Budd-dal tai

Printable version

1. Cymhwyster

Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu’ch rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau. Mae’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Dim ond os yw’r naill neu’r llall o’r rhain yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:

Rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn sengl gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda’ch partner

Gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dechrau hawlio Credyd Pensiwn (i chi fel cwpl) cyn 15 Mai 2019
  • rydych mewn tai â chymorth, cysgodol neu dros dro

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych gais sy’n bodoli eisoes

Ni fydd eich cais presennol yn cael ei effeithio os oeddech, cyn 15 Mai 2019:

  • yn cael Budd-dal Tai
  • wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Does dim ots os yw’ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid a bod eich Budd-dal Tai yn cael ei stopio, ni allwch ddechrau ei gael eto oni bai eich bod chi a’ch partner yn gymwys i wneud cais newydd.

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os nad ydych yn gymwys.

Os ydych mewn tai â chymorth, cysgodol neu dros dro

Gallwch wneud cais newydd os:

  • rydych yn byw mewn llety dros dro, fel Gwely a Brecwast a drefnir gan eich cyngor
  • rydych yn byw mewn lloches i oroeswyr cam-drin domestig
  • rydych yn byw mewn tai cysgodol neu gefnogol (fel hostel) sy’n darparu ‘gofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth’ i chi

Os na chewch ‘ofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth’ trwy’ch tai â chymorth neu gysgodol, gallwch wneud cais am Credyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai.

Os ydych chi mewn tai â chymorth, cysgodol neu dros dro, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau byw eraill.

Pryd efallai na fyddwch yn gallu hawlio

Fel arfer, ni fyddwch yn cael Budd-dal Tai os:

  • mae eich cynilion dros £16,000 - oni bai eich bod yn cael Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
  • rydych yn talu morgais ar eich cartref eich hun - efallai y gallwch chi gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
  • rydych yn byw yng nghartref perthynas agos
  • rydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol (oni bai eich bod mewn tai dros dro neu â chymorth)
  • rydych yn byw gyda’ch partner ac maent eisoes yn hawlio Budd-dal Tai
  • rydych yn fyfyriwr llawn amser
  • rydych yn byw yn y DU fel ceisiwr gwaith Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • rydych yn geisiwr lloches neu wedi’ch noddi i fod yn y DU
  • rydych yn destun rheolaeth mewnfudo ac mae eich hawl i aros yn nodi na allwch hawlio arian cyhoeddus
  • rydych yn Denant y Goron
  • rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond nid yw’ch partner sy’n byw gyda chi wedi gwneud hynny - oni bai bod gennych gais presennol fel cwpl cyn 15 Mai 2019

Efallai y gallwch gael cymorth arall gyda chostau tai.

Os na, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio a allwch gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais

2. Beth fyddwch yn ei gael

Efallai y cewch help gyda’ch rhent cyfan neu ran ohono. Nid oes unrhyw swm penodol o Fudd-dal Tai a bydd yr hyn a gewch yn dibynnu a ydych chi’n rhentu’n breifat neu gan gyngor.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan yr hyn y gallech ei gael neu i wirio pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

Rhent cyngor a thai cymdeithasol

Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:

  • eich rhent ‘cymwys’
  • os oes gennych ystafell sbâr
  • incwm eich cartref - gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
  • eich amgylchiadau, er enghraifft oedran pobl yn y tŷ neu os oes gan rywun anabledd

Rhent cymwys

Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch cais am Fudd-dal Tai. Eich rhent go iawn ydyw ynghyd ag unrhyw daliadau gwasanaeth y mae’n rhaid i chi eu talu (fel ar gyfer cynnal a chadw lifft neu olchfa gymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi neu ddŵr ar gyfer eich cartref.

Ystafelloedd gwely sbâr

Gellir lleihau eich Budd-dal Tai os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dai cymdeithasol a bod gennych ystafell wely sbâr. Y gostyngiad yw:

  • 14% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 1 ystafell wely sbâr
  • 25% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 2 ystafell wely sbâr neu fwy

Enghraifft

Eich rhent cymwys yw £100 yr wythnos, ond mae gennych 1 ystafell wely sbâr. Mae hynny’n golygu bod eich rhent cymwys yn cael ei ostwng gan14%, i £86 yr wythnos. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r ffigwr hwnnw.

Rhannu ystafelloedd gwely

Disgwylir i’r canlynol rannu:

  • cwpl sy’n oedolion
  • 2 blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
  • 2 blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo’u rhyw)

Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:

  • oedolyn sengl (16 oed neu’n hŷn)
  • plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes yn cael eu defnyddio, er enghraifft mae gennych chi 3 phlentyn a 2 eisoes yn rhannu
  • cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
  • gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall - dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi y mae hyn ond weithiau’n gorfod aros dros nos

Caniateir un ystafell wely sbâr ar gyfer:

  • gofalwr maeth cymeradwy sydd rhwng lleoliadau ond dim ond am hyd at 52 wythnos o ddiwedd y lleoliad diwethaf
  • gofalwr maeth newydd ei gymeradwyo am hyd at 52 wythnos o ddyddiad y gymeradwyaeth os na roddir plentyn gyda nhw yn ystod yr amser hwnnw

Ni fydd ystafelloedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog neu wrth gefn yn cael eu cyfrif fel rhai ‘sbâr’ os ydyn nhw i ffwrdd ac yn bwriadu dychwelyd adref.

Rhent preifat

Os ydych yn rhentu’n breifat, eich swm rhent cymwys yw naill ai’ch cyfradd Lwfans Tai Lleol (LHA) neu’ch rhent gwirioneddol, p’un bynnag sydd isaf. Mae’r gyfradd LHA yn seiliedig ar:

Faint allwch ei gael

Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:

  • ffigwr isaf eich rhent ‘cymwys’ neu gyfradd LHA
  • incwm eich cartref gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
  • eich amgylchiadau (er enghraifft eich oedran neu a oes gennych anabledd)

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os ydych yn byw mewn:

  • cwch tŷ neu angorfa
  • safle carafanau
  • ystafell gydag unrhyw brydau bwyd wedi’u cynnwys yn y rhent (a elwir weithiau’n gartref preswyl)
  • hostel
  • eiddo a ddiogelir gan y Ddeddf Rhent

Eithriad

Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008, mae’r cyfyngiadau hyn ond yn berthnasol os ydych yn:

  • newid cyfeiriad
  • cael seibiant yn eich cais am Fudd-dal Tai

Sut rydych yn cael eich talu

Mae’r ffordd rydych yn cael Budd-dal Tai wedi’i ddalu gan eich cyngor yn dibynnu ar y math o denant ydych chi.

Os ydych yn:

  • tenant y cyngor, mae’n cael ei dalu i’ch cyfrif rhent (ni fyddwch yn derbyn yr arian)
  • tenant preifat neu gymdeithas dai, mae’n cael ei dalu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (anaml gyda siec)

Y cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-dal yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych wedi’ch effeithio, bydd eich Budd-dal Tai yn gostwng i sicrhau nad yw cyfanswm y budd-dal a gewch yn fwy na lefel y cap. Defnyddiwch y cyfrifiannell cap budd-daliadau i ddarganfod sut mae’r cap ar fudd-dal yn effeithio arnoch chi.

Apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai.

3. Cefnogi eich cais

Byddwch angen darparu rhywfaint o wybodaeth a thystiolaeth i gefnogi’ch cais am Fudd-dal Tai.

Byddwch yn cael Budd-dal Tai yn gyflymach os bydd hyn ar gael pan fyddwch yn gwneud eich cais.

Byddwch angen gwybod:

  • faint o rent rydych chi’n ei dalu
  • a oes unrhyw beth arall wedi’i gynnwys yn y rhent, fel taliadau dŵr, nwy neu drydan
  • os ydych chi’n talu unrhyw daliadau gwasanaeth, gan gynnwys cynnal a chadw adeiladau neu yswiriant
  • manylion eich landlord neu asiant

Mathau arbennig o denantiaeth

Os cychwynnodd eich tenantiaeth bresennol ym 1997 neu’n gynharach a’ch bod yn rhentu gan landlord preifat, bydd angen i chi wybod a oes gennych ‘denantiaeth sicr’. Gallwch wirio’ch tenantiaeth ar wefan Shelter.

Os ydych yn byw mewn ac yn talu rhent am eiddo’r llywodraeth (‘Tenant y Goron’), nid oes gennych hawl i Fudd-dal Tai. Mae hyn yn cynnwys y lluoedd arfog sy’n byw mewn llety teulu gwasanaeth (SFA).

Tystiolaeth y bydd yn rhaid i chi ei darparu

Bydd angen i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid copïau. Mae’r dystiolaeth ategol y bydd ei hangen arnoch yn cynnwys:

  • eich slipiau cyflog diweddaraf (5 os telir yn wythnosol, neu 2 os telir yn fisol)
  • cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu am y 2 fis llawn diwethaf
  • prawf o incwm neu fuddsoddiadau eraill, gan gynnwys cyfranddaliadau, ISAs neu Fondiau Premiwm
  • prawf incwm ar gyfer unrhyw rai nad ydynt yn ddibynyddion sy’n byw gyda chi, fel perthnasau sy’n oedolion neu ffrindiau

Bydd angen prawf o enw a chyfeiriad eich partner arnoch chi hefyd. Ni allwch ddefnyddio’r un ddogfen i brofi eu henw a’u cyfeiriad.

Rhowch unrhyw 2 o’r canlynol:

  • trwydded gyrru cerdyn llun y DU
  • pasbort cyfredol
  • tystysgrif geni neu briodas
  • trwydded breswylio biometreg
  • tystysgrif cofrestru neu naturoli
  • cerdyn preswylio parhaol
  • llythyr gan Gyllid a Thollau EM (HMRC) neu’r Swyddfa Gartref
  • bil cyfleustodau diweddar
  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu ddiweddar
  • datganiadau dyfarnu budd-daliadau diweddar

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat

Byddwch angen darparu un o’r canlynol hefyd:

  • cytundeb tenantiaeth neu lyfr rhent
  • llythyr gan eich landlord yn cadarnhau eich tenantiaeth - fel rheol darperir hwn ar ddechrau eich tenantiaeth

4. Sut i wneud cais

Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i’r mwyafrif o bobl hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais.

Gallwch naill ai wneud cais:

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais am Fudd-dal Tai.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai fel rhan o’ch cais Credyd Pensiwn.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn ar-lein neu cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais.

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon manylion eich cais am Fudd-dal Tai i’ch cyngor.

Gwasanaeth Pensiwn Ffôn: 0800 99 1234 Ffôn testun: 0800 169 0133 Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Hawlio ymlaen llaw ac ôl-ddyddio

Gallwch hawlio ymlaen llaw hyd at 13 wythnos (neu 17 wythnos os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn), er enghraifft os ydych chi’n symud. Ni fyddwch fel arfer yn cael unrhyw arian cyn i chi symud.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu ôl-ddyddio’ch cais - gofynnwch i’ch cyngor.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Gallwch ofyn i’ch cyngor am ailystyried penderfyniad Budd-dal Tai.

Os ydych yn anfodolon â’r ymateb gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar eich cyfer chi ac unrhyw un arall yn eich tŷ.

Efallai y bydd eich cais yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwynod am newid mewn amgylchiadau ar unwaith.

Gall y newidiadau gynnwys:

  • dechrau neu stopio gwaith, addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • newidiadau i’r budd-daliadau rydych chi neu unrhyw un arall yn eich tŷ yn eu cael
  • newidiadau i’ch pensiwn personol neu bensiwn gweithle
  • newidiadau i’ch cynilion, buddsoddiadau neu eiddo
  • eich incwm yn mynd i fyny neu i lawr
  • symud tŷ
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • mynd dramor am unrhyw hyd
  • mynd i’r ysbyty, cartref gofal neu lety cysgodol
  • pobl sy’n symud i mewn neu allan o’ch tŷ (er enghraifft eich partner, plentyn neu letywr)
  • cael babi
  • eich partner neu rywun rydych chi’n byw gyda nhw yn marw
  • eich plentyn yn troi’n 18 oed
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig

Cysylltwch â’ch cyngor os nad ydych yn sicr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Sut i roi gwybod

Rhowch wybod am newid mewn amgylchiadau i’ch cyngor.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill

Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar gyfer yr holl fudd-daliadau a gewch.

Os yw’ch budd-dalidau eraill yn dod i ben

Mae rhai budd-daliadau yn dod i ben os ewch yn ôl i’r gwaith, gweithio mwy o oriau neu ennill mwy o arian.

Os bydd hyn yn digwydd, gallai eich cyngor:

  • rhoi 4 wythnos ychwanegol o fudd-dal tai i chi (‘Taliad Estynedig o Fudd-dal Tai’)
  • dechrau talu ‘Budd-dal Tai mewn Gwaith’ i chi

Nid oes rhaid i chi wneud cais - bydd eich cyngor yn penderfynu a ydych chi’n gymwys i gael help ac yn ysgrifennu i roi gwybod i chi.

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os rydych:

  • heb roi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi gwybodaeth anghywir
  • wedi cael eich eich gordalu trwy gamgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

6. Help gyda chostau tai eraill

Ni fydd Budd-dal Tai yn cwmpasu gwresogi, dŵr poeth, ynni neu fwyd. Os ydych angen help, defnyddiwch cyfrifiannell budd-daliadau i weld beth arall y gallai fod gennych hawl iddo.

Cymorth ychwanegol i dalu’r rhent

Gallech hefyd wneud cais am help ychwanegol gan eich cyngor os nad yw’ch Budd-dal Tai yn talu am eich rhent. Gelwir hyn yn Daliad Tai Dewisol.

Help gyda chostau gwresogi

Gwiriwch pa help y gallwch ei gael gyda chostau gwresogi ac ynni.