Budd-dal Plant os ydych yn gadael y DU

Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych yn mynd dramor am fwy nag 8 wythnos.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mynd dramor am gyfnod byr

Byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant os ydych yn gadael y DU am gyfnod byr, er enghraifft i fynd ar wyliau neu ar gyfer triniaeth feddygol.

Rheswm dros adael Pa mor hir y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn parhau
Marwolaeth aelod o’ch teulu Hyd at 12 wythnos
Triniaeth feddygol ar eich cyfer chi, neu ar gyfer aelod o’ch teulu Hyd at 12 wythnos
Unrhyw reswm arall, er enghraifft gwyliau neu fusnes Hyd at 8 wythnos

Mynd dramor am gyfnod hirach

Mae’n bosibl y gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am gyfnod hirach os ewch i fyw mewn gwledydd penodol, neu os ydych yn was y Goron.

Byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Os gwnaethoch symud i wlad yn yr UE (yn Saesneg), y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein cyn 1 Ionawr 2021 (neu os ydych yn cael eich cwmpasu gan un o amodau eraill Cytundeb Ymadael â’r UE), mae’n bosibl y byddwch yn cael Budd-dal Plant am y plant sy’n byw gyda chi. Bydd angen i’r canlynol fod yn wir:

Mae’n bosibl y gallwch hefyd gael Budd-dal Plant os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith newydd
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gweddwon)
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Os ydych chi a’ch partner yn byw mewn gwledydd gwahanol, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant, neu’r budd-dal cyfatebol, yn y ddwy wlad. Fel arfer, y wlad lle mae’r plentyn yn byw yw’r wlad sy’n talu’r budd-dal. Os yw’r budd-dal yn uwch yn y wlad arall, bydd y wlad honno yn talu swm ychwanegol i chi.

Byw mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU

Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn byw yn un o’r gwledydd canlynol:

  • Barbados
  • Bosnia a Herzegovina
  • Canada
  • Ynysoedd y Sianel
  • Israel
  • Kosovo
  • Mauritius
  • Montenegro
  • Seland Newydd
  • Gogledd Macedonia
  • Gweriniaeth Iwerddon
  • Serbia

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant i gael gwybod os gallwch wneud hawliad.

Gweision y Goron sydd wedi’u lleoli dramor

Gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn was y Goron ac yn gweithio unrhyw le y tu allan i’r DU – a hynny os yw’ch plentyn yn byw gyda chi neu beidio. Mae’n rhaid i chi naill ai fod wedi byw yn y DU, neu fod wedi cael eich lleoli yn y DU, cyn i chi gael eich lleoli dramor.

Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith os ydych yn gadael y DU er mwyn cael eich lleoli dramor. Gallwch wneud hyn drwy naill ai: