Budd-dal Plant ar gyfer plant sydd yn yr ysbyty neu mewn gofal

Efallai y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn cael eu heffeithio os bydd eich plentyn yn mynd:

  • i ofal preswyl neu ‘lety preswyl’ am fwy nag 8 wythnos
  • i’r ysbyty am fwy na 12 wythnos

Telir am lety preswyl (a elwir yn ‘ofal preswyl’ o bryd i’w gilydd) gan eich cyngor lleol, fel arfer oherwydd bod gan eich plentyn anabledd meddyliol neu gorfforol. Mae’n wahanol i ‘ofal’ gan eich bod yn dal i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am eich plentyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF), os bydd hyn yn digwydd. Gallwch wneud hyn:

Seibiannau yn ystod arhosiad yn yr ysbyty

Os bydd y plentyn yn mynd yn ôl i’r ysbyty o fewn 28 diwrnod o’i adael, bydd cyfanswm yr amser a dreuliodd yn yr ysbyty yn dal i gyfrif tuag at y terfyn o 12 wythnos.

Ar ôl 8 neu 12 wythnos

Fel arfer, nid oes hawl gennych i Fudd-dal Plant mwyach ar ôl y terfyn amser. Mae yna eithriadau i’r rheol hwn, er enghraifft:

  • ar gyfer plant mewn gofal – os ydynt yn treulio o leiaf 24 awr yr wythnos gartref
  • ar gyfer plant mewn ysbyty yn y DU neu lety preswyl – os ydych yn gwario arian arnynt yn rheolaidd
  • ar gyfer plant mewn ysbyty tramor – os aethant dramor dim ond i fod yn yr ysbyty a’ch bod chi yn ôl yn y DU ac yn gwario arian arnynt yn rheolaidd

Dim ond os ydych yn briod neu’n bartner sifil a’ch bod yn byw gyda’ch gilydd y bydd arian eich partner yn cyfrif.

Gwirio gyda CThEF i ddysgu a yw eithriadau yn berthnasol i chi.

Efallai y byddwch yn gallu hawlio Budd-dal Plant eto os yw’r plentyn mewn gofal ond mae’n treulio 2 noson yn olynol bob wythnos neu 7 diwrnod neu fwy yn olynol gartref. Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ddysgu am yr hyn i’w wneud nesaf.