Beth i'w wneud ar ôl i rywun farw

Printable version

1. Cofrestru y farwolaeth

Cofrestru’r farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban) - mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Byddwch yn cael ‘tystysgrif claddu’ i’w rhoi i’r trefnydd angladdau, neu gais am amlosgi y mae’n rhaid i chi ei gwblhau a’i roi i’r amlosgfa.

Rhaid i chi wneud un o’r rhain cyn y gellir cynnal yr angladd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

2. Pan fydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner

Os rhoddir gwybod i grwner am farwolaeth, gall y dogfennau sydd eu hangen arnoch i gofrestru’r farwolaeth fod yn wahanol. Bydd y crwner yn penderfynu naill ai:

  • bod achos y farwolaeth yn glir
  • bod angen post-mortem
  • i gynnal cwest

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae achos y farwolaeth yn glir

Os yw’r crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir:

  1. Byddant yn rhoi tystysgrif i’r cofrestrydd yn dweud nad oes angen post-mortem neu gwest.

  2. Bydd y cofrestrydd yn cofrestru’r farwolaeth.

##Mae angen post-mortem

Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod angen post-mortem i ddarganfod sut y bu farw’r unigolyn. Gellir gwneud hyn naill ai mewn ysbyty neu fortiwari.

Ni allwch wrthwynebu post-mortem crwner - ond os ydych wedi gofyn mae’n rhaid i’r crwner ddweud wrthych (a meddyg teulu’r unigolyn) pryd a ble y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal.

Ar ôl y post-mortem

Bydd y crwner yn rhyddhau’r corff ar gyfer angladd ar ôl iddo gwblhau’r archwiliadau post-mortem ac nid oes angen archwiliadau pellach.

Os caiff y corff ei ryddhau heb unrhyw gwest, bydd y crwner yn anfon ffurflen (‘Pink Form - form 100B’) at y cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth.

Bydd y crwner hefyd yn anfon ‘Certificate of Coroner - form Cremation 6’ os yw’r corff i gael ei amlosgi.

Mae’r crwner yn cynnal cwest

Rhaid i grwner gynnal cwest os yw:

  • achos y farwolaeth yn dal yn anhysbys
  • gallai’r person fod wedi cael marwolaeth dreisgar neu annaturiol
  • gallai’r person fod wedi marw yn y carchar neu ddalfa’r heddlu

Tystysgrifau marwolaeth

Os oes angen prawf o’r farwolaeth arnoch wrth i chi aros i’r cwest orffen, gofynnwch i’r crwner am dystysgrif marwolaeth dros dro.

Unwaith y bydd y cwest drosodd, gallwch gael y dystysgrif marwolaeth derfynol gan y cofrestrydd.

Gallwch ddefnyddio’r naill dystysgrif i:

Cael help

Gallwch gael cymorth annibynol am ddim gan The Coroners’ Courts Support Service.

The Coroners’ Courts Support Service

Llinell Gymorth (Cymru a Lloegr)\

Ffôn: 0300 111 2141 \

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 7pm\

Dydd Sadwrn, 9am i 2pm\

Darganfyddwch am gostau galwadau

3. Beth i'w wneud os bydd rhywun yn marw dramor

Rhaid i chi gofrestru marwolaeth gyda’r awdurdodau lleol yn y wlad lle bu farw’r person.

Mewn nifer o wledydd gallwch hefyd gofrestru’r farwolaeth gydag awdurdodau’r DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr. Mae yna broses gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rhoi gwybod am y farwolaeth

Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.

Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person bu farw:

  • fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  •  dramor dros dro (er enghraifft, ar wyliau neu daith busnes)

Cysylltwch â swyddfa gofrestru i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Byddant naill ai’n:

  • cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
  • rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn

Os na allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, rhowch wybod i sefydliadau am y farwolaeth eich hun

Darganfyddwch fwy am ddelio â marwolaeth tramor.

Dod â’r corff adref

I ddod â’r corff adref mae’n rhaid i chi:

  • cael cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth
  • cael caniatâd i symud y corff, a gyhoeddwyd gan grwner (neu swyddog cyfatebol) yn y wlad lle bu farw’r person
  • rhoi gwybod i grwner yn Lloegr os oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol

Darllenwch gwybodaeth am y wlad lle bu farw’r person i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud.

Cysylltwch â swyddfa gofrestru

Unwaith y bydd y corff gartref, ewch â’r dystysgrif marwolaeth i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle mae’r angladd yn cael ei gynnal.

Gan fod y farwolaeth eisoes wedi’i chofrestru dramor, bydd y cofrestrydd yn rhoi ‘tystysgrif dim atebolrwydd i gofrestru’ i chi. Rhowch hwn i’r trefnydd angladdau fel y gall yr angladd fynd yn ei flaen.

Os ydych chi’n trefnu’r angladd eich hun, rhowch y dystysgrif yn ôl i’r cofrestrydd ar ôl i’r angladd gael ei gynnal. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 96 awr i’r angladd.

Pryd y bydd crwner yn gysylltiedig

Bydd crwner fel arfer yn cynnal cwest yng Nghymru neu Loegr os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu os oedd yn sydyn, yn dreisgar neu’n annaturiol.

Mae angen tystysgrif gan y crwner arnoch (ffurflen ‘Amlosgiad 6’) os yw’r person i gael ei amlosgi.

Dod â lludw adref

Wrth adael gwlad gyda lludw dynol fel arfer bydd angen i chi ddangos:

  • y dystysgrif marwolaeth
  • y dystysgrif amlosgi

Mae gan bob gwlad ei rheolau ei hun ynghylch gadael gyda lludw dynol ac efallai y bydd gofynion ychwanegol. Darllenwch gwybodaeth am y wlad lle bu farw’r person i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd angen i chi lenwi ffurflen tollau safonol pan fyddwch yn cyrraedd adref.

Cysylltwch â’ch cwmni hedfan i ddarganfod a allwch chi gario’r lludw fel bagiau llaw neu fel bagiau wedi’u cofrestru. Efallai y bydd yn gofyn i chi roi’r lludw mewn cynhwysydd anfetelaidd fel y gallant gael pelydr-x.

Ni ddylech gael y person wedi’i amlosgi dramor os ydych am i grwner gartref gynnal cwest i’w farwolaeth.

4. Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn caniatáu i chi roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person a fu farw yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae hyn yn cynnwys os bu farw’r person tra roeddent dramor dros dro, er enghraifft ar wyliau neu daith fusnes.

Mae’n rhaid bod y farwolaeth naill ai’n:

  • cael ei gofrestru
  • cael ei hadrodd i grwner a bod gennych dystysgrif farwolaeth derfynol neu dros dro

Ni allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person yn:

Sut i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Bydd cofrestrydd yn egluro’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth. Byddant naill ai’n:

  • cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
  • rhoi cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn

Bydd y cofrestrydd yn rhoi rhif i chi ei ffonio. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Relay UK os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn.

Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod ar ôl cael eich cyfeirnod unigryw.

Os na allwch gofrestru’r farwolaeth oherwydd bod cwest ar y gweill, gallwch barhau i ofyn i gofrestrydd am gyfeirnod unigryw. Bydd angen i chi gael tystysgrif marwolaeth dros dro gan y crwner sy’n cynnal y cwest yn gyntaf.

Cyn i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Bydd angen y rhif cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith a gawsoch gan y Cofrestrydd.

Bydd hefyd angen manylion canlynol y person a fu farw:

  • cyfenw
  • y dyddiad y bu farw
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y person neu’r cwmni sy’n delio â’i ystâd (eiddo ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu ‘weinyddwr’
  • os oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif Yswiriant Gwladol neu ddyddiad geni’r priod neu bartner sifil
  • os nad oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, neu os nad yw eu priod neu bartner sifil yn gallu delio â’u materion, enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
  • os bu farw mewn ysbyty, cartref nyrsio, cartref gofal neu hosbis, enw a chyfeiriad y sefydliad hwnnw - gofynnir i chi hefyd a oedd yr arhosiad am 28 diwrnod neu fwy

Efallai byddwch hefyd angen:

  • os oedd ganddynt basbort, eu rhif pasbort a’u tref enedigol
  • os oedd ganddynt drwydded yrru, rhif eu trwydded yrru
  • os oedd yn berchen ar unrhyw gerbydau, y rhifau cofrestru cerbydau
  • os oedd yn talu treth y cyngor neu’n cael gwasanaethau gan eu cyngor lleol, fel taliadau Budd-dal Tai, enw eu cyngor lleol a pha wasanaethau yr oedd yn eu cael
  • os oedd ganddynt fathodyn glas, eu rhif bathodyn glas os ydych yn ei wybod
  • os oedd yn cael unrhyw fudd-daliadau, credydau treth neu bensiwn y wladwriaeth, gwybodaeth am ba rai yr oedd yn eu cael
  • os oedd yn cael arian o gynllun pensiwn neu iawndal lluoedd arfog, manylion y cynllun hwnnw
  • os oedd yn cael arian neu’n talu i mewn i gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus, manylion y cynlluniau hynny

Bydd angen eu rhif Yswiriant Gwladol arnoch hefyd os oeddent yn cael arian neu’n talu i mewn i unrhyw un o’r cynlluniau pensiwn canlynol:

  • Pensiynau GIG ar gyfer staff y GIG yng Nghymru a Lloegr
  • Cynlluniau Asiantaeth Pensiwn Cyhoeddus yr Alban ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
  • Cronfa Diogelu Pensiynau a Chynllun Cymorth Ariannol
  • Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

Fel arall, nid oes angen eu rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Fodd bynnag, os gallwch chi ei ddarparu o hyd, bydd yn helpu rhai sefydliadau i baru eu cofnodion yn gyflymach.

Mae angen caniatâd arnoch gan unrhyw briod neu bartner sifil sydd wedi goroesi, y perthynas agosaf, ysgutor, gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd gyda’r unigolyn a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.

Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein

Dechrau nawr

Sefydliadau y bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn hysbysu:

  • Cyllid a Thollau EF (HMRC) - i ddelio â threth bersonol ac i ganslo budd-daliadau a chredydau, er enghraifft Budd-dal Plant a chredydau treth.
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - i ganslo budd-daliadau a hawliau, er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Bensiwn y Wladwriaeth
  • Swyddfa Basbort - i ganslo pasbort Prydeinig
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded, dileu yr unigolyn fel ceidwad hyd at 5 cerbyd a chanslo treth cerbyd
  • y cyngor lleol - i ganslo Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Gyngor (a elwir weithiau’n Gymorth Treth Gyngor), Bathodyn Glas, hysbysu gwasanaethau tai cyngor a thynnu’r person o’r gofrestr etholiadol
  • Veterans UK - i ganslo neu ddiweddaru taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Nawdd Cymdeithasol yr Alban - i ganslo budd-daliadau a hawliadau gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban

Bydd CThEF a’r DWP yn cysylltu â chi ynglŷn â threth, budd-daliadau a hawliau’r unigolyn a fu farw.

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith hefyd yn cysylltu â rhai cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus fel eu bod yn canslo taliadau pensiwn yn y dyfodol. Byddant yn rhoi gwybod i:

  • Cynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog
  • Pensiynau’r GIG ar gyfer staff GIG yng Nghymru a Lloegr
  • Cynlluniau pensiwn ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
  • Cronfa Amddiffyn Pensiwn a Chynllun Cymorth Ariannol
  • Cynlluniau Pensiwn Awdurdodau Lleol (LGPS)

Ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

I gau neu newid manylion cyfrifon ariannol y person, bydd angen i chi gysylltu â sefydliadau fel:

  • banciau
  • darparwyr morgeisi
  • darparwyr yswiriant
  • cwmnïau yr oedd gan y person gontractau â nhw, fel cwmnïau cyfleustodau, landlordiaid neu gymdeithasau tai
  • cynlluniau pensiwn personol neu weithle, oni bai eu bod yn un o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus y mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw

Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cynlluniau pensiwn y person, gallwch chwilio am fanylion cyswllt pensiwn.

Efallai y bydd angen i chi hefyd:

Os nad ydych yn defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliadau perthnasol am y farwolaeth eich hun.

5. Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith

Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyllid a Thollau EF (HMRC)

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF, a fydd yn gweithio allan a yw’r swm cywir o dreth wedi’i dalu gan y person a fu farw. Byddant yn rhoi gwybod i chi:

  • pa dreth sydd angen iddynt ei chasglu neu ei had-dalu
  • a oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar ran yr unigolyn, er enghraifft pan fydd yr ystad yn parhau i gael incwm

Gallwch hefyd ddefnyddio teclyn profedigaeth HMRC i weithio allan pa ffurflenni i’w llenwi a ble i’w hanfon.

Efallai y bydd Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ystâd yr unigolyn ar ôl iddynt farw.

Efallai y gallwch gael cyngor treth am ddim os ydych ar incwm isel.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI)

Cysylltwch â Swyddfa Cyfraniadau i ganslo taliadau Yswiriant Gwladol y person os oedd yn hunangyflogedig neu’n talu Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Budd-dal Plant

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd plentyn neu’r rhiant yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 8 wythnos ar ôl y farwolaeth.

Swyddfa Credydau Treth

Cysylltwch â’r Swyddfa Credydau Treth os yw’ch partner neu blentyn rydych yn gyfrifol amdano yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn mis ar ôl y farwolaeth.

Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Cysylltwch â’r gwasanaeth profedigaeth i ganslo budd-daliadau a hawliau’r unigolyn, gan gynnwys eu Pensiwn y Wladwriaeth. Byddant hefyd yn gwirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd neu fudd-daliadau eraill.

Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
NGT text relay (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch os gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Llinell Saesneg: 0800 151 2012
Ffôn Testun Saesneg: 0800 731 0464
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os oeddent yn byw dramor pan fu farw, cysylltwch â’r Canolfan Bensiwn Rhyngwladol yn lle

Pensiynau personol, gweithle a’r lluoedd arfog

Bydd yr hyn sydd angen i chi ei wneud i atal taliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.

Defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn i ddod o hyd i fanylion pensiwn personol neu bensiwn gweithle’r unigolyn.

Cysylltwch â Veterans UK os oedd gan y person bensiwn lluoedd arfog.

Cerbydau a thrwyddedau gyrru

Cysylltwch â Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau (DVLA) os oedd gan y person drwydded yrru neu os oedd yn berchen ar gerbyd.

HM Swyddfa Basport (HMPO)

Llenwch y ffurflen ‘Beth i’w wneud pan fydd deiliad pasbort yn marw’ a’i anfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Nawdd Cymdeithasol yr Alban

Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol yr Alban i ganslo budd-daliadau a hawliau’r person gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban. Gallant hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd.

Rhadffôn: 0800 182 2222
Ffôn (os ydych y tu allan i’r DU): +44 (0)1382 931 000 - mae taliadau’n berthnasol ond gallwch ofyn iddynt eich ffonio’n ôl
cysylltwch ag ap cyfnewid fideoSCOTLAND ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm\

Cael gwybod am daliadau galwadau

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os oedd y person yn ad-dalu benthyciadau myfyriwr iddynt.

6. Trefnu yr angladd

Fel rheol dim ond ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru y gellir cynnal yr angladd. Gallwch dalu am drefnydd angladdau i drefnu’r angladd neu ei wneud eich hun.

Dylech wirio a oedd y person a fu farw wedi gwneud trefniadau ar gyfer ei angladd - gallai hyn gynnwys cynlluniau angladd rhagdaledig neu yswiriant bywyd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Trefnwyr angladdau

Os ydych yn llogi trefnydd angladdau, dewiswch drefnydd angladdau sy’n aelod o’r naill neu’r llall:

Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer - rhaid iddynt roi rhestr o brisiau i chi pan ofynnir iddynt.

Mae rhai cynghorau lleol yn rhedeg gwasanaethau angladd eu hunain, er enghraifft, ar gyfer claddedigaethau digrefydd. Mae’r British Humanist Association a Institute of Civil Funerals hefyd yn gallu helpu gydag angladdau digrefydd.

Trefnu’r angladd eich hun

Cysylltwch ag Adran Mynwentydd ac Amlosgfa eich cyngor lleol i drefnu angladd eich hun.

Costau angladd

Gall costau angladd gynnwys:

  • ffioedd trefnydd angladdau
  • pethau y mae’r trefnydd angladdau yn talu amdanynt ar eich rhan (a elwir yn ‘alldaliadau’ neu ‘gostau trydydd parti’), er enghraifft, amlosgfeydd neu ffioedd mynwentydd, neu gyhoeddiad papur newydd am y farwolaeth
  • ffioedd claddu neu amlosgi awdurdodau lleol

Gall trefnwyr angladd restru’r holl gostau hyn yn eu dyfynbris. Gallwch gael dyfynbrisiau gan sawl trefnydd angladdau i weld beth sydd ar gael o fewn eich cyllideb.

Mae gan HelpwrArian wybodaeth am gostau angladd a sut i’w leihau.

Talu am angladd

Gellir talu am yr angladd:

  • o gynllun ariannol roedd gan yr unigolyn, er enghraifft, cynllun angladd neu bolisi yswiriant wedi’i dalu ymlaen llaw
  • gennych chi, neu aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau
  • gydag arian o ystad yr unigolyn (cynilion, er enghraifft) - gelwir cael mynediad at hyn yn gwneud cais am ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir weithiau’n ‘gwneud cais am brofiant’)

Gallwch wneud cais am Daliad Costau Angladd os ydych yn cael anhawster talu am yr angladd.

Symud corff ar gyfer angladd dramor

Rydych angen caniatâd gan grwner i symud corff ar gyfer angladd dramor. Gwnewch gais o leiaf 4 diwrnod cyn eich bod am i’r corff gael ei symud.

Dewch o hyd i grwner lleol gan ddefnyddio Coroners’ Society of England and Wales website.

Mae proses wahanol i

7. Beth i'w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw

Beth i’w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw

Rhaid i chi gofrestru’r farwolaeth yn y ffordd arferol, ond efallai y bydd angen i chi roi gwybod am farwolaeth plentyn i sefydliadau eraill yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Mae gwahanol reolau ar gyfer cofrestru farw enedig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Budd-dal Plant

Dylech ddweud wrth y swyddfa Budd-dal plant cyn gynted â phosibl os ydych chi’n hawlio Budd-dal Plant.

Bydd taliadau Budd-dal Plant fel arfer yn parhau am 8 wythnos ar ôl marwolaeth plentyn.

Efallai y byddwch yn dal i allu hawlio Budd-dal Plant os bu farw’ch plentyn cyn i chi wneud cais.

Os bydd baban newydd-anedig yn marw

Mae gennych hawl i hyd at 8 wythnos o Fudd-dal Plant os ydych yn gwneud cais o fewn 3 mis ar ôl y farwolaeth.

Os bu farw’r plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni ynddo, yr 8 wythnos yn dechrau o’r dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.

Os yw plentyn yn farwanedig

Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Plant os yw’r plentyn yn farwanedig.

Credydau Treth

Os ydych yn hawlio credydau treth a bod eich plentyn yn marw, gall eich taliadau newid. Bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EF (HMRC) o fewn mis ar ôl y farwolaeth. Os na wnewch fe allech chi:

  • orfod talu gordaliadau yn ôl
  • peidio â chael yr holl arian sy’n ddyledus i chi

Gallwch barhau i gael credydau treth am hyd at 8 wythnos yn dilyn y farwolaeth.

Os bu farw’r plentyn cyn i chi hawlio credydau treth, gallwch ddal hawlio (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig). Ffoniwch HMRC i wneud cais.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Gallwch gael y grant o hyd os ydych yn gymwys. Mae’n rhaid i chi wneud cais cyn pen 3 mis ar ôl yr enedigaeth.

Absenoldeb a thâl mamolaeth a thadolaeth

Byddwch yn dal yn gymwys i gael absenoldeb a thâl os yw eich baban:

  • yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd
  • yn marw ar ôl cael ei eni

Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl statudol mewn profedigaeth os ydych yn gyflogedig a naill ai bod:

  • bod eich plentyn yn marw cyn iddynt gyrraedd 18 oed
  • yn farw enedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd

Rhaid bod y farwolaeth neu’r farw enedig fod wedi digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020.

Taliadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Pan fydd plentyn yn marw, mae unrhyw arian yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant - gan gynnwys unrhyw daliadau gan y llywodraeth - fel arfer yn cael ei drosglwyddo i bwy bynnag sy’n etifeddu ystâd y plentyn.

8. Cymorth a Chefnogaeth Profedigaeth

Mae profedigaeth yn brofiad personol a gall effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth a gwybodaeth am brofedigaeth gan y sefydliadau a ganlyn:

Gallwch ddod o hyd i rywun i siarad ag am brofedigaeth o’r sefydliadau canlynol:

Mae gan Gyngor ar Bopeth canllaw ar beth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth a phethau y gallai fod angen i chi eu gwneud, yn dibynnu ar yr amgylchiadau