb Mamolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Printable version

1. Hawl

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Gall cyflogeion cymwys gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth. Gelwir y 26 wythnos gyntaf yn ‘Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin’, a’r 26 wythnos olaf yn ‘Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol’.

Y cynharaf y gellir cymryd absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r plentyn gael ei eni, oni bai ei fod yn cael ei eni’n gynnar.

Mae’n rhaid i gyflogeion gymryd o leiaf 2 wythnos ar ôl yr enedigaeth (neu 4 wythnos os ydynt yn gweithio mewn ffatri).

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Gellir talu Tâl Mamolaeth Statudol ar gyfer cyflogeion cymwys am hyd at 39 wythnos, fel arfer fel a ganlyn:

  • y 6 wythnos gyntaf: 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog cyn treth

  • y 33 wythnos sy’n weddill: £184.03 neu 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog (AWE) (pa un bynnag sydd isaf)

Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Tâl Mamolaeth Statudol (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo absenoldeb a thâl mamolaeth cyflogai.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg).

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun mamolaeth cwmni. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau o ran absenoldeb a thâl mamolaeth yn glir ac ar gael i staff.

Adennill taliadau

Hyd yn oed os ydych yn talu mwy na’r swm statudol i gyflogai, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 103% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.

Os yw’r baban yn cael ei eni’n gynnar

Mae absenoldeb yn dechrau’r diwrnod ar ôl yr enedigaeth, os yw’r baban yn cael ei eni’n gynnar.

Mae’n rhaid i’r cyflogai roi tystysgrif geni’r plentyn i chi neu ddogfen wedi’i llofnodi gan feddyg neu fydwraig sy’n cadarnhau’r union ddyddiad geni.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogai er mwyn cadarnhau’r dyddiad newydd y bydd ei habsenoldeb yn dod i ben.

Ar gyfer genedigaethau cynnar iawn, bydd angen i chi cyfrifo SMP gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os yw’n cynnwys y nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw (yn agor tudalen Saesneg). Genedigaeth gynnar iawn yw pan fo’r plentyn yn cael ei eni 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl.

Os bydd y baban yn marw

Mae cyflogeion yn dal i fod yn gymwys i gael absenoldeb neu dâl os yw’r baban:

  • yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd

  • yn marw ar ôl cael ei eni

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) y cyflogai (fel yr hawl i gyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb mamolaeth.

Mae’n dal yn rhaid i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol, hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.

2. Cymhwystra a thystiolaeth o feichiogrwydd

Ni fydd rhai cyflogeion yn gymwys am absenoldeb a thâl.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion fodloni’r canlynol:

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Mae’n rhaid i gyflogeion fodloni’r canlynol:

  • maent ar eich cyflogres yn yr ‘wythnos gymhwysol’ – y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r baban gael ei eni
  • maent yn rhoi’r rhybudd cywir i chi
  • maent yn rhoi tystiolaeth i chi eu bod yn feichiog
  • maent wedi’u cyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos gymhwlsol
  • maent yn ennill o leiaf £123 yr wythnos (gros) dros ‘gyfnod perthnasol’ o 8 wythnos

Defnyddiwch y gyfrifiannell tâl mamolaeth (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cymhwystra cyflogai ac i gyfrifo’i chyfnod perthnasol, ei chyfnod rhybudd a’i thâl mamolaeth statudol.

Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer rhai amgylchiadau (er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl, neu os yw’r baban yn cael ei eni cyn yr wythnos gymwysol).

Tystiolaeth o feichiogrwydd

Mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth o feichiogrwydd cyn i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol. Fel rheol, llythyr gan y meddyg neu dystysgrif mamolaeth (a elwir yn dystysgrif MATB1) yw hyn. Mae bydwragedd a meddygon fel arfer yn anfon y rhain 20 wythnos cyn y dyddiad disgwyl.

Dylai’r cyflogai roi tystiolaeth i chi cyn pen 21 diwrnod o ddyddiad dechrau’r Tâl Mamolaeth Statudol. Gallwch gytuno i’w derbyn yn nes ymlaen os ydych eisiau gwneud hynny. Nid oes rhaid i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol os nad ydych wedi cael tystiolaeth o’r dyddiad disgwyl 13 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r Tâl Mamolaeth Statudol.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth o feichiogrwydd.

Efallai y bydd cyflogeion nad oes ganddynt hawl i Dâl Mamolaeth Statudol yn gallu cael Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.

3. Cyfnod Rhybudd

Nid oes rhaid i rybudd fod yn ysgrifenedig oni bai’ch bod yn gofyn amdano.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

O leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir i’r baban ddod, mae’n rhaid i’ch cyflogeion ddweud wrthych y dyddiad:

  • y disgwylir i’r baban gael ei eni
  • y maent am ddechrau eu habsenoldeb mamolaeth – gallant newid hyn gyda 28 diwrnod o rybudd

Wedyn, mae’n rhaid i chi gadarnhau eu dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben yr absenoldeb yn ysgrifenedig cyn pen 28 diwrnod.

Gall cyflogeion newid eu dyddiad dychwelyd i’r gwaith os ydynt yn rhoi 8 wythnos o rybudd.

Ni allwch wrthod absenoldeb mamolaeth na newid faint o absenoldeb y mae’ch cyflogeion am ei gymryd.

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Mae’n rhaid i’ch cyflogai roi 28 diwrnod o rybudd i chi o’r dyddiad y mae am ddechrau ei Thâl Mamolaeth Statudol. Mae hyn, fel arfer, yr un dyddiad y mae am ddechrau ei habsenoldeb.

Gallwch wrthod talu Tâl Mamolaeth Statudol os na fydd eich cyflogai’n rhoi’r rhybudd hwn i chi ac nad yw’n rhoi esgus rhesymol i chi.

4. Ffurlflen Gwrthod tâl SMP1

Gallwch wrthod Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) os nad yw’r cyflogai’n gymwys. Efallai y bydd modd iddi gael Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.

I wrthod ei dalu, rhowch ffurflen SMP1 i’ch cyflogai cyn pen 7 diwrnod ar ôl dod i benderfyniad. Mae’n rhaid iddi gael y ffurflen hon cyn pen 28 diwrnod ar ôl ei chais am Dâl Mamolaeth Statudol neu’r enedigaeth (pa un bynnag sydd gynharaf).

5. Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys:

  • tystiolaeth o feichiogrwydd – fel arfer nodyn gan feddyg neu dystysgrif MATB1 (mae llungopi’n iawn)
  • y dyddiad y dechreuodd Tâl Mamolaeth Statudol
  • eich taliadau Tâl Mamolaeth Statudol (gan gynnwys dyddiadau)
  • y Tâl Mamolaeth Statudol rydych wedi’i adennill
  • unrhyw wythnosau na wnaethoch dalu a pham

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi, er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SMP2 (yn agor tudalen Saesneg) neu drwy gadw’ch cofnodion eich hun.

6. Help gyda thâl statudol

I gael cymorth ariannol gyda thâl statudol, gallwch:

  • adennill taliadau (fel arfer 92%)
  • gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau